Gwybodaeth Bwysig
- Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y newidir dyddiadau cyfweliadau
- Rhaid i bob ymgeisydd ar y rhestr fer gofio dod â llun maint pasbort ohonynt eu hunain i'r cyfweliad.
- Rhaid i bob ymgeisydd ar y rhestr fer ddod â llungopïau a chopïau gwreiddiol o'u holl ddogfennaeth i'r cyfweliad
Cyfweld a Dewis: Nyrsio
Cyfweliadau Grŵp
Bydd gofyn i bob ymgeisydd ar y rhestr fer fynd i gyfweliad grŵp.
Ymgeiswyr BN...
- Cliciwch yma os ydych wedi cael eich gwahodd am gyfweliad ar gyfer y rhaglenni BN Oedolion, BN Iechyd Meddwl neu BN Anabledd Dysgu
- Cliciwch yma os ydych wedi cael eich gwahodd am gyfweliad ar gyfer rhaglen BN Plant
Os ydych wedi cael eich derbyn yn dilyn cyfweliad - cyrsiau BN
Os ydych wedi cael eich derbyn yn dilyn cyfweliad yna darllenwch y dudalen sy'n sôn am yr hyn fydd yn digwydd ar ôl y cyfweliad
Os cawsoch eich gwrthod yn dilyn cyfweliad neu os na chawsoch eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y cwrs BN
Darllenwch eich cynnig yn ofalus, oherwydd er eich bod efallai wedi cael eich gwrthod ar gyfer y cwrs BN, mae'n ddigon posib y bydd y brifysgol yn gwneud cynnig arall i chi ar gyfer cwrs gwahanol.
Os ydych wedi cael eich gwrthod yn dilyn cyfweliad yna darllenwch y dudalen sy'n sôn am yr hyn fydd yn digwydd os ydych wedi cael eich gwrthod ar ôl cael cyfweliad
Os ydych yn chwilio am wybodaeth am broses gyfweld a dewis BM Bydwreigiaeth cliciwch yma.