
Modiwl DXC-3009:
Lleoliad Gwaith
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Natural Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Ms Sian Pierce
Amcanion cyffredinol
Mae’r modwl hwn yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr i gael profiadau proffesiynol priodol ar gyfer eu cyrsiau gradd . Gall ymestyn gorwelion parthed cyfleoedd gyflogaeth ôl raddedig wedi iddynt adael y Brifysgol. Mae’r cynllun yn adeiladu ar gyfres o sgiliau cafwyd eu meithrin fel rhan o Gynllun Gwobr Cyflogadwyedd Prifysgol Bangor ac mae’r lleoliad yn cyfrannu at y gyfres o sgiliau gellir eu cyfri tuag at y wobr. Rhaid i fyfyrwyr gymryd cyfrifoldeb parthed negodi lleoliad gyda darpar leolwyr ac fe fydd darparwyr yn asesu perfformiad y myfyrwyr tra eu bod ar y lleoliad gwaith. Mae myfyrwyr yn darparu portffolio sydd yn gwerthuso'r mudiad/ gweithle sydd wedi darparu’r lleoliad ynghyd ag hunan asesiad o’u perfformiad unigol.
Cynnwys cwrs
Mae’r elfen ymarferol o’r modwl yn cynnwys lleoliad bloc o 15 - 20 diwrnod dylid ei gwblhau rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn ( y flwyddyn olaf.) Rhaid i’r lleoliad gael ei gymeradwyo gan gyfarwyddwr y modwl cyn y ceir caniatâd i ddechrau gwaith ar y lleoliad ; fe fydd y cyfarwyddwr hefyd yn monitro cynnydd y myfyriwr, gan amlaf trwy e-bost. Yn ystod y semester wedi iddynt gwblhau’r lleoliad, disgwylir i fyfyrwyr fynychu cyfarfod, tiwtorialau unigol ac i gyflwyno’r portffolio lleoliad
Meini Prawf
trothwy
Asesiad darparwr lleoliad – pasio . Portffolio lleoliad yn disgrifio’r mudiad lleoliad, yn esbonio’r gwaith gwnaed gan y myfyriwr tra ar leoliad a hefyd yn dangos rhyw faint o ymgais at hunan- arfarnu..
da
Asesiad darparwr lleoliad – pasio . Portffolio lleoliad yn disgrifio’r mudiad lleoliad, yn esbonio’r gwaith gwnaed gan y myfyriwr tra ar leoliad , esbonio lle ‘r mudiad yn y sector gwaith, hefyd yn gwneud argymhellion am sut i wella’r mudiad ar lefel trefniadol a phersonol a hefyd dangos ymrwymiad i’r broses hunan arfarniad.
ardderchog
Asesiad darparwr lleoliad – pasio . Portffolio lleoliad yn disgrifio’r mudiad lleoliad, yn esbonio’r gwaith gwnaed gan y myfyriwr tra ar leoliad , esbonio lle ‘r mudiad yn y sector gwaith, a gwneud argymhellion adeiladol a beirniadol am sut i wella’r mudiad ar lefel trefniadol a phersonol a hefyd dangos ymrwymiad meddylgar gyda’r broses hunan arfarniad.
Canlyniad dysgu
-
Esbonio hanes, gweithredoedd a strwythur presennol y mudiad lle buont ar leoliad.
-
Gwerthuso lle’r mudiad yn y sector
-
Esbonio mewn manylder un elfen o weithredoedd y mudiad( os yn bosibl ddylai hwn fod yn weithred y buont yn ymgymryd â hi yn ystod y lleoliad ) a hefyd i wneud argymhellion o sut i wella hyn.
-
Adolygu eu cyfraniad i’r gweithredoedd a hefyd i’r mudiad yn gyffredinol .
-
Ystyried eu perfformiad ar y lleoliad yn gyd-destun rhinweddau personol, cryfderau a gwendidau sgiliau.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Placement Portfolio | 100.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Work-based learning | Lleoliad unigol 20 diwrnod x 7 awr y diwrnod |
140 |
6*1 hour workshops 4 * 2 hour workshops (with Careers/Employability) |
14 | |
Private study | 46 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Recognize and apply appropriate theories and concepts from a range of disciplines.
- Consider issues from a range of interdisciplinary perspectives.
- Apply subject knowledge to the understanding and addressing of problems.
- Demonstrate awareness of the importance of risk assessment and relevant legislation
Employability Skills Process management : 1. Organisation - able to coordinate an administer workloads efficiently 2. Prioritisation - able to rank tasks according to level of importance 3. Planning - able to set achievable goals and structure the necessary action, using SMART GOAL techniques. 4. Complexity management- able to handle ambiguous and complex situations and their consequences 5. Decision making - able to decide firmly, clearly and swiftly upon a course of action from a series of options 6. Evaluation - able to examine the outcomes of tasks and events within the placement from a personal and organisational viewpoint also judge levels of quality and importance
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- L700: BA Geography year 3 (BA/GEOG)
- L701: BA Geography (with International Experience) year 4 (BA/GEOGIE)
- F803: BSc Geography with Environmental Forestry year 3 (BSC/GEF)
- F804: BSc Geography with Environmental Forestry year 4 (BSC/GEF4)
- F800: BSC Geography year 3 (BSC/GEOG)
- F806: BSc Geography (4 yr with placement) year 3 (BSC/GEOG4)
- F802: BSc Geography (with International Experience) year 4 (BSC/GEOGIE)