Adnabod y paill sy’n cosi’r trwyn

Mae'r paill yn cael ei gario i'r aer oddi ar welltyn Dactylis glomerata, rhywogaeth cyffredin o wair.Mae'r paill yn cael ei gario i'r aer oddi ar welltyn Dactylis glomerata, rhywogaeth cyffredin o wair.Mae’n bosib fod gwyddonwyr gam yn nes at gynnig rhagolygon paill mwy manwl gywir i’r bobl hynny sy’n dioddef o asthma neu glwy’r gwair - tua  25% o boblogaeth y Deyrnas Unedig. Dyma’r  canlyniadau cyntaf i ddeillio o broject mawr tair blynedd i ddadansoddi paill glaswellt yn yr aer.

Mae canlyniadau’r flwyddyn gyntaf, a gyhoeddir yn Nature Ecology & Evolution, wedi dangos nad   ‘llwyth’ y paill gwair yn yr aer un unig all fod yn gyfrifol am y ‘dyddiau drwg’ hynny i ddioddefwyr asthma a chlwy’r gwair. Gallai’r dyddiau hynny pan fo pobl yn dioddef mwy o byliau asthma neu glwy’r gwair mwy dwys fod yn gysylltiedig â rhyddhau paill o rywogaethau glaswellt penodol. 

Ar hyn o bryd mae ‘cyfrifon’ a rhagolygon paill yn asesu’r cyfanswm llwyth paill yn yr aer, a, thra bo gwyddonwyr yn gallu gwahaniaethu rhwng y paill a grëir gan rywogaethau unigol o goed neu chwyn, mae wedi bod yn amhosib bron i’r dulliau rhagweld presennol adnabod gwahanol beilliau glaswellt yn weledol.

Ond mae metagodio bar, techneg sy’n galluogi gwyddonwyr i adnabod yn awtomatig unrhyw ddarn o ddefnydd a ddelir mewn sampl o aer, dŵr neu bridd, drwy adnabod a pharu ei ‘god bar’ DNA unigryw, wedi newid hynny.

Am y tro cyntaf, mae peilliau glaswellt a gasglwyd dros gyfnod un tymor alergedd wedi cael eu dadansoddi gan ddefnyddio’r dull arloesol hwn. Mae hyn wedi galluogi’r tîm i ddechrau ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng rhai mathau o baill a’r dyddiau hynny pan fydd dioddefwyr alergedd i blanhigion a phobl gydag asthma yn dioddef fwyaf.

Dr Georgina Brennan a'r Athro Sion Creer a fu'n gyfrifol am arwain y gwaith o Brifysgol Bangor.Dr Georgina Brennan a'r Athro Sion Creer a fu'n gyfrifol am arwain y gwaith o Brifysgol Bangor.sbonia’r Athro Simon Creer, o Brifysgol Bangor, sy’n arwain y gwaith ymchwil:

“Fel un sy’n dioddef o glwy’r gwair fy hun, rwy’n gwybod er bod y cyfrif paill yn uchel ar rai diwrnodau,  fy mod yn profi llai o effeithiau nag ar ddyddiau eraill pan fo’r rhagolygon yn ymddangos yn is. Arweiniodd hyn i mi ac eraill ystyried ai’r llwyth uchel o baill yn yr aer yn unig sydd yn achosi’r broblem, neu a yw gwahanol beilliau glaswellt yn achosi gwahanol lefelau o ymateb.”

Ychwanegodd Georgina Brennan, o Brifysgol Bangor, a fu’n dadansoddi ‘DNA amgylcheddol’ paill awyr gyda Dr Caitlin Potter o Brifysgol Aberystwyth a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:

“Mae dod ag amrywiaeth o arbenigwyr ynghyd wedi ein galluogi i ganfod atebion cychwynnol. Ein tasg ar hyn o bryd yw datblygu darlun mwy cliri o darddiad y paill, sut mae’n symud drwy’r aer a sut mae gwahanol fathau o baill yn gysylltiedig ag alergeddau.”

Meddai Dr Ben Wheeler o Brifysgol Caerwysg:

“Rydym bellach yn ymchwilio i setiau data ar fynediadau ysbyty a phresgripsiynau meddygon teulu am gynnyrch fferyllol penodol, er mwyn adnabod cydberthyniadau rhwng setiau data gofal iechyd a chynnydd mewn peilliau glaswellt penodol. Gyda’r ddealltwriaeth newydd hon o nodweddu paill, rydym yn canolbwyntio ar y goblygiadau o ran rhybuddion paill a strategaethau hunanofal at y dyfodol.”

Meddai Dr Rachel McInnes o Swyddfa Met y Deyrnas Unedig:

“Yn dilyn o’r ymchwil DNA amgylcheddol, rydym yn awr yn datblygu mapiau o leoliadau’r rhywogaethau glaswellt hyn sy’n achosi alergeddau yn y Deyrnas Unedig. O’u cyfuno gyda dulliau modelu awyr sy’n cael eu datblygu gan yr Athro Carsten Skjøth ym Mhrifysgol Caerwrangon, gellid defnyddio’r dulliau hyn i wella ein rhagolygon paill yn y dyfodol.”

Arweiniwyd yr ymchwil gan dîm rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr o Brifysgol Bangor, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol New South Wales, Sydney, Prifysgol Queensland a Phrifysgol Caerwrangon mewn cydweithrediad â Swyddfa’r Met. Enw’r grŵp cyfun yw PollerGEN (http://pollergen.bangor.ac.uk/), ac mae wedi derbyn Grant Safonol NERC o £1.2m. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2019