Adar ffrigad yn hedfan ymhell uwchlaw anawsterau dyfroedd meirwon trofannol Cefnfor yr India

Aderyn ffrigad aeddfed: Hawlfraint: Aurélien Prudor CNRSAderyn ffrigad aeddfed: Hawlfraint: Aurélien Prudor CNRSMae rhai anifeiliaid yn byw bywyd ar yr eithafion a gallant ein dysgu sut mae'r amgylchedd naturiol ac amodau atmosfferig wedi dylanwadu ac wedi rhoi siâp i'w hadenydd a'u cyrff a'u hymddygiad.

Mae adar ffrigad (sy'n perthyn yn agos i fulfrain a gwylanwyddau) yn anarferol gan mai nhw yw'r rhywogaeth adar â'r arwynebedd adenydd cymharol mwyaf (neu'r llwyth mas corff isaf). Mae hyn yn golygu eu bod yn hedfan yn dda a bod ganddynt allu effeithiol iawn i godi ac i gleidio.  Hefyd, maen nhw'n byw am dros 40 mlynedd, nid ydynt yn magu cywion am yr 8 - 10 mlynedd cyntaf, ac o’r holl adar nhw sy’n magu eu cywion am y cyfnod hwyaf (hyd at chwe mis) gan barhau i ofalu amdanynt ar ôl iddynt ddechrau hedfan eu hunain. Mae a wnelo hyn â'u bywydau ysglyfaethus anodd sy'n golygu treulio wythnosau ar y tro allan uwch y môr, yn dal pysgod hedegog ac weithiau'n aflonyddu ar adar eraill y môr nes iddyn nhw ddarparu bwyd ar eu cyfer (cleptobarasitiaeth). Yn rhyfedd ddigon, er gwaethaf byw uwch y môr, nid yw'r adar hyn yn iro eu plu rhag gwlychu, ac felly, o ganlyniad, nid ydynt byth yn gorffwys ar wyneb y môr ac mae'n rhaid iddynt aros yn yr awyr trwy'r amser, hyd yn oed yn y nos. Gan fod ganddynt gynifer o nodweddion arbenigol, mae diddordeb mawr yn sut mae'r adar hyn yn gallu aros allan uwchlaw y môr cyhyd â sut maen nhw'n ymdopi â newid yn amodau'r gwynt ac yn symud dros gymaint o bellter.

Bu tîm rhyngwladol o wyddonwyr, dan arweiniad yr Athro Henri Weimerskirch o Ganolfan Gwyddorau Biolegol Chize, Canolfan Genedlaethol Ymchwil Wyddonol Ffrainc, mewn cydweithrediad â Dr Charles Bishop o Brifysgol Bangor yn astudio ecoleg symudedd adar ffrigad (Fregata minor). Cafodd yr adar ffrigad eu tagio ar Ynys Europa gydag offer tracio er mwyn monitro i ble yr oeddynt yn hedfan uwchlaw Cefnfor yr India a chofnodi newid mewn uchder, curiad calon, cyflymiad corfforol ac amledd curiad eu hadenydd. Mae'r astudiaeth newydd (a gyhoeddwyd yn Science ar 1 Gorffennaf 2016) yn dangos bod adar ffrigad ifanc a rhai yn eu llawn dwf yn defnyddio amodau'r tywydd er mwyn hedfan o amgylch Cefnfor yr India yn ei gyfanrwydd gan olygu ychydig iawn o gostau ynni, gan fanteisio ar y gwyntoedd cyson sy'n chwythu o amgylch dyfroedd meirwon y cyhydedd.

Sut y maent yn gwneud hyn?

Aderyn ffrigad ifanc: Hawlfraint: ©Aurélien Prudor CNRSAderyn ffrigad ifanc: Hawlfraint: ©Aurélien Prudor CNRSMae adar ffrigad ifanc a rhai yn eu llawn dwf yn treulio wythnosau ar y tro yn hedfan yn ddi-baid wrth hela am bysgod hedegog a môr-lewys, ac yn defnyddi’r tynfeydd a geir o dan gymylau cwmwlws, sydd wedi eu lleoli ar hyd ymyl y dyfroedd meirwon, i droelli mewn modd effeithlon i uchder o rhwng 600 a 4000 o fetrau, yn debyg iawn i fwlturiaid, cyn gleidio’n raddol yn ôl i lawr dros ddegau o gilometrau. 

"Mae'r canlyniad yn batrwm tebyg i lwybr trên colli cylla, yn codi a gostwng, a 75% o'r amser dydi'r adenydd prin yn curo", meddai'r Athro Henri Weimerskirch.

Nid yn unig fod y rhan fwyaf o'r codi yn digwydd heb guro fawr ar yr adenydd ond mae'r curiad calon hefyd yn isel iawn. Wrth fod allan uwch y môr am wythnosau ar y tro, mae'r curiad calon ar gyfartaledd yn ddim ond 203 curiad y funud.

Dywedodd Dr Charles Bishop: "Mae curiad calon uchaf adar ffrigad tua 500 curiad y funud, o gymharu â churiad calon bodau dynol sydd tua 200 curiad y funud, felly wrth wneud y teithiau hir yma mae curiad calon yr adar yma yn cyfateb i guriad calon bod dynol wrth iddo gerdded yn hamddenol."

Mae'n well gan yr adar hyn uchderau rhwng 50 metr a 600 metr lle mae amodau'r gwynt ar eu gorau er mwyn llwyddo i gyflawni'r hediadau yma heb ddefnyddio fawr o egni, drwy ddefnyddio gwyntoedd llorweddol cyson a thynfeydd achlysurol o dan ardaloedd o gymylau cwmwlws. Mae dringo hyd at waelod y cymylau'n cymryd cryn dipyn o amser, ond yn achlysurol, wrth ddringo'n uwch na hynny, byddant yn dringo'n llawer cynt (4-5m yr eiliad) wrth i'r adar gael eu dal yn yr awyr sy'n codi'r gyflymach y tu mewn i'r cymylau eu hunain.

Digwyddiad bwydo: Hawlfraint: ©Aurélien Prudor CNRSDigwyddiad bwydo: Hawlfraint: ©Aurélien Prudor CNRSDywedodd yr Athro Weimerskirch: "Ar uchder o bron i 4000 o fetrau gall tymheredd yr awyr ddisgyn yn is na'r rhewbwynt, hyd yn oed yn y trofannau, ond mae'n rhaid bod y fantais o ddefnyddio'r ynni yn yr awyrgylch i'w galluogi i hedfan yn defnyddio cyn lleied o gostau ynni yn gorbwyso'r costau o ran rheoleiddio gwres ffisiolegol".

Dydy'r adar ddim ond yn treulio tua 10% o'u hamser ar lefel y môr, felly mae'n syndod cyn lleied o gyfleoedd sydd ganddynt i hela am bysgod hedegog a môr-lewys, neu i erlid adar eraill i gael bwyd. Roedd y cyfnodau hyn ar lefel y môr yn cael eu nodweddu gan gyfnodau o guro'r adenydd yn barhaus a churiad calon o fwy na 400 curiad y funud.

"Gall lefel uchel y sgil sydd ei angen i ddal prae heb gyffwrdd â'r dŵr neu er mwyn gorfodi rhywogaethau adar eraill i ollwng eu bwyd eu hunain, o gyfuno hynny â dysgu sut i hedfan o amgylch y moroedd, egluro pam nad yw'r rhywogaeth hon yn ceisio bridio hyd nes maen nhw o leiaf yn 8 mlwydd oed", meddai Dr Bishop.

Mae'r patrwm hedfan, sy'n debyg iawn i lwybr trên colli cylla, yn dibynnu ar fanteisio ar ddosbarthiad eithaf ar hap o gymylau cwmwlws. Ar raddfa fwy, gall yr adar ddilyn y gwyntoedd cyson i'r gogledd ddwyrain i deithio o Affrica tuag at Indonesia ac yna croesi i'r de i ddal y gwyntoedd cyson gorllewinol i'w galluogi i hedfan yn ôl mewn cylch enfawr. Yng nghanol y cefnfor y mae canol tawel y cyhydedd sydd wedi ei nodweddu gan awyr gynnes y dyfroedd meirw sy'n codi'n araf ac yn achosi bod awyr laith yn symud yn yr entrychion i'r gogledd a'r de maes o law, cyn oeri wrth ddisgyn, a thrwy hynny ysgogi'r gwyntoedd cyson eu hunain. Mae'r canlyniadau hyn yn codi nifer o gwestiynau am allu'r adar hyn i gysgu tra maen nhw'n hedfan am nifer o ddyddiau, ond hefyd sut maen nhw'n ymdopi â stormydd trofannol a beth fydd eu dyfodol wrth i'r hinsawdd gynhesu a newid i fod yn fwy amrywiol.

Erthygl: Frigate birds track atmospheric conditions over months-long trans-oceanic flights, gan Henri Weimerskirch et al. (2016) Science, 1 Gorffennaf.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2016