DNA yn canfod anifeiliaid afon y funud hon

Nymff Cleren Mai Nymff Cleren Mai Mae ymchwil newydd yn profi bod DNA amgylcheddol yn goroesi am lai na deuddydd mewn afonydd bach, chwim, ac felly mae'n darparu gwybodaeth leol a chyfredol iawn ar gyfansoddiad rhywogaethau.  Mae hon yn dystiolaeth newydd hollbwysig wrth i fiolegwyr droi fwyfwy at dechnegau samplo DNA newydd i asesu iechyd ecosystem dwr.

Mae samplo DNA amgylcheddol yn cael ei fabwysiadu fwyfwy gan asiantaethau'r llywodraeth a chontractwyr masnachol mewn asesiadau bioamrywiaeth oherwydd ei fod yn defnyddio llawer iawn llai o weithwyr, ac angen llai o arbenigedd a gallai leihau costau.  Mae'r dechneg yn cynnwys cymryd samplau dwr o gynefinoedd dwr a sgrinio am weddillion DNA (e.e. celloedd a secretiadau) sy'n tarddu o'r rhywogaethau sy'n bresennol.  Y gobaith yw y gellir gwneud y dull cyflym hwn yn awtomatig i gymryd lle dulliau mwy llafurus o drefnu samplau a'u hadnabod fel sydd angen ei wneud ar hyn o bryd.

Ond roedd cwestiwn mawr yn parhau: Pa mor hir y mae'r eDNA wedi bod yn y dwr?  Ac o ba mor bell i fyny'r afon a allai fod wedi dod? Mae'r ateb yn awr gan dîm rhyngwladol, a arweinir gan fiolegwyr Project LOFRESH o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Bangor. Gan adrodd mewn rhifyn cyntaf o gyfnodolyn academaidd newydd Nature, Communications Biology (DOI: 10.1038/s42003-017-0005-3), eglura'r cydlynydd a'r Athro Simon Creer:

“Mae'r dechneg eDNA hon wedi cael ei defnyddio'n llawer ehangach dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae eisoes wedi cyfrannu at warchod rhywogaethau ym Mhrydain megis y Madfall Ddŵr Gribog. Tra gall y dechneg adnabod creaduriaid yn amrywio o'r microsgopig i famaliaid a physgod mwy, nid oeddem yn gallu dweud yn bendant ers pa mor hir yr oedd unrhyw greadur wedi bod yn bresennol.  Ai eDNA ‘zombie’ oedd hyn yn parhau o greadur a oedd wedi hen farw neu a oedd yn fwy diweddar?”

Roedd yr arbrofion yn cynnwys cyflwyno eDNA o wahanol rywogaethau i nentydd arbrofol a oedd yn unigryw yn fyd-eang ger Llyn Brianne yng nghanolbarth Cymru, a dangoswyd bod y deunydd hwn a gyflwynwyd yn parhau am ddeuddydd yn unig. Roedd y ffrâm amser hwn yn fyrrach byth mewn dyfroedd ucheldir mwy asidig. Roedd DNA o rywogaethau gwahanol iawn (chwain dŵr, nymffod clêr Mai a'r llysywen Ewropeaidd) yn para am gyfnodau tebyg, gan ychwanegu rhagor o hyder i gywirdeb a dibynadwyedd y canlyniadau ar gyfer gwahanol fathau o anifeiliaid.

Eglura Dr Mat Seymour, ymchwilydd ôl-ddoethurol a'r prif awdur ar y project:

“Mae'r ffrâm amser cymharol fyr ar gyfer canfod gronynnau DNA mewn amgylcheddau naturiol yn gwneud defnyddio dulliau wedi'u seilio ar eDNA, ar gyfer biofonitro ac asesu amgylcheddol, yn hynod berthnasol oherwydd fe allwn ni'n awr fod yn hyderus ein bod yn cael sampl go agos i amser real o'r gymuned.”

 Y sustem  afon arbrofol get Llyn Brianne Y sustem afon arbrofol get Llyn BrianneYchwanegodd Dr Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd:

“Mae hwn yn waith cyffrous tu hwnt, sy'n dod â dulliau moleciwlaidd o safon byd eang ym maes bioleg at ei gilydd gyda chyfleusterau arbrofol unigryw yma yng Nghymru yn Llyn Brianne.  Mae'n gam mawr ymlaen o ran datblygu a dilysu eDNA fel teclyn rheoli'r amgylchedd, ond mae mwy i'w wneud. Sialens allweddol yn awr yw asesu pa mor dda mae eDNA yn datgelu cymunedau cyfan o rywogaethau sy'n bresennol mewn nentydd ac afonydd mewn gwahanol niferoedd”  

Mae'r Athro Jack Cosby o Ganolfan Ecoleg a Hydroleg Bangor, yn edrych i'r dyfodol:

“Mae'r gwaith hwn yn mynd â ni un gam ymhellach tuag at ddeall sut y gallwn ddefnyddio'r technegau eDNA hyn i wella'r gwaith o fonitro bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr ar raddfa genedlaethol”.  

Mae'r tîm ymchwil yn awr yn profi'r dulliau hyn mewn systemau afonydd naturiol, gan samplu Afon Conwy yn drylwyr a hyd at 60 o leoliadau ychwanegol, yn cynnwys lleoliadau yn Ewrop a'r Unol Daleithiau.

Cyllidwyd y gwaith hwn gan Gyngor Ymchwil i’r Amgylchedd Naturiol y DU fel grant 'Highlight Topic'.  Roedd y partneriaid ymchwil yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Canolfan Ecoleg a Hydroleg yr NERC, Bangor & Wallingford, Prifysgol Birmingham, Prifysgol Sydney, Prifysgol Cornell a Phrifysgol California Riverside.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018