
Modiwl SCU-3010:
Traethawd Hir
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Philosophy and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Gwenda Jones
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl traethawd hir 20 credyd yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr ymchwilio i faes sydd o ddiddordeb personol iddynt. Rhaid i'r testun a ddewisir fod yn gydnaws ag ymchwil yn y gwyddorau cymdeithas ac yn gysylltiedig â'ch pwnc gradd neilltuol. Beth bynnag fo'r testun a ddewisir, mae'n un o ofynion y traethawd hir bod myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth o'r berthynas rhwng theori a dulliau ymchwil.
Mae gan staff amrywiaeth o ddiddordebau ymchwil a gallant gynnig arbenigedd a chyngor yn yr holl brif ddulliau damcaniaethol o ymdrin â throseddeg, cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol. Mae eich traethawd hir yn gyfle i chi gyfnerthu eich gwybodaeth am theori, dull a materion o ddiddordeb sylweddol.
Cynnwys cwrs
Mae Traethawd Hir yn ddarn sylweddol o waith, yn cael ei gwblhau yn ystod y 3 flwyddyn. Mae'r traethawd terfynol tua 6,000 o eiriau.
Bydd gofyn i fyfyrwyr datblygu'r adolygiad llenyddiaeth trylwyr ym maes eich astudiaeth, sy'n trafod prif themâu eich testun. Mae'n bosib y byddwch wedi cwblhau rhywfaint o ymchwil gwreiddiol (ond mae hyn yn opsiynol) - er enghraifft, peth gwaith ymchwil meintiol neu ansoddol gwreiddiol y byddwch wedi ei gynnal gyda chymorth a chyfarwyddyd eich goruchwyliwr/aig. Drwy gydol y modiwl, byddwch yn datblygu eich dadansoddiad o'r llenyddiaeth, eich methodoleg ac unrhyw ddata a gasglwyd, ac yn ysgrifennu eich traethawd.
Meini Prawf
C- i C+
Da (C- hyd at C+)
Er mwyn llwyddo ar y lefel hon, bydd y myfyriwr/aig wedi cyflwyno Traethawd Hir disgrifiadol; dadansoddi rhai o faterion empeiraidd, theoretaidd, a methodolegol sy'n berthnasol i'r ymchwil; dangos ymwybyddiaeth dda a boddhaol o safle'r testun dan sylw oddi mewn i'r ddisgyblaeth; cyflwyno cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth weddol gyflawn a chywir.
trothwy
Trothwy (D- hyd at D+)
Cyflwyno traethawd hir sy’n rhoi sylw i un neu fwy o bynciau sylweddol; disgrifio rhai o’r prif ystyriaethau empirig ac/neu fethodolegol sy’n codi o’r llenyddiaeth ac unrhyw ddata eraill a gasglwyd yn ystod yr ymchwil; cyflwyno darn estynedig digonol o waith ysgrifenedig ynghyd â ffynonellau llyfryddol a chyfeiriadau sylfaenol.
da
Da (B- hyd at B+)
Er mwyn llwyddo ar y lefel hon, bydd y myfyriwr/aig wedi cyflwyno Traethawd Hir deallus a medrus; dadansoddi cyfres o faterion empeiraidd, theoretaidd, a methodolegol sy'n berthnasol i'r ymchwil; dangos ymwybyddiaeth gadarn o safle'r testun dan sylw oddi mewn i'r ddisgyblaeth; cyflwyno cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth briodol a chywir.
ardderchog
Rhagorol (A- hyd at A*)
Cyflwyno traethawd hir medrus iawn; dangos ymwybyddiaeth feirniadol o faterion empirig, theoretig a methodolegol fel y bo'n briodol i’r pwnc dan sylw; cyflwyno dadleuon/argymhellion cadarn i ategu themâu craidd y project; dangos ymwybyddiaeth dda o safle’r pwnc dan sylw yng nghyd-destun y maes gwyddorau cymdeithas perthnasol a’r gallu i gymryd rhan yn feirniadol mewn dadleuon cyfoes o fewn y llenyddiaeth berthnasol; rhoi gwybodaeth lyfryddol drefnus a thrylwyr, a chyflwyno gwaith cywir a thrwyadl iawn.
Canlyniad dysgu
-
Cyflwyno darn sylweddol o waith ysgrifenedig (6,000 o eiriau) sy'n seiliedig ar eich ymchwil eich hun yn y modiwl hwn.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
DISSERTATION | Traethawd Hir 6,000 (Sem2) | 100.00 | |
ASESIAD FFURFIANNOL | Pennod ddrafft (ni cheir marc, ond adborth ar gael) | 0.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 195 | |
Tutorial | 2 sesiwn galw heibio 2 awr yn ystod pythefnos cyntaf semester 1 gyda'r tiwtor traethawd hir. 9 sesiwn galw heibio o 20 munud yr un gyda'r tiwtor traethawd hir wedi'i wasgaru dros semester 1 a 2 |
5 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/scu-3010.htmlRhestr ddarllen
Alvesson, M. & Sandber, J. (2013). Constructing Research Questions: Doing Interesting Research, London: Sage Publications.
Bryman, A. (2016). Social research methods, Oxford: Oxford University Press. (5ed argraffiad).
Creswell, J. W. (2014). Research Design: Qualitative and Quantitative and Mixed Methods Approaches, 4th Edition, Thousand Oaks, CA: Sage Publications.
Denscombe, M. (2007).The good research guide: for small-scale social research projects, Maidenhead: Open University Press.
Gibbs, G.(2018). Analyzing qualitative data, 2nd Edition, Los Angeles, Sage Publications.
Gorad, S. (2013). Research Design: Creating robust approaches for the Social Sciences, London: Sage Publications.
Greetham, B. (2014). How to Write Your Undergraduate Dissertation. 2ail Argraffiad. Basingstoke, Palgrave Macmillan. (Argraffiad 1af 2009 hefyd yn y llyfrgell.)
Rudestam, K.E., and Newton, R. (2015). Surviving Your Dissertation: a Comprehensive Guide to Content and Process. 4ydd Argraffiad. Thousand Oaks, California: Sage. (Mae dau argraffiad cynharach hefyd ar gael yn y llyfrgell.)
Smith, K., Todd, M., and Waldman, J. (2009). Doing Your Undergraduate Social Science Dissertation. New York: Routledge. (Ar gael yn y llyfrgell fel e-lyfr hefyd).
Swetnam, D. (2009). Writing Your Dissertation: The Bestselling Guide to Planning, Preparing and Presenting First-class Work. Oxford: How to Books.
Walliman, N., and Appleton, J. (2009). Your Undergraduate Dissertation in Health and Social Care: The Essential Guide for Success. London: Sage. (Ar gael yn y llyfrgell fel e-lyfr.)
Winstanley, C. (2010). Writing a Dissertation For Dummies. Hoboken: Wiley.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- LL3M: BA Cymdeithaseg & Health and Social Care year 3 (BA/CHSC)
- LM52: BA Health & Social Care / Criminology & Criminal Justice year 3 (BA/HSCCCJ)
- LL53: BA Health & Social Care/Sociology year 3 (BA/HSCS)
- LL54: BA Hlth & Scl Care/Social Policy year 3 (BA/HSCSP)
- LL5K: Polisi Cymdeithasol & Health and Social Care year (BA/PCHSC)