Anifail sydd wedi byw hiraf yn datgelu cyfrinachau am hinsawdd y cefnfor

Mae dadansoddiad o'r gragen forwyn fwyaf yn dangos sut mae'r cefnforoedd wedi cael effaith ar yr hinsawdd dros y 1000 o flynyddoedd diwethaf

Mae astudiaeth o'r anifail sydd wedi byw hiraf ar y ddaear, y gragen forwyn fwyaf, wedi rhoi gwybodaeth na welwyd ei thebyg o'r blaen i ymchwilwyr am hanes y cefnforoedd.

Cragen fylchog (clam) quahog, efo llinellau twf i'w gweld ar y gragen. Cragen fylchog (clam) quahog, efo llinellau twf i'w gweld ar y gragen. Drwy astudio cemeg y cylchoedd tyfu yng nghregyn y forwyn fwyaf, mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor gyda chydweithwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Exeter, ac yn yr Unol Daleithiau, Denmarc a Gwlad yr Iâ, wedi creu darlun o hanes Gogledd Cefnfor Iwerydd dros y 1000 o flynyddoedd diwethaf ac wedi darganfod sut mae ei swyddogaeth o ran gyrru'r hinsawdd atmosfferig wedi newid yn llwyr.

Dangosodd y tîm ymchwil bod newidiadau yng Ngogledd Cefnfor Iwerydd cyn y cyfnod diwydiannol (cyn OC 1800), a achoswyd gan amrywiadau yng ngweithgarwch a ffrwydradau folcanig yr haul, yn gyrru ein hinsawdd ac wedi arwain at newidiadau yn yr atmosffer, a hynny wedyn wedi effeithio ar ein tywydd.

Fodd bynnag, newidiodd hyn yn ystod y cyfnod diwydiannol (1800-2000) ac mae'r newidiadau yng Ngogledd Cefnfor Iwerydd bellach yn cyd-ddigwydd â'r newidiadau yn yr atmosffer, neu'n digwydd ar eu hôl. Cred ymchwilwyr y gall hyn fod oherwydd dylanwadau nwyon tŷ gwydr.

Meddai David Reynolds (Prifysgol Caerdydd), prif awdur yr astudiaeth: "Mae'r canlyniadau'n eithriadol o bwysig o ran deall sut y gall newidiadau yng Ngogledd Cefnfor Iwerydd effeithio ar yr hinsawdd a'r tywydd ar draws Hemisffer y Gogledd yn y dyfodol".

Cyhoeddwyd y canfyddiadau hyn heddiw yn y cyfnodolyn Nature Communications.

Mae'r gragen forwyn fawr, a elwir hefyd yn gragen fylchog galed neu'n gragen fylchog gawl, yn folwsg bwytadwy sy'n byw ym moroedd ysgafell gyfandirol gogledd America ac Ewrop, a gall fyw am dros 500 o flynyddoedd.

Gall cemeg y cylchoedd tyfu yng nghregyn y forwyn fwyaf, fel y cylchoedd tyfu blynyddol mewn coed, ddangos hefyd gyfansoddiad cemegol y cefnforoedd, fel y gall ymchwilwyr greu ail-luniad o'r hanes sut mae'r moroedd wedi newid dros y 1000 o flynyddoedd diwethaf gyda manylder dyddio nas welwyd o'r blaen.    

Drwy gymharu'r cofnod hwn gyda chofnodion am amrywioldeb yr haul, ffrwydradau folcanig a thymheredd aer atmosfferig, roedd ymchwilwyr yn gallu llunio darlun ehangach ac ymchwilio i sut mae pob un o'r rhain wedi bod yn gysylltiedig â'i gilydd dros amser.

Llinellau twf tu fewn i gragen fylchog (clam) quahog.  Mae’r bar du yn cynrychioli 0.3mmLlinellau twf tu fewn i gragen fylchog (clam) quahog. Mae’r bar du yn cynrychioli 0.3mmMeddai'r Athro James Scourse yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion: "Dyma'r tro cyntaf i gofnod cydrannol blynyddol o hinsawdd y môr am y 1000 o flynyddoedd diwethaf gael ei greu o unrhyw ran o gefnforoedd y byd. Dyma’r defnydd pwysicaf o waith ein grŵp yn y Gwyddorau Eigion ers i ni ddechrau ein hymchwil dros 25 mlynedd yn ôl. Mae'r canlyniadau'n dangos pa mor bwysig yw cynnyrch yr haul a ffrwydradau folcanig o ran llywio'r hinsawdd, a dyma'r tro cyntaf i'r gwrthdro mewn arweiniad ac arafiad rhwng yr atmosffer a'r cefnforoedd gael ei ddangos. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y cofnodion cydrannol blynyddol o'r cregyn."

Hyd yn hyn, dim ond ers y 100 mlynedd diwethaf y gwnaed arsylwadau offerynnol o'r cefnforoedd, ac mae ail-luniadau gan ddefnyddio gwaddod craidd o'r môr yn golygu ansicrwydd sylweddol o ran oed.  Mae hyn wedi cyfyngu ar allu ymchwilwyr i edrych ymhellach yn ôl mewn amser ac edrych ar  swyddogaeth y cefnfor yn y system hinsawdd ehangach gan ddefnyddio dadansoddiadau ystadegol manwl.

Meddai cydawdur yr astudiaeth, Paul Butler yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion: "Mae'r gwaith hwn wedi dangos y problemau wrth seilio asesiadau o hinsawdd y môr ar gofnodion offerynnol byr sy'n cwmpasu dim ond ychydig o flynyddoedd ar ei orau, a dros gyfnod o amser sydd wedi cael ei effeithio'n sylweddol gan weithgareddau dynol. Bydd y cofnodion yn helpu i fireinio sgiliau modelau cyfrifiadurol wrth ragfynegi newid  hinsawdd yn y dyfodol". 

Dywedodd yr Athro Chris Richardson hefyd o Ysgol Gwyddorau'r Eigion, wrth gloi: "Mae'r cofnodion hyn yn rhoi golwg ar gyflwr naturiol y cefnfor cyn i ddynoliaeth ddechrau gael gymaint o effaith ddramatig ar yr amgylchedd cyfan, ac maent hefyd yn cofnodi pa mor ddwys oedd yr effaith."

Cafodd yr astudiaeth o dan arweiniad Bangor ei hariannu gan NERC a gwnaed ar y cyd gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Exeter, Prifysgol Talaith Iowa, Prifysgol Aarthus a Phrifysgol Gwlad yr Iâ.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2016