£1.8m ar gyfer yr adnodd ar-lein i roi sylw i Gymraeg cyfoes ar raddfa fawr

Fel awdurdod blaenllaw ar dechnolegau iaith Gymraeg, bydd Prifysgol Bangor y cymryd rhan mewn prosiect aml-sefydliad i ddatblygu'r corpws torfol cyntaf erioed i gofnodi a hysbysu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yr iaith Gymraeg .

O dan arweiniad Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd  bydd y prosiect rhyngddisgyblaethol £1.8m gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) o’r enw Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC yn cynnwys set ddata o 10 miliwn o eiriau Cymraeg yn y lle cyntaf.

Bydd y prosiect tair blynedd a hanner yn dechrau ym mis Mawrth 2016 ac yn manteisio ar arbenigedd o Brifysgolion Bangor, Abertawe a Lancaster. Bydd CorCenCC yn torri tir newydd fel adnodd iaith ac fel model o adeiladu corpws.

Bydd yr Athro Enlli Thomas o Prifysgol Bangor, sydd eisoes yn gartref i'r Porth Corpora Cenedlaethol Cymru, yn cyd-arwain ar y gwaith o ddatblygu a gwerthuso adnodd pwrpasol ar gyfer athrawon a dysgwyr o’r Gymraeg fydd yn deillio o’r Corpws fel rhan o’r ymchwil. 

Dywedodd yr Athro Thomas: “Bydd y gwaith hwn yn gyfraniad mawr i’r maes. Bydd yn gasgliad sylweddol o batrymau iaith gwahanol fathau o siaradwyr o’r Gymraeg – ar lafar ac ar bapur – ac yn gofnod byw o’r iaith.”     

Bydd y corpws - casgliad mawr o destunau, neu gorff o ddeunydd ysgrifenedig neu lafar ar gyfer dadansoddiad ieithyddol - yn cynrychioli'r holl ffyrdd y mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio a'i chyfathrebu. Bydd hyn yn cynnwys iaith lafar, ysgrifenedig a digidol ac yn cwmpasu gwahanol feysydd, amrywiaethau iaith - rhanbarthol a chymdeithasol - a gwahanol gyd-destunau.

Daw’r cyfranwyr o blith y 562,000 o siaradwyr Cymraeg yn y DU, a byddant yn cyfrannu drwy dechnolegau digidol torfol a chydweithio cymunedol.

Caiff rhagor o fanylion am greu'r prosiect a'r ffyrdd y bydd defnyddwyr yn gallu cyfrannu, eu rhannu ar ôl dechrau'r prosiect yn 2016.  

Dywedodd Dr Dawn Knight, o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, sy'n arwain y prosiect: "Rydym yn gobeithio datblygu'r corpws byw ac esblygol hwn, y cyntaf ar raddfa fawr, i gynrychioli'r Gymraeg ar draws gwahanol ddulliau cyfathrebu, a chael defnyddwyr cyfredol yr iaith i'w lenwi.

“Byddwn yn ymgysylltu â'r cyhoedd mewn sawl ffordd ac yn defnyddio technolegau newydd i wneud hynny. Prosiect yw hwn am y defnydd o'r iaith yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol ledled y DU a bydd yn rhoi gwybodaeth i ni am sut mae’r defnydd o’r iaith yn amrywio ac yn newid -  boed hynny'n wahaniaethau rhanbarthol neu'r defnydd o dreigladau -  dros amser.

"Bydd y prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar grwpiau gwahanol o ddefnyddwyr gan gynnwys cyfieithwyr, cyhoeddwyr, llunwyr polisi, datblygwyr technoleg iaith ac academyddion. Bydd pecyn cymorth pwrpasol yn cael ei greu ar gyfer athrawon a dysgwyr, gan gyfuno swyddogaethau sylfaenol corpws er mwyn ymchwilio i ddefnydd iaith."

Mae ystod y rhanddeiliaid ar gyfer y prosiect - gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, Cymraeg i Oedolion, Gwasg y Lolfa a Geiriadur Prifysgol Cymru – yn cynrychioli perthnasedd ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol y prosiect.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2015