Archif Newyddion: Rhagfyr 2017

Tory attack on Working Time Directive signals a post-Brexit race to the bottom

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Tony Dobbins o’r Ysgol Fusnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Rhagfyr 2017

Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang

Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynaliadwyedd wedi cael ei gadarnhau unwaith eto mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Cafodd UI Green Metric, tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd, ei lansio gyntaf gan Universitas Indonesia yn 2010 i dynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgolion ledled y byd. Ers hynny mae nifer y prifysgolion sy'n cymryd rhan wedi cynyddu; eleni gwnaeth 619 o brifysgolion o 76 o wledydd gymryd rhan, o'i gymharu â 516 o brifysgolion y llynedd. Yn y tabl cynghrair cyfredol, mae Prifysgol Bangor wedi codi wyth safle i'r wythfed safle, sy'n ein gosod ni ymhlith y 2% uchaf o brifysgolion sy'n cymryd rhan.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2017

Cyhoeddi mai George Meyrick yw Canghellor newydd Prifysgol Bangor

Cyhoeddwyd mai George Meyrick yw Canghellor newydd Prifysgol Bangor.  Mae'n olynu'r Arglwydd Elis-Thomas a roddodd y gorau i'r swydd yn gynharach eleni.

Ef yw'r deuddegfed i ddal y swydd seremonïol hon yn y brifysgol, a bydd yn gwasanaethu am gyfnod cychwynnol o bum mlynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2017

Prifysgol Bangor yn derbyn cyllid i adeiladu seilwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol 2018-2020

Mae Grwpiau Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) wedi derbyn symiau sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2017

Seremoni Raddio'r Gaeaf Prifysgol Bangor

Dyfarnwyd graddau i dros 400 o fyfyrwyr yn seremoni raddio gaeaf Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Yn ystod y seremoni, llongyfarchodd Yr Athro John G Hughes yr holl raddedigion, a mynegodd ei ddiolch i’w rhieni, teuluoedd a chyfeillion am gefnogi'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2017

Seremoni Raddio'r Gaeaf Prifysgol Bangor

Dyfarnwyd graddau i dros 400 o fyfyrwyr yn seremoni raddio gaeaf Prifysgol Bangor yn ddiweddar. Yn ystod y seremoni, llongyfarchodd Yr Athro John G Hughes yr holl raddedigion, a mynegodd ei ddiolch i’w rhieni, teuluoedd a chyfeillion am gefnogi'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2017

Bragu Cwrw Crefft Cynaliadwy yng Nghymru

Mae gwaith ymchwil marchnata diweddar wedi dangos fod y nifer o ddiod alcohol sydd yn cael ei yfed ym Mhrydain wedi gostwng o 18% ers 2004. Yn gyffredinol mae’r sector bragu wedi gweld gostwng ar y cyfan, ond o fewn y sector cwrw crefft /bragdai bychan mae tyfiant iach wedi ei nodi pob blwyddyn gan y Society of Independent Brewers.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2017

Why PrEP takers should still use condoms with HIV+ partners

 

Dyma erthygl yn Saesneg gan Simon Bishop o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2017

Diweddariad eira- Campws Wrecsam

Ni fydd ein campws yn Wrecsam, gan gynnwys y Llyfrgell, ar agor ddydd Llun oherwydd yr eira. Bydd ar agor fel arfer dydd Mawrth. Mae’r Brifysgol ym Mangor ar agor fel arfer.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2017

Yoga in the workplace can reduce back pain and sickness absence

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a ned Hartfiel o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2017

Dagrau a chwerthin wrth i'r hen a'r ifanc rannu profiadau

Dros y misoedd diwethaf, mewn canolfannau gofal ar draws Cymru, mae arbrawf cymdeithasol arloesol wedi digwydd - a bydd y canlyniadau'n siŵr o syfrdanu.  

Mewn cyfres newydd o dair rhaglen emosiynol ar S4C, sy'n dechrau nos Sul, 10 Rhagfyr, mae Hen Blant Bach yn ymchwilio i beth all ddigwydd pan mae chwech o blant bach yn rhannu eu gofal dydd gyda chriw o bensiynwyr - a'r effeithiau trawsnewidiol sy'n bosib.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Lessons from the Beeching cuts in reviving Britain's railways

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Marchnad Nadolig Myfyrwyr lwyddiannus arall

Cynhaliodd y tîm Byddwch Fentrus ym Mhrifysgol Bangor y 7fed Farchnad Nadolig Myfyrwyr yn olynol yn Neuadd PJ cyn y Nadolig.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Presenoldeb cryf gan Brifysgol Bangor yng Ngemau'r Gymanwlad 2018

Bydd staff, myfyrwyr ac alumni Prifysgol Bangor yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Tynnu sylw at brojectau partneriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Bangor

Rhoddir sylw i brojectau cyffrous a wneir mewn partneriaeth rhwng academyddion Prifysgol Bangor a chymunedau, elusennau, cyrff llywodraethol a busnesau, yn lleol ac yn rhyngwladol, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener (8 Rhagfyr).

Canolbwyntir ar 17 allan o 52 project yn y digwyddiad, gyda phob un ohonynt wedi eu hariannu drwy Gyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017

Myfyrwraig Seicoleg Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn BBC Cymru 2017

Mae myfyrwraig Seicoleg sydd ar ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill gwobr Athletwraig Ifanc y Flwyddyn Carwyn James yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2017

Y Gwrthdrawydd Mawr Hadron yn creu cerddoriaeth mewn gŵyl

Bydd darn newydd o gerddoriaeth a grëwyd gan ddefnyddio data’r gwrthdrawydd gronynnau mwyaf yn ei faint a’i bŵer yn cael ei berfformio mewn gŵyl yng Ngogledd Cymru.

Bydd y perfformwyr yng Ngŵyl Gerdd Bangor yn defnyddio gliniaduron i addasu seiniau’r gronynnau yn gwrthdaro a wnaed gan y Gwrthdrawydd Mawr Hadron (Large Hadron Collider) yn Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear, a elwir yn CERN yn Geneva. 

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2017

O’r Byd Newydd i’n byd ni – cyfieithiad newydd o nofel epig Jerry Hunter

Mae cyfieithiad newydd o nofel Gymraeg gan Yr Athro Jerry Hunter yn taflu goleuni ar bennod lled-anghofiedig o Ryfel Cartref Lloegr – a hanes Cymru – pan ddaru milwyr o fyddin Cromwell daro ar griw o ferched yn gynnar wedi terfyn Brwydr Naseby ym 1645. Gyda Chymraeg y merched yn estron i glustiau milwyr Cromwell, tybiwyd mai Pabyddion Gwyddelig oedden nhw a lladdwyd dros gant ohonynt yn y fan a’r lle gan y milwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2017

Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn lansio Cwmni Twristiaeth Bywyd Gwyllt

Mae cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor wedi lansio gwefan sy'n darparu gwybodaeth am fywyd gwyllt Prydain ac yn cynnig gweithgareddau sy'n rhoi’r cyfle i gwsmeriaid weld eu hoff anifeiliaid yn y gwyllt.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2017

Amser bwydo’r anifeiliaid (robotaidd) yn y Sw

Mae Sw Mwytho o fath dipyn bach yn wahanol yn dod i Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor rhwng 4 - 10 Rhagfyr.

Bydd hi’n amser bwydo’r anifeiliaid yn y sw - ond yn lle geifr neu wŷn bach,  robotiaid hwfro ydy’r ‘anifeiliaid’, pob un efo’i bersonoliaeth ei hun a phob un yn cwffio i gael ei ‘fwydo’ gan y cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2017

Myfyrwyr nyrsio hael yn paratoi i ledaenu hwyl y Nadolig i gleifion Wrecsam

Bydd myfyrwyr nyrsio Prifysgol Bangor yn dod â hwyl Nadoligaidd ychwanegol i gleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam eto eleni.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2017