Dilyniannu DNA newydd yn datgelu cymunedau cuddiedig

Mae hanner bwced o dywod o draeth di-nod yn yr Alban wedi datgelu gwe o anifeiliaid meicrosgopic mwy cyfoethog a chymhleth yn byw o fewn yr "ecosystem" fechan, nag a dybiwyd erioed.

 

Mewn papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolyn ar-lein Nature Communications adroddir sut y gwnaed hyn gan ddefnyddio dull newydd sy’n caniatáu dilyniannu DNA  cymunedau mawr o greaduriaid ac anifeiliaid aml-gell bychan iawn. Meta geneteg amgylcheddol yw’r enw sydd wedi’i roi ar y dechneg newydd hon sydd â’r potensial i weddnewid dulliau cyfoes o ddynodi rhywogaethau a dadansoddiadau amgylcheddol gan ddarparu mewnwelediad newydd i strwythur a chyfansoddiad y cymunedau hyn ynghyd â chymwysiadau newydd eraill o bosib.

Cafodd y gwaith ei gynnal gan dîm rhyngwladol, dan arweiniad Dr Simon Creer yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor, wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol. Roedd y project yn rhan o waith PhD Vera Fonseca, o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor, sydd wedi’i noddi gan Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Portiwgal.

 

Roedd y tîm yn gallu dynodi amrywiaeth geneteg bron y cwbl o rywogaethau anifeiliaid rhwng 45 micron -1mm mewn maint ar y traeth dan sylw yn yr Alban. Roeddent yn gallu mesur  niferoedd o wahanol grwpiau o anifeiliaid am y tro cyntaf erioed. O’i ddatblygu i asesu cymunedau o fewn gwaddodion ar wely’r môr, gellid addasu’r dechneg ar gyfer unrhyw ecosystem sydd yn llawn o organebau microsgopig.

 

“Mae’r technegau dilyniannu yn creu trefn sy’n gyflymach ac yn rhatach na’r dulliau traddodiadol. Wrth gwblhau'r gwaith yn y dull traddodiadol, byddai'n cymryd canrifoedd o oriau gwaith i ddynodi pob rhywogaeth unigol o sampl” meddai Vera Fonseca,  arweiniodd ar yr adroddiad ac sy’n fyfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor.

Mae’r dull newydd hwn yn agor y drws ar gyfer ymchwil pellach yn y dyfodol ar bynciau mor amrywiol â newid hinsawdd, effaith llygredd ar iechyd ecosystemau a dosbarthiad bywyd mirocbial o’r moroedd dwfn i amgylcheddau polar.

 

“Mae ychwanegu'r dilyniant DNA o’r samplau i fas-data yn galluogi gwyddonwyr i ddynodi ble fo rhywogaethau unigol yn digwydd- a dros amser- i weld sut y maent yn ymateb i newid hinsawdd, neu lygredd, neu ddigwyddiadau eraill a yrrir gan fodau dynol” esboniodd Dr Creer o Brifysgol Bangor.

 

Mae’r Athro Kelley Thomas o Brifysgol New Hampshire, oedd hefyd yn gweithio ar y project, eisoes yn defnyddio dulliau o’r math hwn i asesu effeithiau’r gollwng olew ar gymunedau metazoan meicrobial yng Nghulfor Mecsico.

“Wrth allu edrych yn wrthrychol ar yr holl grwpiau anifeiliaid ar yr un pryd am y tro cyntaf, rydan ni’n gallu dynodi amrywiaeth geneteg sylweddol,  a mesur  y lluosogrwydd cymharol o wahanol ffurfiau o fywyd anifeiliaid” meddai Dr Creer o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor.

 

“Er enghraifft, roedd y data’n dangos bod grŵp o lyngyr lledog rheibus wedi’u diystyru mewn asesiadau traddodiadol. Mae hynny'n debyg i ecolegydd ar laswelltir y savannah yn sylweddoli bod holl deulu’r gath wedi’i hepgor o’r astudiaethau ecolegol blaenorol ar y glaswelltir savannah ."

 

Meddai un o awduron y papur, yr Athro John D Lambshead o Ysgol Eigion a Gwyddorau’r Ddaear Prifysgol Southampton:

 

“Yn yr 80au cynnar, mi dreuliais i dair blynedd yn astudio deng mil o fwydod microsgopig ar y Firth of Clyde gyda'm llygad, un ar ôl y llall, gan ddefnyddio microsgopau goleuni cryf gan ddynodi 113 o rywogaethau. Yn ein hastudiaeth DNA newydd, dynodwyd 82 o fwydod nematod o’r un ardal mewn dim ond mis.”

Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2010