Ar drywydd gwyddau ucha’r byd

Gwyddau pen-bar  yn hedfan : Llun gan Nyambayar BatbayarGwyddau pen-bar yn hedfan : Llun gan Nyambayar BatbayarMae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor wedi datgelu

Gwyddau pen-bar  yn hedfan : Llun gan Nyambayar BatbayarGwyddau pen-bar yn hedfan : Llun gan Nyambayar BatbayarMae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor wedi datgelu gorchestion rhyfeddol y gwyddau sy’n medru hedfan uchaf yn y byd, ac mae ffrwyth eu hymchwil i’w gyhoeddi yn y cylchgrawn gwyddonol Americanaidd pwysig:  Proceedings of the National Academy of Sciences.

Mae Dr Charles Bishop a Dr Lucy Hawkes, o Brifysgol Bangor, a thîm rhyngwladol mawr o ymchwilwyr, wedi darganfod y gall gwyddau pen-bar (Anser indicus) hedfan i uchder o  6,000m mewn dim ond 8 awr wrth iddynt groesi mynyddoedd yr Himalaya. Byddai dringfa debyg mor ddwys a chyflym â hynny’n lladd dringwr dynol heb gyfnod maith o ymgynefino â’r uchder. Mae’r gwyddau’n gwneud y daith hon bob gwanwyn wrth iddynt fudo o India i Ganolbarth Asia. Fe wnaeth y tîm ddilyn mudiadau’r gwyddau hyn bob awr gan ddefnyddio tagiau lloeren GPS, ar ôl i rai o’r adar gael eu dal yn India, lle maent yn gaeafu, a Mongolia, lle maent yn magu. Yn yr astudiaeth a gyhoeddwyd, maent yn dangos y gall y gwyddau wneud y ddringfa hir mewn un ehediad. Hefyd, yn hytrach na disgwyl am wyntoedd ffafriol i helpu i’w cludo i fyny a dros yr Himalaya (fel y credid o’r blaen), maent yn disgwyl i’r gwyntoedd ostegu ac yna’n dringo dros y mynyddoedd pan mae’n gymharol dawel a heddychlon yn y nos ac yn gynnar yn y bore.

Haid o wyddau pen-bar : Llun gan Nyambayar Batbayar         Haid o wyddau pen-bar : Llun gan Nyambayar Batbayar“Rydym yn meddwl bod y gwyddau’n ymwybodol o beryglon ac yn ceisio’u hosgoi,” meddai Dr Charles Bishop (Prif Ymchwilydd y project), “gyda’r gwyntoedd ysgafnach yn y nos yn rhoi mwy o ddiogelwch iddynt a’u helpu i osgoi stormydd. Efallai bod yr adar yn ei chael yn haws hefyd i gadw efo’i gilydd a hedfan mewn ffurf benodol.” 

Gall hedfan yn gynnar yn y bore helpu’r gwyddau i fanteisio ar aer oerach a dwysach y bore, gan osgoi hedfan yn ystod cyfnod poethaf y dydd yn India.

“Cawsom ein rhyfeddu o weld y gwyddau’n llwyddo i ddringo fel hyn am oriau ar y tro,” meddai Dr Lucy Hawkes. “Roedd yn rhyfeddol eu gweld yn gallu ymdopi â’r fath ymarfer caled mor uchel i fyny, heb sôn am y ffaith nad oeddent yn stopio am seibiannau rheolaidd yn ystod y dringfeydd, sy’n para am o leiaf saith awr dros yr Himalaya”.

Bydd aer dwysach hefyd yn rhoi mwy o hwb i’r pŵer a gynhyrchir gan yr adenydd a hefyd gynyddu maint yr ocsigen sydd ar gael i’r adar. Mae astudiaethau ar aderyn tebyg, sef gŵydd Brent    (Branta bernicla), tra maent yn mudo rhwng Iwerddon a Chanada, wedi awgrymu bod eu gallu i ddringo wrth hedfan mor wael fel eu bod efallai'n glanio ar gap rhew enfawr yr Ynys Las (Greenland) a cherdded drosto yn hytrach na hedfan. Mae hyn yn gwneud i ymfudiad yr ŵydd pen-bar ymddangos yn fwy rhyfeddol fyth ac mae’r athletwyr hynod hyn yn sicr yn dal y teitl o fudwyr uchaf y byd.   

Pâr o wyddar pen-bar a'u cywion : Llun gan Nyambayar Batbayar                Pâr o wyddar pen-bar a'u cywion : Llun gan Nyambayar Batbayar“Mae’n dal yn gwestiwn mawr faint yn uwch y gallai’r gwyddau hyn hedfan mewn gwirionedd,” meddai’r Athro Pat Butler (Cyd-ymchwilydd ar y project o Brifysgol Birmingham), “gan fod yr adar, yn synhwyrol ddigon, yn cadw’n weddol agos at y ddaear a ddim yn hedfan yn uwch nag oedd ei angen.”  Ar uchder o 5,500 m mae pwysau atmosfferig ac, felly, ddwysedd ocsigen, yn ddim ond hanner beth ydyw ar lefel y môr. Yn agos at gopa mynydd Everest, gall amodau fod yn galetach fyth, gyda thymheredd yn bell o dan sero a phwysau rhannol ocsigen yn ddim ond y drydedd ran o’r hyn ydyw ar lefel y môr. Mae pobl yn cael trafferth i gerdded hyd yn oed dros 7000m, felly mae’n ymddangos yn anhygoel bod y gwyddau mawr hyn yn gallu hedfan yn gryf ar uchderau lle na all hofrenyddion hedfan oherwydd yr aer tenau. Fodd bynnag, gwyddom fod y gwyddau pen-bar yn mudo'n flynyddol, gan ddringo o lefel y môr a thros gadwyn fynyddoedd yr Himalaya mewn llai na diwrnod, a'u bod yn gwneud hynny heb unrhyw hyfforddiant neu ymgynefino ar gyfer yr ehediad. 

 

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2011