
Modiwl WXC-1004:
Cyflwyniad Harmoni/Gwrthbwynt
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Music, Drama and Performance
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Mr Stephen Rees
Amcanion cyffredinol
Bwriad y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o elfennau ieithwedd gerddorol – alaw, harmoni, gwrthbwynt, rhythm – trwy astudio’r arfer a oedd yn gyffredin i gyfansoddwyr yn ystod cyfnodau’r Dadeni Hwyr a'r Baróc.
Cynnwys cwrs
Mae myfyrwyr yn gweithio trwy gwrs o astudiaeth a fydd yn datblygu medrau sain glust, darllen sgorau a medrau dadansoddol, creadigrwydd a dealltwriaeth drwyadl o’r paramedrau ar gyfer creu cerddoriaeth yn ystod y cyfnod dan sylw. Bwriedir WXC-1004 ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd â phrofiad cyfyngedig o egwyddorion harmoni a gwrthbwynt (e.e. y rhai nad ydynt wedi astudio harmoneiddio coralau fel rhan o lefel A neu gymwyster gyffelyb), ynghyd â'r myfyrwyr hynny nad ydynt yn hyderus yn eu sgiliau yn y maes hwn.
Meini Prawf
trothwy
Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, ond dim ond dealltwriaeth sylfaenol o ymarfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir. Amgyffrediad sylfaenol o sgiliau allweddol yn ymwneud â'r pwnc, gyda gallu cyfyngedig i roi'r sgiliau hyn ar waith mewn cyd-destunau cerddorol eraill. Arddangos ychydig o greadigrwydd unigol. Cyflwynir gwaith yn drefnus ond gyda dim ond priodoldeb arddulliadol cyfyngedig.
da
Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, gyda dealltwriaeth dda o ymarfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir. Amgyffrediad da o sgiliau allweddol yn ymwneud â'r pwnc, gyda'r gallu i roi'r sgiliau hyn ar waith mewn amrywiaeth o gyd-destunau cerddorol eraill. Arddangos creadigrwydd unigol da. Cyflwynir gwaith yn drefnus, a chyda pheth priodoldeb arddulliadol.
ardderchog
Dealltwriaeth lawn o nodiant erwydd, gyda dealltwriaeth ragorol o ymarfer cerddorol yn y cyfnod hanesyddol a astudir. Amgyffrediad da iawn o sgiliau allweddol yn ymwneud â'r pwnc, gyda'r gallu i roi'r sgiliau hyn ar waith yn yr amrywiaeth lawn o gyd-destunau cerddorol. Arddangos creadigrwydd unigol rhagorol. Cyflwynir gwaith yn drefnus, a chyda phriodoldeb arddulliadol llawn.
Canlyniad dysgu
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu dangos dealltwriaeth gadarn o nodiant erwydd modern.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu dangos sgiliau mewn darllen sgorau.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu dangos sgiliau mewn dadansoddi cerddoriaeth donyddol / foddol yn ôl egwyddorion sylfaenol.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyriwr allu dangos dealltwriaeth gadarn o egwyddorion cyfansoddi tonyddol a moddol trwy gyfansoddi pastiche sylfaenol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
GWAITH CWRS | Gwaith cwrs 2 | 30.00 | |
Written assignment, including essay | Prif Aseiniad 1 | 40.00 | |
GWAITH CWRS | Gwaith cwrs 1 | 30.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 11 darlith wythnosol (2 awr o hyd). |
22 |
Seminar | 11 seminar wythnosol (awr o hyd). |
11 |
Private study | Mae'r cyfanswm oriau’n cynnwys paratoi ar gyfer darlithoedd a seminarau; a chwblhau gwaith cwrs sydd heb ei asesu. Disgwylir y bydd myfyrwyr yn treulio o leiaf un awr bob wythnos yn paratoi’r gwaith seminar, cyn y seminar. |
165 |
Tutorial | Bydd sesiynau ymgynghori unigol ar y gwaith asesiedig ar gael yn ôl y gofyn, hyd at gyfanswm o 2 awr. Yn ddelfrydol, bydd y myfyrywr yn ymgynghori mewn perthynas â'r gwaith cwrs: 1. cyn cyflwyno'r darn, a 2) ar ôl derbyn y gwaith yn ôl. |
2 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-1004.htmlRhagofynion a Chydofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W303: BA Music (with International Experience) year 1 (BA/MIE)
- W300: BA Music year 1 (BA/MUS)
- W30F: BA Music [with Foundation Year] year 1 (BA/MUSF)
- W305: BA Music with Game Design year 1 (BA/MUSGD)
- W3P5: BA Music with Journalism year 1 (BA/MUSJ)
- W3W4: BA Music with Theatre & Performance year 1 (BA/MUSTP)
- W304: BMus Music (with International Experience) year 1 (BMUS/MIE)
- W302: BMUS Music year 1 (BMUS/MUS)
- W32F: BMus Music [with Foundation Year] year 1 (BMUS/MUSF)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 1 (BA/ACC)
- WW93: BA Creative Studies and Music year 1 (BA/CSTMUS)
- 32N6: BA English Literature and Music year 1 (BA/ELM)
- 32N7: BA English Literature & Music with International Experience year 1 (BA/ELMIE)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 1 (BA/HCAC)
- VW13: BA History and Music year 1 (BA/HMU)
- VW14: BA History and Music with International Experience year 1 (BA/HMUIE)
- W3H6: BA Music and Electronic Engineering year 1 (BA/MEE)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 1 (BA/MHIE)
- PW33: BA Media Studies and Music year 1 (BA/MSMUS)
- RW13: BA Music/French year 1 (BA/MUFR)
- WR32: BA Music/German year 1 (BA/MUGE)
- WR33: BA Music/Italian year 1 (BA/MUIT)
- WW38: BA Music and Creative Writing year 1 (BA/MUSCW)
- WW36: BA Music and Film Studies year 1 (BA/MUSFS)
- WR34: BA Music/Spanish year 1 (BA/MUSP)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 1 (BA/PRM)
- VW2H: BA Welsh History and Music year 1 (BA/WHMU)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- H6W3: BSc Electronic Engineering and Music year 1 (BSC/EEM)