Allwn ni ddefnyddio eDNA fel 'chwyddwydr amgylcheddol'?

Mae syniad arloesol a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis fel un o wyth project a ddewiswyd o fewn pedwar maes 'syniad' a gyllidir drwy ffrwd cyllid ymchwil newydd "Highlight Topic" Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Ar sail eu hymchwil, gwahoddwyd y gymuned wyddonol i gyflwyno meysydd project a fyddai'n rhoi lle canolog i wyddor amgylcheddol yn y gwaith o reoli'r blaned yn gynaliadwy.  

Ymysg tua 150 o gyflwyniadau roedd "DNA amgylcheddol: cyfrwng ar gyfer ecoleg yr unfed ganrif ar hugain", sef y syniad newydd a awgrymwyd gan Brifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag academyddion a budd-ddeiliaid eraill.  Bydd y project llwyddiannus yn asesu sut y gallwn ddefnyddio technegau genetig newydd i fesur bioamrywiaeth.  

 Yr Afon Prysor ar ei thaith drwy Warchodfa Natur Cenedlaethol Ceunant Llennyrch. Yr Afon Prysor ar ei thaith drwy Warchodfa Natur Cenedlaethol Ceunant Llennyrch. Dyma'r eglurhad a gafwyd gan Dr Simon Creer o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol:

"Efallai ei fod yn swnio ychydig fel ffuglen wyddonol, ond yn ddiweddar rydym wedi darganfod bod signalau genetig cudd eu trigolion i'w cael mewn llynnoedd, ffrydiau ac afonydd, wrth i blanhigion a chreaduriaid ollwng celloedd yn gyson i'r amgylchedd y maent yn byw ynddo.  Mae holl gelloedd byw a marw'n cynnwys cod genetig unigryw rhywogaethau unigol.  Gallwn fynd at yr olion genetig hyn drwy hidlo dŵr o afonydd lleol ac yna gwneud dadansoddiad genetig moleciwlaidd er mwyn gweld pa anifeiliaid, planhigion a ffyngau sy'n byw ynddynt.  Yr hyn sydd ddim yn glir, fodd bynnag, yw'r cysylltiad rhwng y signalau genetig â'r gymuned o greaduriaid a phlanhigion byw, yn arbennig mewn afonydd, a ph'un a ellir defnyddio'r signalau, neu 'DNA amgylcheddol' fel math o 'chwyddwydr amgylcheddol' i ddeall sut mae gwahanol fathau o reoli tir yn effeithio ar fioamrywiaeth mewn dalgylchoedd afonydd ac o'u cwmpas.  Mae deall y berthynas hon yn arbennig o bwysig er mwyn asesu iechyd llynnoedd ac afonydd, ein prif ffynonellau o ddŵr yfed ffres.

Er mwyn darganfod mwy, mae Dr Simon Creer a'i dîm wedi derbyn grant 'Highlight Topic' o £1.25M i weithio gyda'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Birmingham a chydweithwyr ledled y byd.  Mae'r grant bedair blynedd hefyd yn cynnwys nifer o fudd-ddeiliaid, yn cynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Meddai'r Athro Angela Hatton, cadeirydd Bwrdd Gwyddoniaeth NERC:  "Bwriad y cynllun cyllido 'Highlight Topics' yw rhoi mwy o ran i'r gymuned wyddonol yn y dasg o adnabod meysydd y mae angen cyllido ymchwil strategol ynddynt.  Bydd y grŵp cyntaf hwn o brojectau'n rhoi gwybodaeth bwysig i helpu cymdeithas i ddelio â phroblemau'n cynnwys colledion bioamrywiaeth, llygredd nanoronynnau a newid amgylcheddol."

Meddai'r Athro Graham Underwood, cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Rhaglen Strategol NERC:  "Fe wnaeth y gymuned gwyddoniaeth amgylcheddol ymateb yn rhagorol i'r ceisiadau am syniadau newydd yn y maes ac mae'r projectau hyn yn cyd-fynd yn dda ag amcanion y grŵp ymgynghorol.  Hoffwn ddiolch i'r holl ymgeiswyr ac i'r rhai a fu'n ymwneud ag asesu a dewis y projectau rhagorol hyn." 

Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2015