Telerau ac Amodau Pryniant
1. Diffiniadau
'Awdurdodedig’ – mae hyn yn golygu wedi’i
lofnodi gan un O’n Swyddogion Awdurdodedig.
'Swyddog Awdurdodedig’ - mae hyn yn golygu Ein
haelod staff a Awdurdodwyd gennym Ni, naill ai’n gyffredinol neu’n
benodol, i lofnodi Ein Harcheb Bryniant, a gellir cael cadarnhad o hyn
gan Swyddog Pryniant y Brifysgol.
'Contract' eglurir ystyr hyn yn Amod 2 isod.
‘FOIA’ Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (fel
y caiff ei diwygio o bryd i’w gilydd);
'Nwyddau’
mae hyn yn golygu’r nwyddau, eitemau, gweithiau a gwasanaethau a
ddisgrifir yn y Contract.
‘Gwybodaeth’ fel y caiff ei diffinio dan
adran 84 y FOIA;
'Diwygiad Archeb' – mae hyn yn golygu Ein Diwygiad
Archeb Awdurdodedig neu gyfres o Ddiwygiadau Archeb, gyda phob Diwygiad
Archeb yn cael blaenoriaeth dros unrhyw Ddiwygiad Archeb cynharach.
'Pecynnu' mae hyn yn cynnwys unrhyw fath o Becynnu, yn
cynnwys bagiau, casys, costrelau, silindrau, drymiau, paletau, wagenni
tanc a chynwysyddion eraill.
'Pris' eglurir ystyr hyn yn Amod 3 isod.
'Archeb Bryniant’ – mae hyn yn golygu Ein
Harcheb Bryniant Awdurdodedig gyda’r Amodau Pryniant Cyffredinol
hyn ar ei chefn neu ynghlwm wrthi, neu’n cyfeirio at yr Amodau Pryniant
Cyffredinol hyn ar ei hwyneb.
'Deddf Gwerthiant Nwyddau 1979' – mae hyn yn golygu
Deddf Gwerthiant Nwyddau 1979 a ddiwygiwyd gan Ddeddf Gwerthiant a Chyflenwad
Nwyddau 1994
'Deddf Cyflenwad Nwyddau a Gwasanaethau 1982' mae hyn
yn golygu Deddf Cyflenwad Nwyddau a Gwasanaethau 1982 a ddiwygiwyd gan
Ddeddf Gwerthiant a Chyflenwad Nwyddau 1994.
'Ni’ ac 'Ein’ – mae
hyn yn golygu Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd. LL57
2DG
'Chi’ ac ‘Eich’ –
mae hyn yn golygu’r unigolyn neu gwmni y mae’r Archeb Bryniant
wedi ei chyfeirio ato/atynt ac unrhyw aelodau staff, is-gontractwyr neu
asiantwyr yn gweithredu ar ran yr unigolyn neu gwmni dan sylw.
2. Y Contract
Rydych Chi’n cytuno i werthu ac rydym Ni’n cytuno i brynu’r
Nwyddau yn unol â’r Contract. Bydd y Contract yn cynnwys (yn
nhrefn blaenoriaeth): unrhyw ddiwygiadau archeb, yr Archeb Bryniant, yr
amodau pryniant cyffredinol hyn ac unrhyw ddogfen arall (neu ran o ddogfen)
y cyfeiriwyd ati ar yr Archeb Bryniant. Ni fydd y Contract yn cynnwys
unrhyw o’ch amodau gwerthiant Chi, er gwaethaf cyfeirio atynt mewn
unrhyw ddogfen arall. Fodd bynnag, pe bai llys gydag awdurdodaeth ddigonol
yn ystyried bod y Contract hwn yn cynnwys eich telerau ac amodau gwerthiant
Chi, yna pe bai unrhyw wrthdaro neu wrthdaro ymddangosiadol bydd yr amodau
pryniant cyffredinol hyn yn cael blaenoriaeth bob amser dros eich telerau
ac amodau gwerthiant Chi. Bydd Danfon Nwyddau mewn ymateb i Archeb Bryniant
neu Ddiwygiad Archeb yn arwyddocáu eich bod wedi derbyn telerau
ac amodau’r Contract hwn.
3. Pris
Byddwch Chi yn gwerthu’r Nwyddau i ni am y pris pendant a sefydlog
a nodir yn y Contract. Oni nodir unrhyw Bris yn y Contract yna bydd y
Pris yn Bris rhesymol, gan gymryd i ystyriaeth amodau’r farchnad
ar y pryd. Bydd y Pris yn cynnwys storio, Pecynnu, yswiriant, danfon,
gosod a chomisiynu (fel bo’n berthnasol) ond ni fydd yn cynnwys
TAW.
4. Amrywiadau
Bydd gennym yr hawl, cyn derbyn y Nwyddau, i anfon Diwygiad Archeb atoch
yn ychwanegu at, dileu neu addasu’r Nwyddau. Os bydd y Diwygiad
Archeb yn achosi newid i’r Pris neu ddyddiad danfon, yna mae’n
rhaid i Chi ohirio cyflawni’r Contract a rhoi gwybod i Ni yn ddi-oed,
gan gyfrifo’r Pris a’r dyddiad danfon newydd ar yr un lefel
cost a phroffidioldeb â’r Pris gwreiddiol. Mae’n rhaid
i chi ganiatáu i Ni o leiaf 10 diwrnod gwaith i ystyried unrhyw
Bris a dyddiad danfon newydd. Daw’r Diwygiad Archeb i rym pan ond
yn unig os bydd Ein Swyddog Awdurdodedig yn derbyn yn ysgrifenedig y Pris
a’r dyddiad danfon newydd o fewn yr amser a bennir gennych Chi.
Pe na bai Ein Swyddog Awdurdodedig yn cadarnhau’r Diwygiad Archeb
o fewn yr amser a bennir gennych Chi yna ailddechreuir cyflawni’r
Contract yn syth fel pe na bai’r Diwygiad Archeb wedi cael ei wneud
(ac eithrio y gallwn Ni barhau i ddefnyddio Ein hawl i ganslo yn unol
ag Amod 5).
5. Ein hawl i ganslo
Yn ychwanegol at Ein hawliau canslo eraill dan y Contract hwn, gallwn
hefyd ganslo’r Archeb Bryniant ac unrhyw Ddiwygiad Archeb iddi unrhyw
bryd drwy anfon rhybudd terfynu atoch Chi. Byddwch yn cydymffurfio ag
unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol gennym Ni ynglyn â’r Nwyddau.
Os byddwch yn cyflwyno hawliad terfynu yna byddwn Ni’n talu i Chi
gost unrhyw ymrwymiadau, rhwymedigaethau neu wariant a oedd yn ein barn
resymol Ni yn ganlyniad y Contract hwn ar adeg ei derfynu. Ni fydd cyfanswm
yr holl daliadau a wneir neu a fydd yn ddyledus i Chi o dan y Contract
hwn, yn cynnwys unrhyw daliad terfynu, yn fwy na’r Pris. Os na fyddwch
Chi yn cyflwyno hawliad terfynu o fewn tri mis o ddyddiad Ein rhybudd
terfynu yna ni fydd gennym Ni unrhyw rwymedigaeth bellach o dan y Contract.
6.Ansawdd a disgrifiad
- Bydd y Nwyddau:
- yn cydymffurfio ym mhob ffordd â darpariaethau’r Contract
- yn gallu cyflawni’r holl safonau perfformiad a bennir yn y Contract
- yn addas ar gyfer unrhyw ddiben a wnaed yn hysbys i Chi naill ai’n benodol neu’n oblygedig ac yn hynny o beth rydym yn dibynnu ar eich medr a’ch barn Chi
- yn newydd (oni bai y nodwyd fel arall ar yr Archeb Bryniant) ac wedi eu gwneud o ddeunyddiau da ac o wneuthuriad medrus a gofalus
- yn cyfateb i’w disgrifiad neu i unrhyw samplau, patrymau, darluniau, cynlluniau a manylebau y cyfeiriwyd atynt yn y Contract
- o ansawdd boddhaol
- yn cydymffurfio ag unrhyw ddeddfwriaeth gyfredol
- Oni bai y gofynnir yn benodol am hynny yn y Contract, ni fydd y Nwyddau’n cynnwys unrhyw asbestos.
7. Gwaith ar Ein heiddo
Os bydd y Contract yn cynnwys unrhyw waith neu wasanaethau a wneir gennych ar Ein heiddo yna bydd yr amodau canlynol mewn grym:
- Byddwch Chi yn sicrhau Eich bod Chi a’ch gweithwyr, Eich is-gontractwyr a’u gweithwyr ac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â Chi yn cadw ym mhob ffordd at y rhwymedigaethau a osodwyd arnoch gan ddeddfwriaeth ddiogelwch gyfredol.
- Byddwch Chi yn sicrhau Eich bod Chi a’ch gweithwyr, Eich is-gontractwyr a’u gweithwyr ac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â Chi yn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau y gallwn Ni roi gwybod amdanynt i Chi yn ysgrifenedig.
8. Cynnydd ac archwiliad
- Byddwch Chi ar Eich cost eich hun yn darparu unrhyw raglenni cynhyrchu a danfon y gallwn yn rhesymol ofyn amdanynt. Byddwch yn rhoi gwybod i Ni yn ysgrifenedig yn ddi-oed os bydd Eich cynnydd yn llithro ar ôl neu’n debygol o lithro ar ôl gydag unrhyw rai o’r rhaglenni hyn.
- Bydd gennym yr hawl i wirio cynnydd yn Eich gwaith neu waith is-gontractwyr ar bob adeg resymol, i archwilio ac i wrthod Nwyddau nad ydynt yn cydymffurfio â’r Contract. Bydd Eich is-gontractau’n cadw’r fath hawl i Ni.
- Ni fydd unrhyw archwiliad, neu gymeradwyaeth, yn eich rhyddhau Chi o’ch ymrwymiadau o dan y Contract hwn.
9. Deunydd Pecynnu
Oni bai y nodir yn y Contract, ni ddychwelir unrhyw Ddeunydd Pecynnu.
Os nodir yn y Contract bod y Deunydd Pecynnu i’w ddychwelyd, mae’n
rhaid i Chi roi cyfarwyddiadau llawn i ni cyn yr adeg danfon. Mae’n
rhaid nodi’n glir ar y Deunydd Pecynnu i bwy y mae’n eiddo.
Mae’n rhaid i Chi dalu holl gostau cludo a thrin a thrafod ar gyfer
dychwelyd y Deunydd Pecynnu. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw Ddeunydd Pecynnu
a gaiff ei golli neu ei niweidio ar y ffordd. Lle danfonir Nwyddau gyda
cherbyd ffordd, gall Deunydd Pecynnu gwag gael ei ddychwelyd yn yr un
cerbyd.
10.Diogelwch
Mae’n rhaid i Chi gadw at holl ofynion cyfreithiol y Deyrnas Unedig,
yr Undeb Ewropeaidd a chytundebau rhyngwladol perthnasol yn ymwneud ag
iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, ac yn arbennig â marcio
Nwyddau peryglus, darparu taflenni data ar gyfer deunyddiau peryglus a
phob darpariaeth yn ymwneud â bwyd. Rhaid i Nwyddau Peryglus gael
eu marcio’n glir a dangos enw’r deunydd yn Saesneg. Rhaid
i ddogfennau cludiant a dogfennau eraill gynnwys datganiad o’r perygl
ac enw’r deunydd yn Saesneg. Rhaid cael gwybodaeth argyfwng yn Saesneg
gyda’r Nwyddau.
11. Danfon
- Bydd y Nwyddau wedi eu pacio’n briodol, eu sicrhau a’u hanfon ar Eich cost Chi i gyrraedd mewn cyflwr da ar yr adeg neu’r adegau ac yn y lle neu leoedd a bennir yn y Contract.
- Pe bai Chi neu Eich cariwr yn danfon unrhyw Nwyddau ar yr adeg anghywir neu i’r man anghywir yna gallwn Ni dynnu o’r Pris unrhyw gostau storio neu gludiant sy’n deillio o hynny.
12. Danfon hwyr
Os nad chaiff y Nwyddau neu unrhyw ran ohonynt eu danfon erbyn yr adeg
neu’r adegau a bennir yn y Contract yna gallwn Ni trwy rybudd ysgrifenedig
ganslo gweddill y Nwyddau na ddanfonwyd. Gallwn hefyd ddychwelyd am gredyd
llawn ac ar Eich cost Chi unrhyw Nwyddau na ellir yn Ein barn Ni eu defnyddio
oherwydd y canslo hwn. Yn achos gwasanaethau gallwn gael cyflawni’r
gwaith trwy ddulliau eraill a bydd unrhyw gostau ychwanegol a geir yn
rhesymol felly ar Eich cost Chi. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw hawliau
eraill sydd gennym.
13. Eiddo a risg
- Byddwch yn ysgwyddo pob risg o golled neu ddifrod i’r Nwyddau nes byddant wedi’u danfon a byddwch yn eu hyswirio’n unol â hynny.
- Trosglwyddir perchenogaeth dros y Nwyddau i Ni:
- pan fydd y Nwyddau wedi cael eu danfon ond heb niweidio Ein hawl i’w
gwrthod o dan y Contract hwn,
a - pan fyddir wedi talu amdanynt yn llawn NEU os byddwn yn talu ymlaen llaw neu fesul cam, ar yr adeg y gwneir taliad o’r fath, ac yn yr achos hwnnw mae’n rhaid i Chi weithredu cyn gynted â phosibl i farcio’r Nwyddau fel Ein heiddo.
- pan fydd y Nwyddau wedi cael eu danfon ond heb niweidio Ein hawl i’w
gwrthod o dan y Contract hwn,
14. Derbyn
Bydd gennym yr hawl i wrthod y Nwyddau yn gyfan neu’n rhannol p’run
a dalwyd amdanynt yn llawn neu’n rhannol o fewn cyfnod rhesymol
o’u danfon os nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion y Contract
hwn. Cytunir y gallwn ddefnyddio’r hawl i wrthod er gwaethaf unrhyw
ddarpariaeth a geir yn adran 11 neu adran 15A neu adran 30 (is-adrannau
2A a 2B) neu Adran 35 Deddf Gwerthu Nwyddau 1979. Byddwn yn rhoi cyfle
rhesymol i chi roi Nwyddau newydd yn eu lle sy’n cydymffurfio â’r
Contract hwn, ar ôl hynny bydd gennym hawl i ganslo’r Archeb
Bryniant a’r phrynu’r Nwyddau agosaf sy’n cyfateb iddynt
o rywle arall. Os canslir dan yr amod hwn byddwch Chi’n ad-dalu’n
ddi-oed unrhyw arian a dalwyd dan y Contract heb ddal gafael ar unrhyw
gyfran. Ni fydd canslo’r Archeb Bryniant o dan yr amod hwn yn effeithio
ar unrhyw hawliau eraill all fod gennym Ni. Mae’n rhaid i chi nôl
unrhyw Nwyddau a wrthodwyd o fewn cyfnod rhesymol neu byddwn Ni’n
eu dychwelyd atoch ar Eich risg a’ch cost eich hun.
15. Talu
Oni bai y nodir fel arall yn y Contract byddwn yn talu 30 diwrnod ar ôl
derbyn anfoneb gywir. Rhaid i’ch anfoneb gael ei chyfeirio at yr
adran a nodwyd ar yr Archeb Bryniant a rhaid nodi rhif llawn yr Archeb
Bryniant. Dangosir TAW, lle bo’n berthnasol, ar wahân ar bob
anfoneb fel cost net ychwanegol. Ni fyddwn Ni’n gyfrifol am oedi
cyn talu a achosir gan Eich methiant i gydymffurfio â’n cyfarwyddiadau
anfonebu.
16. Eich Gwarant
Cytunir yn ffurfiol rhyngom:
- Y byddwch yn unioni’n ddi-oed ar Eich cost Eich hun unrhyw ddiffyg yn y Nwyddau a ganfyddir gennym wrth eu defnyddio’n briodol yn ystod y 12 mis cyntaf o ddefnydd gwirioneddol neu 18 mis ers eu derbyn gennym, pa bynnag gyfnod fydd yn gorffen gyntaf. Gall y cyfryw ddiffygion ddeillio o’ch cynlluniau diffygiol Chi, Eich cyfarwyddiadau camarweiniol ynglyn â’u defnyddio neu ddeunyddiau annigonol neu ddiffygiol neu grefftwaith gwael neu dorri Eich rhwymedigaethau mewn unrhyw ffordd arall boed yn y Contract hwn neu yn ôl y gyfraith.
- Bydd trwsio neu ddarparu Nwyddau yn eu lle yn dod dan y warant uchod ond am gyfnod o 12 mis o’u derbyn gennym Ni.
- Byddwch yn sicrhau bod darnau sbâr addas ar gael i hwyluso trwsio (lle bo’n berthnasol) am gyfnod o fan leiaf 10 mlynedd o ddyddiad danfon y Nwyddau.
17. Indemniad ac yswiriant
- Byddwch yn ein hindemnio Ni yn erbyn unrhyw golledion, gweithrediadau, costau, hawliadau, gofynion, treuliau a rhwymedigaethau beth bynnag y bônt (os o gwbl) y gallwn eu cael naill ai yn y gyfraith gyffredin neu drwy statud mewn perthynas ag anaf personol neu farwolaeth unrhyw un neu mewn perthynas ag unrhyw golled neu ddifrod neu niwed i eiddo (ac eithrio o ganlyniad i unrhyw ddiffyg neu esgeulustod gennym ni neu unrhyw un yr ydym yn gyfrifol amdano) a fydd wedi digwydd mewn cysylltiad ag unrhyw waith a wneir gennych Chi o dan y Contract hwn neu yr honnir sydd i’w briodoli i ryw ddiffyg yn y Nwyddau.
- Rhoddir yr Archeb Bryniant hon ar yr amod y byddwch (yn ddiragfarn i gyffredinolrwydd Amod 17(a) yn ein hindemnio Ni yn erbyn unrhyw golledion, costau, hawliadau, gofynion, treuliau a rhwymedigaethau beth bynnag y bônt (os o gwbl) y gallwn eu cael naill ai yn y gyfraith gyffredin neu drwy statud(ac eithrio o ganlyniad i unrhyw ddiffyg neu esgeulustod gennym ni neu unrhyw un yr ydym yn gyfrifol amdano) mewn perthynas ag anaf neu farwolaeth unrhyw un o aelodau staff Chi neu Ni, asiantwyr, is-gontractwyr neu gynrychiolwyr eraill tra byddant ar Ein heiddo p’run a ydyw’r bobl hynny (ar yr adeg pan achosir y cyfryw anaf personol neu farwolaeth) yn cyflawni eu gwaith.
- Byddwch yn ein hindemnio Ni yn erbyn unrhyw a phob colledion, costau, treuliau a rhwymedigaethau a achosi i Ni naill ai’n uniongyrchol neu o ganlyniad i weithred, hawliad neu ofynion unrhyw drydydd parti oherwydd eich bod Chi wedi torri’r amodau hyn neu unrhyw rai o’r telerau neu rwymedigaethau ar Eich rhan a awgrymir gan Ddeddf Gwerthiant Nwyddau 1979, Deddf Gwerthiant a Chyflenwad Nwyddau 1982 neu unrhyw statud neu ddarpariaeth statudol arall perthnasol i’r Contract neu i’r Nwyddau neu waith a ddaw o dano. Ni chaiff yr indemniad hwn ei beryglu neu ei hepgor trwy weithredu Ein hawliau o dan Amod 14.
- Bydd gennych yswiriant boddhaol gydag yswiriwr dibynadwy i gyflawni Eich rhwymedigaethau yswiriant dros gyfnod y Contract hwn yn cynnwys yswiriant atebolrwydd cyhoeddus o fan leiaf £2M (dwy filiwn o bunnau Sterling). Bydd gennych yswiriant yn erbyn yr holl risgiau hynny’n deillio o’ch indemniad yn Amod 17(c). Bydd tystiolaeth foddhaol o’r cyfryw yswiriant a thalu premiymau cyfrefol yn cael ei dangos i Ni os gofynnir amdani.
18. Adfer Symiau Dyladwy
Pryd bynnag o dan y Contract y bydd unrhyw symiau arian yn adferadwy oddi
wrthych neu yn ddyledus gennych Chi, gellir eu tynnu o unrhyw symiau sy’n
ddyledus bryd hynny, neu a all ddod yn ddyledus i Chi yn y dyfodol dan
y Contract hwn neu dan unrhyw Gontract arall y gellwch ei gael gyda Ni.
19. Materion y tu hwnt i reolaeth
Os caiff y naill ochr neu’r llall ei dal yn ôl neu ei rhwystro rhag cyflawni ei rhwymedigaethau dan y Contract hwn oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y naill ochr neu’r llall (yn cynnwys heb gyfyngiad unrhyw ffurf ar ymyrraeth llywodraeth, streiciau a chloi allan perthnasol i’r Archeb Bryniant neu offer yn torri), gohirir cyflawni’r gwaith, ac os na ellir ei gwblhau o fewn amser rhesymol ar ôl y dyddiad penodedig fel y nodwyd yn yr Archeb Bryniant, yna gall y Contract gael ei ganslo gan y naill ochr neu’r llall. Byddwn yn talu i Chi unrhyw swm a fo’n deg a rhesymol o ystyried holl amgylchiadau’r achos mewn perthynas â gwaith a gyflawnwyd gennych dan yr Archeb Bryniant cyn y canslo ond dim ond mewn perthynas â gwaith yr ydym Ni wedi cael budd llawn ohono fel y bwriadwyd yn wreiddiol yn y Contract. Gall y ddarpariaeth hon ddod i rym yn unig os bydd yr ochr sy’n dymuno manteisio arni yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i’r ochr arall.
20. Eitemau ar fenthyg a defnyddio gwybodaeth
- Bydd yr holl offer, deunyddiau, lluniadau, manylebau a chyfarpar a data eraill (yr ‘Eitemau’) a fenthycir gennym i Chi mewn cysylltiad â’r Contract yn parhau’n eiddo i Ni bob amser ac fe’u dychwelir i Ni mewn cyflwr da a defnyddiadwy (caniateir traul rhesymol) pan ofynnir amdanynt ac maent i’w defnyddio gennych Chi yn unig i ddiben cwblhau’r Contract. Rydych yn cytuno na wneir copi o unrhyw un o’r eitemau heb ganiatâd ysgrifenedig gan Ein Swyddog Awdurdodedig. Hyd nes byddwch yn dychwelyd yr eitemau i Ni, byddwch yn eu cadw ar eich menter Chi ac wedi eu hyswirio ar Eich cost Chi rhag colli, lladrad neu ddifrod. Byddwch Chi ar Eich cost Eich hun yn talu am unrhyw golled neu ddifrod i eitemau o’r fath. Rhaid cael gwared ar holl sgrap yn deillio o gyflenwi eitemau o’r fath yn ôl Ein doethineb a rhaid i’r holl elw o werthu’r cyfryw sgrap gael ei dalu’n llawn i Ni yn ddi-oed.
- Bydd unrhyw wybodaeth yn deillio o’n heiddo neu a gaiff ei chyfathrebu i Chi fel arall mewn cysylltiad â’r Contract yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac ni chaiff heb ganiatâd ysgrifenedig Ein Swyddog Awdurdodedig ei chyhoeddi neu ei datgelu i unrhyw drydydd parti, neu ei defnyddio gennych Chi ac eithrio i ddiben gweithredu’r Contract.
21. Perchenogaeth o’r canlyniadau
Os yw’r Contract yn ymwneud â gwaith dylunio ac/neu ddatblygu:
- Bydd yr holl hawliau yng nghanlyniadau gwaith yn deillio o’r Contract hwn, yn cynnwys dyfeisiadau, dyluniadau, hawlfraint a gwybodaeth, yn eiddo i Ni a Ni fydd â’r unig hawl i benderfynu a dyllid gwneud cais am unrhyw lythyrau patent, dyluniad cofrestredig, nod masnach neu warchodaeth arall.
- Byddwch yn rhoi gwybod i Ni’n ddi-oed am yr holl gyfryw ganlyniadau a byddwch os gofynnir i Chi ac ar Ein traul Ni yn gwneud pob gweithred a peth angenrheidiol i’n galluogi Ni neu Ein henwebai i gael llythyrau patent, dyluniadau cofrestredig a gwarchodaeth arall dros y cyfryw ganlyniadau ym mhob tiriogaeth ac i drosglwyddo’r cyfryw i Ni neu Ein henwebai.
- Byddwch yn sicrhau bod pob gwybodaeth dechnegol (yn cynnwys rhaglenni cyfrifiadurol a gwybodaeth raglennu) yn deillio o’r Contract hwn yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol ac eithrio unrhyw wybodaeth sy’n dod yn eiddo cyhoeddus heblaw trwy dorri’r Contract hwn.
22. Tor-patentau
Ac eithrio Nwyddau a wneir i’n cynllun neu gyfarwyddiadau Ni, rydych
yn gwarantu na fydd y Nwyddau na’n defnydd Ni ohonynt yn torri unrhyw
batent, dyluniad cofrestredig, nod masnach, hawlfraint neu hawl gwarchodedig
arall, ac yn ymrwymo i’n hindemnio Ni rhag holl weithrediadau, hawliadau,
costau a threuliau yn deillio o neu a achosir oherwydd unrhyw dor-patent
neu dor-patent honedig o’r fath.
23. Torri amodau
Pe baech yn torri neu’n peidio â chadw at unrhyw ddarpariaeth
o’r Contract hwn gallwn roi rhybudd ysgrifenedig i Chi ynglyn â’r
cyfryw a bydd gennych 28 diwrnod o dderbyn y rhybudd i unioni’r
sefyllfa. Pe baech yn methu ag unioni’r sefyllfa wedyn, bydd gennym
yr hawl i roi rhybudd ysgrifenedig i Chi yn terfynu’r Contract yn
syth.
24.Eich methdaliad
Pe baech yn mynd yn fethdalwr neu (os ydych yn gwmni) yn gwneud trefniant
gyda’ch credydwyr i gael derbynnydd gweinyddol neu benodi gweinyddwr
neu ddechrau dirwyn y cwmni i ben (ac eithrio i ddibenion cyfuno neu ail-lunio)
gallwn Ni heb ddisodli neu leihau unrhyw rai o’n hawliau eraill
derfynu’r Contract yn syth trwy rybudd ysgrifenedig atoch Chi neu
at unrhyw un y gall y Contract gael ei ymddiried iddo.
25. Aseinio ac is-osod
Ni chaiff y Contract ei aseinio gennych Chi na’i is-osod yn gyflawn.
Ni chewch is-osod unrhyw ran o’r Contract heb Ein caniatâd
ysgrifenedig, ond ni fyddwn yn gwrthod caniatâd o’r fath yn
afresymol. Ni fydd y cyfyngiad a geir yn yr amod hon yn berthnasol i is-gontractau
am ddeunyddiau ar gyfer mân bethau neu am unrhyw ran lle caiff y
gwneuthurwyr eu henwi yn y Contract. Chi fydd yn gyfrifol am yr holl waith
a wneir a’r Nwyddau a gyflenwir gan yr holl is-gontractwyr.
26. Rhoddion llwgr
Mewn cysylltiad â hwn neu unrhyw Gontract arall rhyngoch Chi a Ni
ni fyddwch yn rhoi, darparu neu gynnig i’n staff a’n hasiantwyr
unrhyw fenthyciad, ffi, gwobr, rhodd neu unrhyw dâl neu fantais
o unrhyw fath. Pe torrir yr Amod hwn gallwn, yn ddiragfarn i unrhyw hawliau
eraill sydd gennym, derfynu’n syth hwn ac unrhyw Gontract arall
ac adfer gennych unrhyw golled neu niwed yn deillio o derfynu o’r
fath. Mae’r cwmni yn cydnabod bod y Brifysgol yn atebol i ofynion Deddf Llwgrwobrwyo 2010 a Pholisi Gwrth-lwgrwobrwyo Prifysgol Bangor a bydd yn cynorthwyo a chydweithio gyda’r Brifysgol yn unol â hynny.
27. Hepgor
Ni fydd methu unrhyw bryd â gweithredu unrhyw ddarpariaeth o’r
Contract yn effeithio ar yr hawl yn ddiweddarach i fynnu bod y Contract
yn cael ei gyflawni’n llwyr, ac ni fydd hepgor unrhyw ddarpariaeth
yn cael ei ystyried yn achos dros esgusodi torri’r ddarpariaeth
wedi hynny neu’n hepgoriad o’r ddarpariaeth ei hun.
28. Hysbysiadau
Bydd yr holl hysbysiadau a chyfathrebiadau y bydd angen eu hanfon gennych
Chi neu gennym Ni yn y Contract hwn yn ysgrifenedig ac fe’u hanfonir
gyda phost dosbarth cyntaf. Fe’u hanfonir atoch Chi yn Eich swyddfa
gofrestredig neu brif swyddfa ac atom Ni i’r Swyddog Pryniant, Prifysgol
Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor. Gwynedd. LL57 2DG ac ystyrir eu bod wedi
cyrraedd y sawl y maent wedi eu cyfeirio atynt ar y diwrnod busnes nesaf
yn dilyn y dyddiad postio.
29. Newidiadau
Ni fydd unrhyw ychwanegiad, addasiad neu amnewidiad i’r amodau hyn
yn Ein hymrwymo neu ffurfio rhan o’r Contract oni bai a hyd nes
eu bod wedi eu derbyn yn ysgrifenedig gan Ein Swyddog Awdurdodedig.
30. Rhyddid Gwybodaeth
1.1. Mae’r Cwmni’n cydnabod bod gan y Brifysgol ofynion o
dan y FOIA a bydd yn cynorthwyo a chydweithio â’r Brifysgol
i alluogi’r Brifysgol i gydymffurfio ag unrhyw ofynion datgelu Gwybodaeth.
1.2. Lle bo’r Brifysgol yn derbyn cais i ddatgelu unrhyw wybodaeth
sydd, dan y Cytundeb hwn, yn Wybodaeth Gyfrinachol y Cwmni, bydd yn hysbysu’r
Cwmni a bydd yn ymgynghori â’r Cwmni. Bydd y Cwmni’n
ymateb i’r Brifysgol o fewn 5 diwrnod gwaith o dderbyn cais y Brifysgol.
Pe na bai’r Cwmni’n ymateb o fewn y cyfnod penodedig, mae
hawl gan y Brifysgol i ddatgelu unrhyw Wybodaeth a ystyria’n briodol.
1.3. Bydd y Brifysgol yn gyfrifol am benderfynu yn ôl ei doethineb
llwyr p’run a ydyw’r Wybodaeth:
1.3.1. wedi
ei heithrio rhag ei datgelu yn unol â’r FOIA;
1.3.2. i’w datgelu mewn ymateb i gais am wybodaeth o dan yr FOIA
ac ni ddylai’r Cwmni ar unrhyw gyfrif ymateb yn uniongyrchol i gais
am wybodaeth oni bai ei fod wedi cael caniatâd pendant gan y Brifysgol
i wneud hynny.
1.4. Mae’r Cwmni’n cydnabod y gall fod yn ofynnol i’r
Brifysgol dan yr FOIA ddatgelu Gwybodaeth yn dilyn ymgynghori â’r
Cwmni ac ar ôl cymryd ei farn i ystyriaeth.
31. Y Gyfraith
Daw’r Contract hwn dan Gyfraith Cymru a Lloegr ac awdurdodaeth anghyfyngedig
llysoedd Cymru a Lloegr.