Cynllun trydan dŵr bach yn amddiffyn y Beibl Cymraeg hynaf

Un o ddim ond 24 copi o'r Beibl cyntaf i'w gyfieithu i'r Gymraeg: © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Iolo Penri PhotographyUn o ddim ond 24 copi o'r Beibl cyntaf i'w gyfieithu i'r Gymraeg: © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Iolo Penri PhotographyBydd Beibl Cymraeg 431 oed yn cadw’n gynnes dros y gaeaf ar ôl i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol osod tyrbin trydan dŵr bychan yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn Eryri, gan helpu i reoli lefelau lleithder yn y ffermdy o’r 16eg ganrif.

Trwy gydweithio â Phrifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn, mae’r cynllun ynni adnewyddadwy yn helpu’r elusen i sicrhau bod un o’r llyfrau pwysicaf i ddiwylliant Cymru’n cael ei amddiffyn mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Dim ond 24 copi gwreiddiol o Feibl 1588 sydd ar ôl ac mae un ohonynt yn Nhŷ Mawr Wybrnant lle ganed y cyfieithydd, yr Esgob William Morgan.

Mae’r Beibl prin hwn yn arbennig o sensitif i leithder yn yr aer. Er mwyn ei amddiffyn, mae’r Ymddiriedolaeth yn rheoli lefelau lleithder yn yr aer trwy addasu’r tymheredd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r elusen wedi bod yn defnyddio mwy o drydan er mwyn sicrhau cysondeb yn lefelau lleithder yr aer.

Esboniodd Keith Jones, Cynghorydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Newid yn yr Hinsawdd: “Yn gynharach eleni, cafwyd y llifogydd gwaethaf mewn cof yn Nhŷ Mawr Wybrnant a, gan fod yr aer yn fwy llaith, roedd rhaid cael mwy o wres i sicrhau nad oedd y lefelau lleithder yn mynd yn rhy uchel. Yn ôl y rhagolygon, mae’n debygol y bydd yn bwrw glaw yn drymach ac yn amlach yn yr ardal yn y dyfodol.   Bydd y cynllun trydan dŵr bychan hwn yn ein galluogi i addasu i newidiadau yn yr hinsawdd mewn ffordd fwy cynaliadwy.”

Yn Nhŷ Mawr Wybrnant, bu’r Ymddiriedolaeth yn chwilio am system fwy cynaliadwy gyda chymorth Prosiect Dŵr Uisce, a gefnogir trwy Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru 2014-2020 (ag ariannwyd gan Gronfa Datblygu

Mae'r sied tyrbin hydro pico wedi'i gorchuddio â llarwydd o ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gerllaw. : © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Iolo Penri PhotographyMae'r sied tyrbin hydro pico wedi'i gorchuddio â llarwydd o ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gerllaw. : © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Iolo Penri PhotographyWledig Ewrop) gydag ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn. Ar ôl ystyried pob opsiwn am system wresogi fwy effeithlon sydd hefyd yn gydnaws ag adeilad rhestredig Gradd II, dewiswyd system trydan dŵr 4.5kW, a elwir yn gynllun ‘pico hydro’ am ei fod mor fach.

 

Dywedodd Keith Jones: “Dim ond canran benodol o ddŵr y nant y bydd y cynllun trydan dŵr yn ei benthyca ar ôl i lefel y dŵr gyrraedd man neilltuol. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynhyrchu’r trydan pan fydd arnom ei angen fwyaf, pan fydd yr aer yn fwy llaith ar ôl glaw. Defnyddir yr ynni yn uniongyrchol ar y safle, yn unswydd er mwyn gwarchod y casgliad amhrisiadwy o Feiblau.”

Dywedodd Dr Prysor Williams, arweinydd y tîm yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor sydd â’r dasg o gyfrifo effeithiau gosod y dechnoleg: “Yn ogystal â’r arbedion ariannol amlwg, rydym yn disgwyl i brosiect fel hwn arwain at allyrru ychydig dros 5.2 tunnell yn llai o nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn.”

Dywedodd Dr Aonghus McNabola, Athro Cysylltiol mewn Peirianneg yn y Drindod ac arweinydd prosiect Dŵr Uisce: “Rydyn ni,  â'n partneriaid ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y prosiect hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn obeithiol y byddwn yn datblygu'r dechnoleg pico hydro gyffrous hon ac y gellir ei defnyddio'n ehangach yn y dyfodol agos. "

Mewn ymgais i haneru faint o danwydd ffosil a ddefnyddir erbyn 2020, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gosod nifer o dechnolegau adnewyddadwy, sy'n arbed ynni, ledled Eryri, yn cynnwys bwyleri a phympiau gwres biomas ar ffermydd ac mewn bythynnod gwyliau a swyddfeydd. Dyma’r wythfed cynllun trydan dŵr i’r Ymddiriedolaeth ei osod yn yr ardal. Cynllun 600kW Hafod y Llan oedd y cyntaf a’r mwyaf. 

Mae Tŷ Mawr Wybrnant, ger Betws y Coed, yn gartref i'r Beibl cyntaf a gyfieithwyd i'r Gymraeg fel rhan o gasgliad o Feiblau mewn dros 100 o wahanol ieithoedd.                 : © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Iolo Penri PhotographyMae Tŷ Mawr Wybrnant, ger Betws y Coed, yn gartref i'r Beibl cyntaf a gyfieithwyd i'r Gymraeg fel rhan o gasgliad o Feiblau mewn dros 100 o wahanol ieithoedd. : © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Iolo Penri PhotographyMae’r Beibl Cymraeg gwreiddiol yn cael ei arddangos gyda dros 200 o Feiblau eraill, llawer ohonynt wedi’u rhoi i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan ymwelwyr. Mae Beiblau mewn dros gant o wahanol ieithoedd yn y casgliad.

I gloi, dywedodd Keith Jones: “Rydym yn eithriadol o lwcus a breintiedig i gael Beibl Cymraeg gwreiddiol 1588 yn Nhŷ Mawr Wybrnant. Pan fyddwn yn ailagor yn y gwanwyn, caiff ymwelwyr ddysgu sut y mae technoleg newydd yn gwarchod hen, hen Feibl. Yn y bôn, mae dŵr yn ein helpu i ddatrys problem sydd wedi’i chreu gan ddŵr yn y lle cyntaf – mae ’na ryw fath o gyfiawnder yn hynny.”

Mae Tŷ Mawr Wybrnant wedi cau dros y gaeaf erbyn hyn a bydd yn ailagor yn y gwanwyn.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2019