Mynediad at Gontractau Pryniant
Gall y Brifysgol brynu o amrywiaeth eang o gontractau masnachol yn y sector cyhoeddus sy’n cynnig nwyddau a gwasanaethau ar delerau ffafriol.
Mae Strategaeth Bryniant y Brifysgol yn mynnu bod yr holl bryniannau perthnasol yn cael eu gwneud drwy’r contractau hyn oni bai bod rheswm busnes amlwg i’r gwrthwyneb.
Mae’r Brifysgol yn aelod o’r North Western Universities Purchasing Consortium (NWUPC) ac yn cael mynediad llawn at amrywiaeth o gontractau nwyddau. Mae’r Consortiwm wedi’i rannu’n nifer o grwpiau nwyddau ac mae gan Brifysgol Bangor gynrychiolydd ar gyfer pob grwp fel y nodir isod.
Gwasanaethau Gweinyddol a Phroffesiynol – Llyr Williams, Uned Caffael Corfforaethol
Clyweled– Paul Wood, Gwasanaethau TG
Arlwyo – Angela Church, Ystadau a Chyfleusterau
Cyfrifiaduro - Dave Robinson, Gwasanaethau TG
Cyflenwadau a Gwasanaethau Domestig – Yvonne Williams, Ystadau a Chyfleusterau
Dodrefn, Carpedi a Llenni - Clive Jones, Ystadau a Chyfleusterau
Labordy – Barry Grail, SBS
Ystadau– Alwyn Jones, Ystadau a Chyfleusterau
Papur ac Offer Swyddfa - Chris Benson, Uned Pryniant Corfforaethol
Telegyfathrebu – Jonathan Gould, Ystadau a Chyfleusterau
Sylwer bod y manylion a geir yn y meysydd canlynol yn gyfrinachol ac na ddylid eu datgelu i staff nad ydynt yn perthyn i’r Brifysgol.
Mae Contractau NWUPC ar gael ar gyfer amrywiaeth eang o nwyddau, yn cynnwys offer cyfrifiadurol, papur llungopïo, ffonau symudol, papur ac offer swyddfa, a llogi ceir.
I gofrestru a gweld rhestr lawn o gontractau sydd ar gael i’r Brifysgol, ewch i www.nwupc.ac.uk
Mae gan y sector cyhoeddus Cymreig amrywiaeth o drefniadau contract cystadleuol sydd ar gael i Brifysgol Bangor. I gofrestru a gweld y rhestr lawn o gontractau sydd ar gael i’r Brifysgol i’w defnyddio, ewch i www.Sell2Wales.co.uk a chlicio ar Contractau ac Adnoddau.
Mae 'Crown Commercial Services' (CCS) yn cynnwys amrywiaeth eang o gontractau sydd wedi cael eu tendro’n gystadleuol ar ran y sector cyhoeddus. I gofrestru a gweld y rhestr lawn o gontractau sydd ar gael i Brifysgolion eu defnyddio ewch i //ccs-agreements.cabinetoffice.gov.uk.
Gall mwy o gontractau cydweithredol ceal eu gweld ar www.pro5.org.