Arolwg pum mlynedd o bwys i adrodd ar effeithiau cadarnhaol a negyddol heneiddio

Mae gennym boblogaeth sy’n heneiddio. Mae pobl hŷn yn byw yn hirach ac felly’n ganran uwch o’n poblogaeth nag erioed o’r blaen. Erbyn 2025, am y tro cyntaf mewn hanes, bydd 20% o’r boblogaeth dros 65 a 5.5% dros 80. Mae ystadegau’n awgrymu y bydd achosion o ddementia yn y DU yn cynyddu o 38% dros y 15 mlynedd nesaf ac o 154% dros y 45 mlynedd nesaf.

Mae arolwg ar raddfa fawr yn cael ei chynnal mewn sawl ardal yng Nghymru i asesu sut yr ydym yn heneiddio ac i edrych ar ffactorau a all gyfrannu at ‘heneiddio’n iach’.

Mae pob cenhedlaeth o bobol hŷn yn wahanol i’r un flaenorol. Mae ganddynt brofiadau a disgwyliadau bywyd gwahanol a gogwydd gwahanol ar y byd. Mae’u hagwedd at ymddeoliad, hamdden, iechyd, gweithgaredd, maeth ac ymarfer corff am fod yn wahanol i genhedlaeth eu rhieni. Bydd eu syniadau am sut y dylid ateb anghenion gofal a chynhaliaeth, hefyd yn dra gwahanol, o bosibl dan ddylanwad newidiadau mewn teuluoedd a chymdeithas.

Fel y mae’r boblogaeth yn heneiddio, mae’n rhaid i ni sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn mwynhau eu blynyddoedd hwyr, a bod y rhai sydd yn sâl, sy’n cael diagnosis o ddementia neu amhariad meddyliol sy’n gysylltiedig â heneiddio, eu teuluoedd a’u gofalwyr, yn cael eu cefnogi yn y modd gorau a mwyaf cost-effeithiol.

Gyda hyn mewn golwg, mae Prifysgol Bangor yn lansio’r arolwg manwl pum mlynedd sy’n edrych ar iechyd a lles a newidiadau mewn cof yn y blynyddoedd hwyr a ffactorau a all hybu heneiddio iach.

Bydd pum mil o bobol o Ynys Môn, de Gwynedd, Castell-nedd a Phort Talbot yn cael eu recriwtio i gymryd rhan yn yr arolwg. Mae’r project £3.3 miliwn yn cael ei gyllido gan Gyngor Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Chyngor Cyllido Addysg Uwch  Cymru.

Meddai Gwenda Thomas, Dirprwy Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad:

“Mae hwn yn broject arwyddocaol a phwysig ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae llawer o drafodaeth ar yr effaith y mae newidiadau’n ymwneud â phoblogaeth sy’n heneiddio yn debygol o’i chael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Bydd yr arolwg yma’n cyfrannu’n sylweddol at ein dealltwriaeth o heneiddio mewn cymunedau cefn gwlad a dwyieithog, a bydd o fwy o arwyddocâd i Gymru ac, yn wir, i’r ardaloedd hynny sy’n cymryd rhan, wrth gyfrannu at y darlun cynhwysfawr yn y DU ac yn rhyngwladol.”

“Nid ein genynnau a’n hiechyd yn unig sy’n rheoli sut yr ydym yn heneiddio,” esbonia’r Athro Bob Woods, a fydd yn arwain yr ymchwil yng Nghanolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, Prifysgol Bangor.

“Ceir mwyfwy o gydnabyddiaeth ymysg llywodraethau, y rhai hynny sy’n darparu gofal, ac o fewn y gymuned ymchwil, ynglŷn â phwysigrwydd ffactorau megis sefyllfa gymdeithasol pobol, lle maent yn byw, eu gwytnwch yn wyneb salwch, a hyd yn oed p’un a ydynt yn ddwyieithog ai peidio. Ceir hefyd dystiolaeth o bwysigrwydd fitamin B12.”

“Agwedd bwysig ar yr ymchwil yw’r gallu i gymharu’r canlyniadau â chanlyniadau arolwg a wnaed yng nghanol y 90au i ganfod sut mae rhwydweithiau perthnasau cymdeithasol pobol hŷn wedi newid yn wyneb newidiadau sylweddol mewn teuluoedd a chymdeithas dros y cyfnod. Byddwn hefyd yn gallu canfod a yw’r ystod newidiadau mewn cof a’r gallu i feddwl ar unrhyw oedran neilltuol wedi lleihau gyda’r gwellhad cyffredinol mewn iechyd, ymarfer a gweithgaredd. Mae peth tystiolaeth fod lefel uchel o addysg, parhau’n weithgar, yn gorfforol ac yn feddyliol, cael bywyd cymdeithasol gweithgar a bod yn ddwyieithog i gyd yn amddiffynnol yn y blynyddoedd hwyr.

“Rydym hefyd yn ymddiddori yn yr hyn sy’n  galluogi rhai pobol hŷn i ymdopi’n well efo anawsterau bywyd ac yn eu gwneud fwy gwydn nag eraill. Byddem yn astudio a yw gwytnach o gymorth ac yn cyfrannu at les cyffredinol, a yw’r person yn profi newidiadau mewn cof a meddwl, a phrofi i ba raddau y mae gwytnwch yn lleihau effaith amhariad gwybyddol.

“Nid ydym yn canolbwyntio ar agweddau negyddol heneiddio yn unig, fel newidiadau o ran iechyd, cof a meddwl. Mae llawer o bobl yn ymdopi’n dda â’r hyn y mae bywyd yn ei gynnig.”

“Am y tro cyntaf, rydym yn dod a’r holl ffactorau at ei gilydd fel rhan o arolwg mwy ac yn cloriannu’r effaith a gânt ar lefel unigolyn, cymuned a chymdeithas. Dylai hyn roi gwybod inni ynglŷn â ph’un a ydynt yn lleihau’r risg o newid mewn cof a meddwl, ac efallai o ddementia, mewn yn y blynyddoedd hwyr.”

Mae’r ymchwil hefyd yn cael ei chyplysu ag astudiaethau ar heneiddio a sgiliau gwybyddol, dan arweiniad Athro Carol Brayne o Brifysgol Caergrawnt yn Lloegr. Bydd y data a ddaw o’r ymchwil hefyd ar gael i ymchwilwyr ar draws y DU.

Bydd partneriaid ym Mhrifysgol Abertawe yn edrych ar bwysigrwydd rhwydweithiau cymdeithasol a pherthnasau i bobol hŷn, tra bydd partneriaid ym Mhrifysgol Lerpwl yn edrych ar faeth a rôl fitamin B12, sydd yn cael ei chyplysu â gweithrediad gwybyddol.

Gofynnir i rai sydd am wybod mwy gysylltu â Dr Gill Windle, rheolwr y project g.windle@bangor.ac.uk (01248) 383968.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011