
Modiwl MSC-2019:
Microbioleg Meddygol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Medical Sciences
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Mr Merf Williams
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth o swyddogaeth labordy microbioleg feddygol yn y gwaith o archwilio ac adnabod bacteria a pharasitiaid sy'n feddygol bwysig. Caiff myfyrwyr gyflwyniad i egwyddorion damcaniaethol amrywiaeth o grwpiau bacteriol a pharasitig o bwys a chymhwysiad ymarferol amrywiaeth o ddulliau microbiolegol a ddefnyddir mewn labordai i roi diagnosis o heintiau bacteriol dynol. Bydd defnyddio astudiaethau achos yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio'r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgwyd i ddeall y newidiadau patholegol sy'n digwydd mewn heintiau clinigol a achosir gan rai o'r bacteria a'r parasitiaid a astudir yn y modiwl hwn ac yn rhoi'r wybodaeth rhagofynnol angenrheidiol i astudio microbioleg a heintiau dynol yn y drydedd flwyddyn
Cynnwys cwrs
Astudio rhai prif grwpiau o facteria a pharasitiaid sydd yn bwysig yn y maes heintiau dynol. Deall y prif gysyniadau a ddefnyddir i archwilio a rhoi diagnosis o heintiau mewn labordy microbioleg feddygol.
Meini Prawf
ardderchog
Dylai bod myfyriwr rhagorol yn gallu dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dysgu ar ei ben ei hun a dysgu gydol oes (gweithio'n annibynnol, rheoli amser a chael trefn) a bod â dealltwriaeth drylwyr a manwl o bob agwedd ar y modiwl. Dylai atebion ysgrifenedig fod o safon uchel iawn o ran cyflwyniad, strwythur ac eglurder gydag ymdriniaeth dda iawn o wybodaeth gywir a pherthnasol.trothwy
Dylai bod gan fyfyriwr trothwy ddealltwriaeth sylfaenol o'r ffeithiau a'r prif gysyniadau ym maes microbioleg feddygol a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dylai atebion ysgrifenedig ddangos y gallu i drefnu cynnwys perthnasol y darlithoedd i greu dadl resymegolda
Dylai bod gan fyfyriwr da ddealltwriaeth ffeithiol drylwyr o bob agwedd ar y modiwl a dylai fod yn gallu rhoi enghreifftiau lle y bydd yn addas. Dylai atebion ysgrifenedig ddangos gallu i grynhoi'n feirniadol cynnwys y darlithoedd a gwybodaeth yn deillio o ddarllen cefndirol.Canlyniad dysgu
- Caiff myfyrwyr hefyd eu cyfeirio at lenyddiaeth, adrannau llyfrau ac adnoddau electronig gwreiddiol perthnasol, a disgwylir iddynt eu darllen yn ystod yr amser astudio personol a ddynodir iddynt. Cânt hefyd eu hannog i chwilio am lenyddiaeth eu hunain gan ddefnyddio'r peiriant chwilio Web of Science. Cefnogir hunan astudio trwy negeseuon e-bost a thrafodaeth yn ystod tiwtorialau adolygu.
- Dwy sesiwn ymarferol mewn labordy yn para 3 awr yr un.
- Tiwtorialau adolygu cyn profion a gynhelir yn y dosbarth yn rheolaidd er mwyn gwirio gwybodaeth ffeithiol ac ysgogi adolygu cefndirol.
- Un awr ar bymtheg o ddarlithoedd
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Adroddiad ymarfer labordy | 30.00 | ||
Arholiad diwedd modiwl | 50.00 | ||
Mid module MCQ test | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Practical classes and workshops | Gwaith ymarferol (3 awr) o ymarfer defnyddio dulliau daignosteg yn y labordy cyn sesiwn asessu (3 awr) y diwrnod canlynnol. |
6 |
Lecture | 16 | |
Tutorial | Adolygu cyn arholiad terfynnol. |
2 |
Private study | Darparu cyn darlithoedd, darllen o gwmpas y pynciau (llyfrau/erthyglau/darllen cyfeiriol), adolygu a gwaith cwrs (ysgrifennu adroddiad ymarferol). |
76 |
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- C100: BSC Biology year 2 (BSC/B)
- C10F: BSc Biology year 2 (BSC/BF)
- C511: BSc Biology with Biotechnology year 2 (BSC/BIOT)
- C102: BSc Biology (with International Experience) year 3 (BSC/BITE)
- C101: MBiol Master of Biology year 2 (MBIOL/BIO)
- C510: MBiol Biology with Biotechnology year 2 (MBIOL/BIOT)