
Modiwl XAC-3038:
Plant ag Anawsterau Cyfathrebu
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Education and Human Development
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Margiad Williams
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn ymchwilio i effaith y gwahanol fathau o anawsterau cyfathrebu ar blant a phobl ifanc. Bydd yn trafod goblygiadau oediad iaith, anhwylder iaith, ag anhwylderau cyfathrebu a chymdeithasol ar ryngweithiad cymdeithasol a datblygiad emosiynol/ymddygiadol plant a phobl ifanc yng nghyd destun cylch y cartref, ysgol, a’r gymuned. Trwy ddefnydd ymchwil cyfredol, theorïau a thrafodaeth grŵp, bydd effaith mae anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu plant a phobl ifanc ar eu datblygiad emosiynol a chymdeithasol yn cael ei ddadansoddi. Bydd y modiwl hefyd yn pwyso a mesur effeithiolrwydd strategaethau ymyrraeth.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad dealltwriaeth beirniadol myfyrwyr o anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu, a dadansoddi effaith y cyflyrau hyn ar sgiliau rhyngweithio cymdeithasol, a datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc trwy roi sylw i’r canlynol:
- Beth yw cyfathrebu a datblygiad cymdeithasol a chyfathrebu arferol?
- Gwahanol fathau o anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu.
- Diffygion sgiliau gan blant gydag anhwylderau cymdeithasu a chyfathrebu.
- Rhaglenni a strategaethau ymyrraeth i gefnogi plant a phobl ifanc gydag anhwylderau cymdeithasu a chyfathrebu.
- Effaith anhwylderau cymdeithasol a chyfathrebu ar deuluoedd.
Meini Prawf
da
B- i B+ Dylai bod myfyrwyr yn gallu cyflwyno trafodaeth dda iawn o anhwylder cyfathrebu cymdeithasol a dadansoddi’n gritigol yr ymchwil diweddaraf sy’n gysylltiedig ag ymyrraeth sy’n addas ar gyfer anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol. Byddem yn gallu defnyddio eu dealltwriaeth i ddangos sut mae anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol yn effeithio plant a theuluoedd a’r goblygiadau byr- a hir-dymor o’r anawsterau ar ddatblygiad plant a phobl ifanc.
trothwy
D- i D+ Dylai bod myfyrwyr yn gallu cyflwyno trafodaeth boddhaol o anhwylder cyfathrebu cymdeithasol a dadansoddi’n gritigol yr ymchwil diweddaraf sy’n gysylltiedig ag ymyrraeth sy’n addas ar gyfer anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol. Byddem yn gallu defnyddio eu dealltwriaeth sylfaenol i ddangos sut mae anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol yn effeithio plant a theuluoedd a’r goblygiadau byr- a hir-dymor o’r anawsterau ar ddatblygiad plant a phobl ifanc.
C- i C+
C- i C+ Dylai bod myfyrwyr yn gallu cyflwyno trafodaeth dda o anhwylder cyfathrebu cymdeithasol a dadansoddi’n gritigol yr ymchwil diweddaraf sy’n gysylltiedig ag ymyrraeth sy’n addas ar gyfer anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol. Byddem yn gallu defnyddio eu dealltwriaeth i ddangos sut mae anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol yn effeithio plant a theuluoedd a’r goblygiadau byr- a hir-dymor o’r anawsterau ar ddatblygiad plant a phobl ifanc.
ardderchog
A- i A* Dylai bod myfyrwyr yn gallu cyflwyno trafodaeth ardderchog o anhwylder cyfathrebu cymdeithasol a dadansoddi’n gritigol yr ymchwil diweddaraf sy’n gysylltiedig ag ymyrraeth sy’n addas ar gyfer anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol. Byddem yn gallu defnyddio eu dealltwriaeth drylwyr i ddangos sut mae anhwylderau cyfathrebu cymdeithasol yn effeithio plant a theuluoedd a’r goblygiadau byr- a hir-dymor o’r anawsterau ar ddatblygiad plant a phobl ifanc.
Canlyniad dysgu
-
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu a’u goblygiadau ar blant a phobl ifanc a’u teuluoedd.
-
Dangos dealltwriaeth feirniadol o effaith anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu ar ymddygiad cymdeithasol ag emosiynol plant a phobl ifanc, a goblygiadau hyn ar eu datblygiad o fewn teulu a’r gymdeithas.
-
Dadansoddi y dulliau o adnabod, ymateb a chefnogi anghenion plant a phobl ifanc gydag anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu.
-
Gwerthuso, trafod a adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau dysgu bersonol a’u perthnasu i’w barn a’u syniadau am blant a phobl ifanc gydag anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu a’u heffeithiau ar eu datblygiad emosiynol a chymdeithasol.
-
Gwerthuso’n feirniadol yr ymchwil am ymyrraethau ar gyfer anawsterau cyfathrebu a chymdeithasu.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Traethawd ar achoseg a diagnosis | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddiffinio a disgrifio anhwylder cyfathrebu cymdeithasol (e.e. awtistiaeth, anhawster iaith penodol, Syndrom Down, ayyb.). Yna bydd angen i'r myfyrwyr ddisgirifio sut mae’r anhwylder yn amlygu ei hun, ystyried achosion bosibl, a sut a phryd y gelir gwneud diagnosis |
50 |
TRAETHAWD | Dadansoddiad beirniadol o ymyrraethau | Gan ystyried yr anhwylder ddewiswyd yn nhraethawd 1, bydd gofyn i'r myfyrwyr drafod y dystiolaeth dros ymyrraeth ar gyfer triniaeth, yn ogystal a disgrifio'r ymyrraeth a gwerthuso yn feirniadol y tystiolaeth arbrofol i’w gefnogi |
50 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Sesiynau ar-lein wythnosol 1 x 2 awr, wythnosau 3-9 Tymor 2 [12 awr] |
12 | |
Private study | 7 awr o weithgareddau wythnosol, wythnosau 3-9 Tymor 2 fel paratoad i'r sesiynau ar-lein [42 awr] Astudio annibynol i Aseiniadau 1 a 2 [146 awr] |
188 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/xac-3038.htmlRhestr ddarllen
Frith (2008). Autism: A very short introduction. Oxford, UK: Oxford University Press
Hollander, Kolevzon, & Coyle (2011). Textbook of Autism Spectrum Disorders. Washington, DC: American Psychiatric Publishing Inc.
Schwartz (2011). Handbook of child language disorders. Hoboken, NJ: Taylor and Francis
Volkmar & Wiesner (2009). A practical guide to autism: what every parent, family member, and teacher needs to know. Hoboken, NJ: John Wiley & Sons
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 3 (BA/API)
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 3 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 3 (BA/APIPC)
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 3 (BA/APIS)
- X319: BA Childhood and Youth Studies and Psychology year 3 (BA/CYP)
- X313: BA Childhood and Youth Studies year 3 (BA/CYS)
- X317: BA Childhood and Youth Studies and Social Policy year 3 (BA/CYSP)
- X315: BA Childhood and Youth Studies and Sociology year 3 (BA/CYSS)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)