Agoriad yr Arddangosfa ar Fywyd yr Iddewon – Gyda Derbyniad Cosher

Mae Goleufa Cymru wedi dyfarnu £19,000 i Dr Nathan Abrams o Ysgol Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor a Dr Sally Baker o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, gan gydweithredu ag Esther Roberts o Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, i gynnal arddangosfa deithiol ar fywyd yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Trwy’r arddangosfa hon, caiff pobl leol gyfle i ddysgu am hanes yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Mae Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru ers o leiaf ganrif a hanner, ac wedi chwarae rhan bwysig yn ei hanes. Er enghraifft, roedd Isidore Wartski yn faer ar Fangor, ac ef oedd y maer Iddewig cyntaf yng Nghymru.  Cynhelir yr arddangosfa mewn cyfuniad o leoliadau o fewn Prifysgolion ac adeiladau cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru. Cynhelir hefyd gyfres o weithdai yn y Brifysgol, ac mewn lleoliadau ac ysgolion yn y cylch.
Mae Sally and Nathan wedi derbyn gwahoddiad gan Yr Adran Astudaiethau Crefyddol, Coleg Menai Bangor, i gyflwno eu hymchwil yn benodol i fyfyrwyr Lefel ‘A’ sydd ar hyn o bryd yn astudio Iddewiaeth ac hefyd i aelodau staff y Coleg.


Mae’r arddangosfa eisoes wedi teithio i Flaenau Ffestiniog, a Darllenfa Shankland ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg fydd ei lleoliad nesaf. Cynhelir derbyniad i nodi ei hagoriad nos Iau 14 Hydref o 7 tan 8.30pm. Bydd lluniaeth cosher ar gael, fel y caiff pobl gyfle i ddysgu am y cyfreithiau dietegol Iddewig (cashrwt) ac i flasu bwyd Iddewig. Bydd yr arddangosfa’n parhau tan 30 Hydref, cyn teithio i Bwllheli.

Mae mynediad i’r arddangosfa am ddim ac mae hi’n agored i bawb, beth bynnau eu cefndir crefyddol neu ddiwylliannol.

Mae’r project yn datblygu mwy o gysylltiadau rhwng Prifysgol Bangor a’r gymuned ehangach. Caiff pobl leol gyfle i weithio gydag academyddion, fel y gall y rhai sydd heb gael cyswllt blaenorol â phrifysgol sylweddoli nad ‘tyrau ifori’, yn syml, mohonynt. Bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn dysgu nad yw hanes yn rhywbeth sy’n digwydd i bobl eraill, nac yn ymwneud yn unig â phobl ‘bwysig’ neu ‘adnabyddus’, ond, yn hytrach, eu bod hwythau’n ymwneud eu hunain â chreu hanes. Bydd y gwaith o gasglu cyfweliadau llafar ar hanes hefyd yn galluogi aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan mewn recordio atgofion. Cânt hefyd gyfle i ddysgu sut i ymhél â hanes lleol.

Yn ddiweddar, bu Sally a Nathan yn cyflwyno eu prif broject ymgysylltu â’r cyhoedd yn Senedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghaerdydd.

Meddai Nathan a Sally, “Mae’n bleser gennym ein bod wedi ennill y wobr hon, a fydd yn rhoi inni gyfle nid yn unig i ymgysylltu â’r cyhoedd, ond hefyd i gyflwyno ein hymchwil i gynulleidfa ehangach.  Rydym yn gobeithio’n wirioneddol y bydd yn annog pobl i gymryd rhan, ac i ymwneud â hanes lleol a hanes llafar drostynt eu hunain, p’un a fyddo’n ymwneud â’r Iddewon neu beidio.”

Mae Goleufeydd ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn ganolfannau cydweithredol o fewn prifysgolion sy’n cynorthwyo i gefnogi, adnabod ac adeiladu’r gallu ar gyfer gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd ar draws y DU. Ceir chwe Goleufa ar draws y DU ac un Ganolfan Gydlynu Genedlaethol.  Meddai Goleufeydd Cymru, “Mae’n bleser gennym gefnogi Nathan a Sally yn eu gwaith gyda chymunedau yng Ngogledd Cymru i agor yr astudiaeth ar hanes yr Iddewon i gynulleidfa lawer ehangach. Nid rhyfeloedd a gwleidyddiaeth uchel yn unig yw hanes ond, yn hytrach, profiadau ac atgofion pobl bob dydd – gwych o beth yw gweld Prifysgol Bangor yn annog pobl leol i gymryd rhan yn y gwaith o ysgrifennu eu hanesion eu hunain, gan ddod â phrifysgolion a’r cyhoedd yn nes at ei gilydd.”

Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2010