CANOLFAN ASTUDIAETHAU GALISAIDD YNG NGHYMRU

Ein Hymchwil

Mae'r Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru a'i chymdeithion yn cyhoeddi'n eang ac mewn amrywiaeth o fformatau. Mewn cydweithrediad â Chanolfan Astudiaethau Galisaidd Iwerddon, mae’r Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru yn cyhoeddi’r cyfnodolyn ar-lein mwyaf blaenllaw yn Galisia Studies, Galicia 21: Journal of Contemporary Galician Studies (sydd wedi cyhoeddi un rhifyn yn flynyddol ers 2009). Isod mae rhestr o’n cyhoeddiadau:

Miguélez-Carballeira, Helena (2014) Galiza, um povo sentimental? Género, cultura e política no imaginário nacional galego. Santiago de Compostela: Através Editora. 2015 Award for Best Essay in Galician Language, Association of Writers in Galician (AELG).

Miguélez-Carballeira, Helena (2013) Galicia, a Sentimental Nation: Gender, Culture and Politics. Cardiff: University of Wales Press.

Miguélez-Carballeira, Helena (2014) A Companion to Galician Culture. Woodbridge: Tamesis.

Miguélez-Carballeira, Helena and Kirsty Hooper (2009) Critical Approaches to the Nation in Galician Studies. Special issue of the Bulletin of Hispanic Studies 86 (2).

Miranda-Barreiro, David (2018) “From Pioneer of Comics to Cultural Myth: Castelao in Galician Graphic Biography.” European Comic Art, 11 (1): 66–86

Miguélez-Carballeira, Helena (2012) “From Sentimentality to Masculine Excess in Galician National Discourse: Approaching Ricardo Carvalho Calero’s Literary History.” Men and Masculinities 15 (4): 367–87.

Miranda-Barreiro, David (2013) “Extramunde: a narrativa da viaxe e o paradoxo da alteridade.” Galicia 21: Journal of Contemporary Galician Studies, Issue E, 2013: 57–75

Miguélez-Carballeira, Helena (2009) “Alternative Values: From the National to the Sentimental in Galician Literary History.” Bulletin of Hispanic Studies 86 (2): 71–92.

Miguélez-Carballeira, Helena (2008) “Inaugurar, reanudar, renovar: A escrita de Teresa Moure no contexto da narrativa feminista contemporánea.” Anuario de Estudos Galegos: 72–87.

López-López, Lorena (2018) “O poder nas marxes: post-humanismo tecnolóxico, mosntro e subvsersión n anarrativa de Cristina Pavón”, in M. Boguszewicz, Ana Garrido and Dolores Vilavedra (eds) Identidade(s) e xénero(s) na cultura galega: unha achega interdisciplinar, Instituto de Estudios Ibéricos e Iberoamericanos de la Universidad de Varsovia, 115–144.

Miranda-Barreiro, David (2017) “Cando chegamos ô Unai Estei’: Literary Representations of Galician Migration to New York in the first Half of the 20th Century”, in DePalma, Renée and Antía Pérez-Caramés (Eds.) Galician Migrations: A Case Study of Emerging Super-diversity, Springer, pp. 27–38.

Miguélez-Carballeira, Helena (2016) “Sentimentality as Consensus: Imagining Galicia in the Democratic Period.” In Engaging the Emotions in Spanish Culture and History, edited by Luisa Elena Delgado, Pura Fernández and Jo Labanyi, 210–24. Nashville: Vanderbilt University Press.

Miguélez-Carballeira, Helena (2014) “Rosalía de Castro: Life, Text and Afterlife.” In A Companion to Galician Culture, edited by Helena Miguélez-Carballeira, 175–193. Woodbridge: Tamesis.

Miguélez-Carballeira, Helena (2012) “¿Por qué Rosalía de Castro tenía razón? El caballero de las botas azules como texto antisistema.” In Canon y subversión: la narrativa de Rosalía de Castro, edited by Helena González and M.C. Rábade Villar, 121–38. Barcelona: Icaria.

Miguélez-Carballeira, Helena (2010) “Of Nouns and Adjectives: Women’s Narrative and Literary Criticism in Galicia.” In Creation, Publishing and Criticism: The Advance of Women’s Writing, edited by María Xesús Nogueira, Laura Lojo and Manuela Palacios, 119–32. Berlin & New York: Peter Lang.

As cantigas de Martin Codax en 55 idiomas. Translated from Galician-Portuguese into Welsh by Aled Llion Jones and Helena Miguélez-Carballeira. Universidade de Vigo, (2018).

Ifor Ap Glyn, Terfysg. Translated from Welsh to Galician by D. Miranda-Barreiro and Phil Davies, Dorna: expresión poética galega, 37 (2014).

María do Cebreiro, I am not from here, Exeter: Shearsman. Translated and with critical introduction by H. Miguélez-Carballeira (2010).

Miguélez-Carballeira, Helena (2014) “A casa de Rosalía, a Rosalía da casa: Historia, discurso e representación na Casa-Museo de Rosalía de Castro.” In Rosalía de Castro no século XXI: Unha nova ollada, edited by R. Álvarez et al. Santiago de Compostela: Consello da Cultura Galega.

“In Conversation: Maria do Cebreiro and Menna Elfyn” (2008), Poetry Wales 44(2):10–14

“O dragón na encrucillada” (2018), Special Dossier on Wales of Sermos Galiza, no. 194. Ed. by Lorena Lopez and Mario Regueira.

Staff Academaidd

Staff academaidd sy’n gysylltiedig â’r Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru:

Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru

Mae Helena Miguélez-Carballeira yn Uwch Ddarlithydd mewn astudiaethau Sbaenaidd yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau lle mae’n dysgu astudiaethau Galisaidd, Sbaenaidd ac astudiaethau cyfieithu ers 2005. Hi yw awdur Galicia, a Sentimental Nation: Gender, Culture and Society: (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013), a gyfieithwyd i Galiseg-Portiwgaleg sef Galicia, um povo sentimental? Género, cultura e política no imaginário nacional galego (Através, 2014) ac a dderbyniodd y wobr am y traethawd iaith Galiseg gorau yn 2015 gan yr Association of Writers in Galician. Mae hi hefyd yn olygydd A Companion to Galician Culture (Tamesis 2014) a dau gyhoeddiad monograffig o’r cyfnodolion Bulletin of Hispanic Studies (“Critical Approaches to the Nation in Galician Studies” gyda Kirsty Hooper, 2009) a Translation Studies (“Translation in Wales: History, Theory and Approaches” gydag Angharad Price a Judith Kaufmann, 2016). Mae’n awdur erthyglau niferus am astudiaethau gender, astudiaethau cyfieithu, astudiaethau diwylliannol Sbaeneg, Basgaidd a Chatalanaidd. Bu’n Gymrawd Ymchwil yr AHRC (2103) a chafodd Gymrodoriaeth Ganol Gyrfa’r Academi Brydeinig (2015–16). Mae’n ysgrifennu dau lyfr ar hyn o bryd: Spain and the Postcolonial: Empire, Nation and Conflict in the Long Spanish Twentieth Century a llawysgrif ar wleidyddiaeth cof Sbaen ôl-ETA.

Ymunodd Iria Aboi-Ferradás â’r Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru fel tiwtor cysylltiol iaith a diwylliant Galisaidd ym Medi 2016. Mae ganddi BA mewn Ieitheg Galisaidd ac MA mewn Rheolaeth Ddiwylliannol o Brifysgol Santiago de Compostela. Mae Iria yn gydlynydd cwrs i bob un o’r pedwar modiwl cysylltiedig â Galiseg a gynigir yn yr Ysgol Ieithoedd Modern a Diwylliannau: LXS2028 Galician I, LXS2029 Galician II, LXS2024 History of Galicia ac LXS3018 Reading Galician Culture. Mae hefyd yn cydlynu ceisiadau myfyrwyr i’r Ysgol Haf Galisaidd flynyddol ac yn cysylltu ag ysgolion a chanolfannau addysgol yng ngogledd Cymru i hyrwyddo dysgu’r iaith Galiseg

Mae Lorena López-López yn Gynorthwyydd Addysgu Graddedig mewn Sbaeneg yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau ac yn fyfyriwr doethuriaeth mewn Astudiaethau Galisaidd. Mae ei thesis PhD yn archwilio agweddau beirniadol at y canon mewn llenyddiaeth Galisaidd trwy astudio prosiectau llenyddol a llwybrau pedwar awdur ffeministaidd cyfoes: Cris Pavón, Margarita Ledo Andión, Patricia Janeiro a Teresa Moure. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys ffuglen wyddonol, monstrosity mewn llenyddiaeth ac astudiaethau llenyddol ffeministaidd. Mae Lorena hefyd yn fardd cyhoeddedig yn yr iaith Galiseg a dyfarnwyd y “Premio de Poesía Pérez Parallé” i’w chyfrol Fase da trema (2012) yn 2011. Mae’n aelod o bwyllgor golygyddol y cylchgrawn barddoniaeth Galiseg Dorna.

Mae David Miranda-Barreiro yn ddarlithydd astudiaethau Sbaenaidd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern a Diwylliannau. Mae’n arbenigo mewn llên deithio a naratifau symudedd ac alltudiaeth yng nghyd-destun Sbaen a Galisia, comics a nofelau graffig. Ef yw awdurSpanish New York Narratives 1898–1936: Modernisation, Otherness and Nation (Oxford: Legenda, 2014) a derbyniodd wobr gyntaf AHGBI/Spanish Embassy Publication Prize amdano yn 2012, ac erthyglau niferus ar lenyddiaeth Galisaidd a Sbaeneg a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion a llyfrau rhyngwladol. Mae hefyd yn gydolygydd, gyda Dr Martín Veiga (UCC), o Galicia 21: Journal of Contemporary Galician Studies. Yn 2014, cydgyfieithodd David gasgliad o gerddi gan y bardd Ifor ap Glyn i Galiseg, ac a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn barddoniaeth Galisaidd Dorna. Ar hyn o bryd mae David yn golygu llyfr o’r enw Here and Beyond: Narratives of Travel and Mobility in Contemporary Iberian Culture. Mae ei brojectau ymchwil cyfredol yn cynnwys astudiaeth o fywgraffiadau gwleidyddol mewn comics a nofelau graffig Galisaidd ac astudio mudwyr Galisaidd yn Efrog Newydd a’u gwaddol diwylliannol a chymdeithasol yn y y Galisia gyfoes.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?