Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Cydnabod Cyfraniad Oes

Derbyniodd Gwerfyl Roberts, Uwch-Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Wobr Cyfraniad Oes yn ystod Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau 2017 Llywodraeth Cymru yn ddiweddar.

Mae Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau yn cydnabod ac yn dathlu pwysigrwydd darparu

Gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, a’r gwaith eithriadol sy’n cael ei gyflawni gan unigolion a thimau.

Yn ogystal â’r gwobrwyon a ddyfarnwyd a’r gydnabyddiaeth a roddwyd i unigolion a thîmau o fewn gofal iechyd yng Nghymru, dyfarnwyd un Wobr Cyfraniad Oes.

Gwerfyl Roberts yn derbyn ei gwobr yn ddiweddarGwerfyl Roberts yn derbyn ei gwobr yn ddiweddarWrth ddyfarnu’r wobr i Gwerfyl, dywedodd Andrew Goodall, Prif Weithredwr y GIG yng Nghymru:

“Mae’n fraint gen i gyflwyno gwobr cyrhaeddiad oes i unigolyn sydd wedi bod yn  ysbrydoliaeth ac sydd wedi gweithio’n ddi-flino er mwyn gwella ansawdd darpariaeth gofal iechyd dwyieithog ers blynyddoedd. Mae wedi cyhoeddi gwaith arloesol ar sawl pwnc, gan amlinellu’r profiad Cymreig a gosod y cyd-destyn rhyngwladol.  Mae hi hefyd wedi cyfrannu at waith sawl Bwrdd a gweithlu, yn aml yn cynghori Llywodraeth Cymru, ac mae ei phrofiad wedi gwneud gwahaniaeth ac wedi cael dylanwad positif ar bolisi cyhoeddus yng Ngghymru.”

Dywedodd Llywydd y Gynhadledd, Angharad Mair:

“Llongyfarchiadau mawr i Gwerfyl, sy’n llawn haeddu’r wobr yma am ei chyfraniad dros y blynyddoedd ac am ysbrydoli eraill.  Dyma enghraifft dda o rywun sydd wedi arwain a gwneud gwahaniaeth y tu ôl i’r llenni.”

Dyma oedd ymateb Gwerfyl:

“Braint ac anrhydedd o’r mwyaf yw derbyn y wobr hon. Wrth edrych nôl ar fy ngyrfa, dwi’n teimlo’n hynod ffodus fy mod i wedi gallu cyfuno dau faes gwaith sydd mor agos at fy nghalon, sef hyrwyddo’r Gymraeg a gofal iechyd.”

Un arall i longyfarch Gwerfyl ar ei gwobr oedd Yr Athro Chris Burton, Pennaeth yr Ysgol, a ddywedodd:

“Gall iaith fod yn beth neilltuol o bwysig ym maes gofal iechyd; yn aml iawn rydym yn gofyn am wybodaeth bersonol iawn gan bobl, ac mewn nifer o achlysuron gall yr unigolyn deimlo’n ddigon bregus. Mae darparu gwasanaethau sy’n cydnabod anghenion ieithyddol cleifion a defnyddwyr yn greiddiol er mwyn ateb gofynion eu gofal â pharch ac urddas. Mae Gwerfyl wedi bod wrth wraidd y gwelliannau i wasanaethau cyfrwng Cymraeg ar hyd a lled Cymru ac mae ei gwaith caled a’i hymroddiad wedi arwain at wella’r gwasanaeth y mae nifer fawr o bobl yn ei dderbyn gan y GIG yng Nghymru – o blant bach uniaith Gymraeg hyd at oedolion â dementia neu gyflyrau eraill sy’n tarfu ar eu gallu i gyfathrebu mewn iaith tu hwnt i’w mamiaith. Ar ben hyn, mae’r datblygiadau hyn wedi cael eu mabwysiadu gan nifer o ranbarthau dwyieithog eraill ar hyd a lled y byd, megis Canada a Gwlad y Basg.”

Fis nesaf, bydd Gwerfyl yn teithio i Ottawa i rannu ei harbenigedd. Yn gyntaf, bydd yn  cymryd rhan mewn cynhadledd ryngwladol y Société Santé en Français http://rvsante2017.ca/ ac yna’n cyd-gadeirio pwyllgor y Canada’s Health Standards Organisation (HSO) Technical Committee for Communication in Health Services https://healthstandards.org/ . Tasg presennol y Pwyllgor yw dylunio, ar y cyd, safonau ar sail tystiolaeth er mwyn gwella mynediad at wasanaethau  iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ddiogel ac o safon uchel ar gyfer pobl o grŵpiau ieithoedd lleiafrifol swyddogol Canada.

Mae prif ddiddordeb ymchwil Gwerfyl yn canolbwyntio ar weithredu a chryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymarfer priodol o ran iaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi cael ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i arwain LLAIS, gwasanaeth cefnogi methodoleg ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg i’r Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR). Mae Gwerfyl yn aelod o Dasglu Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd ac o’r Grŵp Llywio Gweinidogaethol ar gyfer Fframwaith Strategol 2012-2015 i Wasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Mae’n ffigwr amlwg ym maes darparu addysg nyrsio cyfrwng Cymraeg, ac mae hefyd yn cynrychioli’r disgyblaethau iechyd ar fwrdd academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a sefydlwyd yn 2011.

 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2017