Dogfennau Pwysig
Public Contracts Regulations 2015 - Overview and Key Changes (pdf)
Canllawiau Pryniant yr Undeb Ewropeaidd
Mae’n ofynnol i’r brifysgol gydymffurfio â Chyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer pryniant nwyddau, gwasanaethau a chontractau gwaith cyhoeddus ar bob achlysur lle credir y bydd gwerth tebygol y contract yn uwch na’r trothwyon ariannol a nodir isod.
Rheoliadau Contractau Cyhoeddus yr UE
Dyma'r gwerthoedd trothwy a fydd mewn grym o Ionawr 1 2016 hyd 31 Rhagfyr 2017.
Contractau Cyflenwadau a Gwasanaethau
Llywodraeth Canolog - £106,047
Llywodraeth Is-Ganolog - £164,176
Gwaith
Yr holl gyrff - £4,104,394
Mae’n angenrheidiol i’r brifysgol roi hysbyseb yn yr Official Journal of the European Union (OJEU) yn nodi’r bwriad i gontractio ac yn gwahodd rhai i fynegi diddordeb. Unwaith y mae’r contract wedi’i ddyfarnu mae angen pellach i roi hysbysiad dyfarnu contract.
I drefnu i roi hysbyseb neu hysbysiad dyfarnu contract yn yr OJEU,
cysylltwch ag Uned Caffael Corfforaethol y Brifysgol.