
Modiwl CXC-1016:
Llenyddiaeth Gyfoes
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
strong textAmcan y modiwl hwn yw cloriannu'n feirniadol, ar ffurf traethodau unigol a thrafodaethau seminar, ddetholiad o weithiau llenyddol cyfoes. Rhoddir sylw hefyd i gynllunio traethodau a threfnu gwybodaeth yn unol â chonfensiynau safonol.
Cynnwys cwrs
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddetholiad o weithiau gan lenorion cyfoes. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion technegol yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. dulliau cyfeirio, trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at destunau gosod y modiwl: yn achos pob testun yn ei dro, ceir darlithoedd rhagarweiniol cyn rhannu’n ddiweddarach yn grwpiau seminar a rydd gyfle i fyfyrwyr drafod y testunau ar lafar. Rhoddir deunyddiau sy’n berthnasol i’r modiwl ar safle Blackboard, a disgwylir i fyfyrwyr lawrlwytho’r deunyddiau hyn drostynt eu hunain. Ar Blackboard hefyd y ceir teitlau a rhestrau darllen y traethodau. Y ddau destun gosod yn 2016-17 fydd: Guto Dafydd, Ni Bia'r Awyr (2014), a Lleucu Roberts, Saith Oes Efa (2014).
Meini Prawf
da
B- - B+: Dylai traethodau ddangos dealltwriaeth dda o’r agweddau technegol perthnasol. Dylai’r traethodau a’r trafodaethau llafar ddangos gwybodaeth drylwyr o’r testunau a drafodir. Dylai’r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu i nodi nifer o gyfeiriadau cymharol perthnasol, gafael dda ar gystrawen a theithi’r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa’r maes penodol hwn, a pharodrwydd i fynegi barn bersonol yn hyderus ar nifer o ddadleuon a damcaniaethau.
ardderchog
A- - A*: Dylai traethodau ddangos dealltwriaeth ragorol o’r agweddau technegol perthnasol. Dylai’r traethodau a’r trafodaethau llafar ddangos gwybodaeth helaeth a manwl am y testunau a drafodir. Dylai’r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu aeddfed i ddefnyddio cyfeiriadau llenyddol cymharol, gafael gadarn ar gystrawen a theithi’r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa’r maes penodol hwn, a pharodrwydd i fynegi’n hyderus farn bersonol soffistigedig ar nifer o ddadleuon a damcaniaethau.
trothwy
D- - D+: Dylai traethodau ddangos dealltwriaeth o’r agweddau technegol perthnasol. Dylai’r traethodau a’r trafodaethau llafar ddangos cynefindra â’r testunau a drafodir. Dylai’r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu i nodi rhai cyfeiriadau cymharol perthnasol, gafael ar gystrawen a theithi’r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa’r maes penodol hwn, a gallu i fynegi barn bersonol ar amryw ddadleuon a damcaniaethau.
Canlyniad dysgu
-
Cloriannu’n feirniadol ac ymateb i weithiau llenyddol cyfoes
-
Cynllunio traethodau a chyflwyno manylion technegol yn unol â chonfensiynau safonol
-
Casglu a threfnu deunyddiau’n annibynnol
-
Pwyso a mesur arwyddocâd nifer o ystyriaethau cefndirol, e.e. rhai beirniadol, hanesyddol neu gyd-destunol
-
Cyflwyno gwybodaeth a datblygu dadleuon ar lafar
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
PRAWF DOSBARTH | Prawf technegol | 10.00 | |
TRAETHAWD | Traethawd | 30.00 | |
TRAETHAWD | Traethawd | 40.00 | |
LLAFAR | Cyfraniad llafar | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | Bydd y dosbarth yn rhannu'n nifer o grwpiau seminar i drafod testunau unigol yn fanwl. Disgwylir ichi gasglu a darllen deunydd perthnasol ar gyfer y seminarau hyn. Bydd y seminarau hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer y traethodau. |
8 |
Tutorial | Trefnir tiwtorialau unigol i ddychwelyd eich traethodau a rhoi adborth ar eich gwaith. |
2 |
Lecture | Ceir dau fath o ddarlithoedd yn y modiwl hwn sef hyfforddiant technegol a chyflwyniadau i'r testunau gosod. |
12 |
Private study | Ar sail yr arweiniad a geir yn y dosbarth, mewn rhestrau darllen a deunyddiau ar Blackboard, disgwylir i fyfyrwyr fynd ati i baratoi ar gyfer eu traethodau a'u seminarau. |
78 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Cynghorir myfyrwyr i brynu copiau personol o'r ddau lyfr gosod: - Guto Dafydd, *Ni Bia'r Awyr* (Cyhoeddiadau Barddas, 2014) - Lleucu Roberts, *Saith Oes Efa* (Talybont: Gwasg y Lolfa, 2014). Ceir manylion cyhoeddi llawn ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru, *[Gwales.com][1]*. [1]: http://Gwales
Rhestr ddarllen
Dafydd Morgan Lewis, adolygiad ar Ni Bia'r Awyr, gwefan Gwales, <http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781906396787&tsid=12>; cyrchwyd 30 Mehefin 2016.
John Rowlands, adolygiad ar Saith Oes Efa, gwefan Gwales, <http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781784610029&tsid=7>; cyrchwyd 30 Mehefin 2016.
Rhoddir rhagor o gyfeiriadau i fyfyrwyr ar ddechrau'r modiwl, e.e. drwy Blackboard.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 1 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 1 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 1 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 2 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 1 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 1 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 1 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 1 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 1 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 1 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 1 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 1 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 1 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 1 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 1 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 1 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 1 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 1 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 1 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 1 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 1 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 1 (LLB/LW)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)