DNA yn datgelu newidiadau tymhorol ym mhoblogaeth llyn eiconig yn Eryri

Mae llyn sydd wedi ymddangos ym miloedd o luniau twristiaid o’r Wyddfa hefyd wedi chwarae rhan hanfodol mewn gwella sut y gellir monitro llynnoedd ac afonydd yn y dyfodol.

Llyn Padarn, sy’n gorwedd wrth droed yr Wyddfa, oedd man profi ymchwil a all arwain at fonitro amgylcheddau afonydd a llynnoedd yn fwy effeithiol a chyflym. Mae hyn yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Bangor ac eraill, a gyhoeddwyd yn Nature Communications (coi10.1038/ncomms14087).

Mae technegau biofonitro newydd, sydd yn defnyddio sampl o ddŵr croyw neu ddŵr môr, yn rhoi ffyrdd cyflymach i chwilio am rywogaethau ac asesu’r amrediad a’r niferoedd o rywogaethau sydd mewn amgylchedd. Gwneir hyn drwy echdynnu ac adnabod darnau microsgopig o DNA  o blanhigion ac anifeiliaid sydd yn parhau yn y sampl.

Mae’r asiantaethau amgylcheddol ac asiantaethau eraill sy’n gyfrifol am asesu a monitro iechyd yr amgylchedd yn dangos cryn ddiddordeb mewn mabwysiadu’r dechnoleg i gyflymu'r broses o fonitro amgylcheddol mewn amgylchedd dŵr, ac o gynnal monitro amlach neu mewn mwy o leoliadau. Mae’r asiantaethau’n cydweithio gyda phrifysgolion a chwmnïau newydd sydd yn ymateb i’r galw am y  gwasanaeth hwn. Hyd yma mae’r dechnoleg wedi ei defnyddio’n bennaf i chwilio am rywogaethau arbennig, yn hytrach nag asesu’r amrediad o rywogaethau sy’n bodoli mewn un man.

Llyn Padarn a'r WyddfaLlyn Padarn a'r WyddfaYn ôl Dr Iliana Bista (cynfyfyriwr PhD KESS) a arweiniodd yr ymchwil gyda’r Athro Si Creer a’r Athro Gary Carvalho  o Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol ynghyd â thîm rhyngwladol:

“Mae cryn ddiddordeb yn y dechnoleg newydd ond, hyd yma, doedd neb yn sicr am ba hyd roedd yr ‘arwydd’ DNA yn parhau yn y dŵr mewn llyn go iawn. A oeddem yn canfod dim ond y creaduriaid oedd yno ar y pryd, ynteu creaduriaid a oedd wedi bod yno - a faint o amser oedd wedi mynd heibio ers iddynt fod yno? Yr her yr ydym wedi ei ddatrys oedd canfod am ba hyd y mae’r arwydd DNA yn parhau yn yr amgylchedd.  Yn ffodus, roedd yr ‘arwydd’ DNA yn dangos yr amrywiad tymhorol arferol, o aeaf i haf, yn union yr un fath â’r hyn yr ydym yn ei weld mewn grwpiau gwirioneddol o anifeiliaid.”

Bu’r tîm, sy’n arweinwyr ym maes DNA amgylcheddol (eDNA) a bar-codio DNA, yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd gyda chefnogaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys y broblem.

Bu’r tîm e-DNA ym Mangor yn monitro Llyn Padarn gan ddefnyddio DNA a dulliau adnabod rhywogaethau traddodiadol dros flwyddyn gron. Fe wnaethant  ganfod gwahaniaeth yn nifer rhywogaeth yn ôl y tymor, a gweld cydberthynas agos rhwng canlyniadau samplu DNA a chanlyniadau samplu tacsonomig traddodiadol. Mae’r tîm wedi profi nad yw DNA yn goroesi mewn dŵr croyw, ac felly gellir defnyddio dull e-DNA i roi arweiniad dibynadwy i’r anifeiliaid a thrychfilod a geir mewn llyn dŵr croyw.”

Meddai Doug Wilson Pennaeth Ymchwil, Dadansoddi a Gwerthusiad Asiantaeth yr Amgylchedd:

“Mae  hwn yn waith gwych. Rwyf wedi fy nghyffroi wrth ddysgu mwy am sut y gallwn hel data o eDNA i’n cynorthwyo wrth wneud ein hasesiadau ecolegol yn fwy effeithlon. Dyma pan ein bod yn cydweithio’n agos gyda’r gymuned ymchwil o ddatblygu’r moddau hyn.”

Bydd yr Athro Creer ynghyd â thîm o wyddonwyr o Brifysgolion Bangor, Caerdydd a Birmingham, a’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd i’r ‘arwydd’ Edna wrth i’r dŵr deithio i amgylchedd yr afon, gyda chefnogaeth grant £ 1.25M gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).

Cyllidwyd y project gan Asiantaeth yr Amgylchedd a thrwy Raglen Ysgoloriaeth Sgiliau ar gyfer yr Economi Wybodaeth (KESS), menter sgiliau uwch bwys dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru.  Fe'i cyllidir yn rhannol gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewropeaidd (ESF) cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Derbyniodd y tîm budd ariannol pellach gan grant peilot Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, (NERC) a Gwobr Gilson Le Cran 2014 y Freshwater Biological Association.

Diolch i Gyfoeth Naturiol Cymru am y fideo anhygoel o'r pysgod Torgoch prin o Lyn Padarn Hawlfraint Walter Hanks, Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales

Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017