
Modiwl PCC-1006:
Datblygu sgiliau ymchwil
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Psychology
10 Credyd neu 5 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Awel Vaughan-Evans
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl yma'n adeiladu ar yr hyn a gyflwynwyd yn y modiwl PCC-1007 (Cyflwyniad i ymchwil).
Yma, byddwn yn mynd cam ymhellach, gan ganolbwyntio ar arwyddocâd. Yn syml, byddwn yn edrych ar wahaniaethau rhwng grwpiau, ac yn defnyddio ystadegau i ddarganfod os ydi'r gwahaniaeth yn ddibynadwy.
Felly, prif nodau'r modiwl yma yw:
1) Parhau i gyflwyno dulliau ymchwil mewn ffordd ddealladwy a datblygu eich dealltwriaeth o elfennau sylfaenol ymchwil
2) Cyflwyno profion ystadegol sy'n galluogi cymariaethau mwy cymhleth
3) Parhau i ddatblygu eich gallu i ddadansoddi data gan ddefnyddio SPSS
4) Datblygu eich gallu i drafod dulliau ymchwil ac ystadegau yn hyderus yn Gymraeg a Saesneg
Cynnwys cwrs
Mi fydd y modiwl yn adeiladu ar y cynnwys a gyflwynwyd yn PCC1007, ac yn cyflwyno dulliau ymchwil a phrofion ystadegol mwy cymhleth (gan gynnwys profion paramedrig ac amharamedrig).
Bob wythnos, mi fydd myfyrwyr yn mynychu darlith (1 awr o hyd) a gweithdy (1 awr o hyd). Yn y ddarlith, byddwch yn dysgu ffeithiau, theorïau, a rhesymeg dulliau ymchwil. Mi fydd y gweithdai wythnosol yn rhoi cyfle i chi drafod y wybodaeth yn fwy manwl, ac i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi. Bydd rhai o'r gweithgareddau yn cynnwys ystyried materion moesegol, dyfeisio astudiaethau ymchwil, casglu a dadansoddi data gan ddefnyddio offer electronig, llaw gyfrifiadau, a dysgu sut i gyfathrebu canlyniadau'r ymchwil mewn adroddiadau ysgrifenedig.
Dylai pob myfyriwr gwblhau 100 awr o waith ar gyfer y modiwl hwn ar draws y semester (gan gynnwys dosbarthiadau rheolaidd, ymchwil annibynnol, a chwblhau aseiniadau).
Meini Prawf
trothwy
Trothwy D- i D+
Cyflwynwyd gwybodaeth am brif egwyddorion dulliau ymchwil a theorïau yn unig. Llawer o wallau a gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb.
Ychydig o ddealltwriaeth am y manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig â dulliau ymchwil gwahanol. Defnyddiwyd ychydig o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Cyflwynwyd dadleuon wrth ysgrifennu, ond nid oeddent yn llifo, a ni ddengys ddehongliad gwreiddiol na meddwl critigol. Defnydd prin o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd, a thystiolaeth gyfyngedig o ddarllen ychwanegol.
Cyflwynwyd cwestiynau ymchwil weddol ddiddorol a pherthnasol, ond ni ddengys dealltwriaeth gadarn o ddulliau ymchwil a theorïau seicolegol, a ni chafwyd gwerthusiad o gymhwysiad theoretig nac ymarferol y meysydd gwahanol.
C- i C+
Boddhaol C- i C+
Cyflwyniad boddhaol o wybodaeth am ddulliau ymchwil a theorïau, gyda chyfathrebu gweddol glir, ond gydag ambell i wall ffeithiol.
Dealltwriaeth foddhaol o’r manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig â dulliau ymchwil gwahanol. Defnydd boddhaol o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Cyflwyniad boddhaol o ddadleuon critigol, ond ni chafwyd cydlyniad rhesymegol. Dengys ychydig iawn o ddarllen cefndirol ychwanegol.
Cyflwyniad boddhaol o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos ychydig o ddealltwriaeth o ddulliau ymchwil a theorïau seicolegol yn ogystal â gwerthusiad boddhaol o gymhwysiad theoretig ac ymarferol meysydd gwahanol.
da
Da B- i B+
Cyflwyniad da o wybodaeth gref am ddulliau ymchwil a theorïau, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir.
Dealltwriaeth weddol gadarn o’r manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig â dulliau ymchwil gwahanol. Defnydd da o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Datblygiad da a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Defnydd da o bapurau ychwanegol i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Cyflwyniad da o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos dealltwriaeth o ddulliau ymchwil a theorïau seicolegol yn ogystal â gwerthusiad da o gymhwysiad theoretig ac ymarferol y meysydd gwahanol.
ardderchog
Gwych A- i A**
Cyflwyniad gwych o wybodaeth gynhwysfawr am ddulliau ymchwil a theorïau, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir.
Dealltwriaeth gadarn o’r manteision a’r anfanteision sydd yn gysylltiedig â dulliau ymchwil gwahanol. Defnydd gwych o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Datblygiad gwych a rhesymegol o ddadleuon critigol wrth ysgrifennu, gan ddangos darllen cefndirol a dehongliad gwreiddiol. Defnydd gwych o astudiaethau ychwanegol i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd.
Cyflwyniad gwych o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos gwir ddealltwriaeth o ddulliau ymchwil a theorïau seicolegol yn ogystal â gwerthusiad gwych o gymhwysiad theoretig ac ymarferol meysydd gwahanol.
Canlyniad dysgu
-
Dewis a defnyddio profion paramedrig a/neu amharamedrig i ddadansoddi data.
-
Dangos dealltwriaeth sylfaenol o ystadegau a dulliau ymchwil gwahanol, a deall sut y cânt eu defnyddio o fewn meysydd gwahanol.
-
Cynnal adolygiad o lenyddiaeth perthnasol ac ysgrifennu adroddiad ymchwil da sy’n dilyn canllawiau’r APA.
-
Gallu defnyddio'r pecyn ystadegol SPSS y hyderus: gallu mewnbynnu data yn gywir, rhedeg y dadansoddiad ystadegol priodol, a dehongli'r allbwn.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
GWAITH CWRS | Adroddiad Ymchwil | 60 | |
PRAWF DOSBARTH | Gwaith Cartref | 40 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Awr galw heibio. Mi fydd trefnydd y modiwl yn trefnu awr galw heibio wythnosol. Annogir myfyrwyr i fynychu'r sesiwn er mwyn derbyn cymorth gyda'r gwaith. |
11 |
Lecture | Bydd darlith wythnosol (2 awr o hyd) yn cyflwyno gwybodaeth i chi am ddulliau ymchwil ac ystadegau. |
22 |
Workshop | Bydd gweithdai wythnosol yn cael eu cynnal i gyfnerthu eich dealltwriaeth o'r hyn a drafodwyd yn y ddarlith. |
8 |
Private study | Mewn modiwl 10 credyd, disgwylir i chi weithio am 100 awr. Disgwylir i chi wario 56 awr yn astudio'r pynciau er mwyn cwblhau'r aseiniadau gwahanol a sicrhau eich dealltwriaeth. |
59 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Communicate psychological concepts effectively in oral form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Engage in effective teamwork for the purpose of collaborating on psychological projects.
- Be sensitive and react appropriately to contextual and interpersonal psychological factors.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Carry out empirical studies by operationalizing research questions, generating hypotheses, collecting data using a variety of methods, analysing data using quantitative and/or qualitative methods, and present and evaluate research findings (under appropriate supervision).
- Comprehend and use psychological data effectively, demonstrating a systematic knowledge of the application and limitations of various research paradigms and techniques.
- Use a range of statistical methods with confidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
- Use a variety of psychological tools, including specialist software, laboratory equipment and psychometric instruments.
- Be aware of ethical principles and approval procedures.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- CR6H: BA Italian/Sports Science year 1 (BA/ITSSC)
- CR61: BA Sports Science/French year 1 (BA/SPSFR)
- CR62: BA Sports Science/German year 1 (BA/SPSG)
- CR6K: BA Spanish/Sports Science year 1 (BA/SPSSC)
- C611: BSc Adventure Sport Science year 1 (BSC/ASS)
- CB69: BSC Sport, Health & Exercise Sci. year 1 (BSC/SHES)
- C651: BSC Sport- Health & Physical Educ year 1 (BSC/SHPE)
- C600: BSC Sports Science year 1 (BSC/SPS)
- C60F: BSc Sports Science year 1 (BSC/SPSF)
- C6N1: BSc Sport Science & Business Management year 1 (BSC/SSB)
- C604: BSc Sports Science (with International Experience) year 1 (BSC/SSIE)
- C6N5: BSc Sport Science & Marketing year 1 (BSC/SSM)
- CN5P: Sport Science and Marketing with Placement Year year 1 (BSC/SSMP)
- C612: MSci Adventure Sport Science year 1 (MSCI/ASS)
- C608: MSci Sport, Health and Exercise Sciences year 1 (MSCI/SHS)
- C607: MSci Sport Science year 1 (MSCI/SS)