Archif y mis

Llun: Gwesteion a myfyrwyr yn hamddena a gwau trwy'i gilydd yn y cwad allanol ddiwrnod graddio 1966. Roedd gwisgo het yn arferiad gan y gwesteion benywaidd

Mae’r Archifau yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau Bangor. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.

Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2013