Grant Ewropeaidd sylweddol i Ysgol y Gyfraith

Mae'r Athro Dermot Cahill o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Ceri Evans newydd sicrhau grant ymchwil gwerth 4 miliwn ewro (project WIT) ar y cyd gydag Uned Caffael Strategol Prifysgol Dinas Dulyn. Sicrhawyd y grant yn wyneb cystadleuaeth lem ryngwladol. Ac fe gaiff ei ariannu tan ddiwedd 2013 gan raglen Arloesedd a Chystadlu INTERREG Iwerddon/Cymru yr Undeb Ewropeaidd. Ysgol y Gyfraith Bangor fydd yn arwain y bartneriaeth.

Disgwylir y caiff y project effaith sylweddol ar yr economi traws-ffiniol o ran creu cyfoeth, integreiddiad cyflogaeth a chreu mwy o swyddi o ansawdd, gan ateb gofynion agenda Ewrop 2020. Bydd allbynnau WIT hefyd yn cryfhau naratif ardrawiad Ysgol y Gyfraith Bangor ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU

Bydd prif nodweddion Rhaglen Waith WIT yn cynnwys cynnal ymchwil manwl i effaith y Cyfarwyddyd Gwella Cyfraith Caffael yr Undeb Ewropeaidd 2009, gan dynnu ar arbenigedd timau'r Athro Cahill ym maes Cyfraith Caffael Ewropeaidd.  Mae’r Cyfarwyddyd hwn eisoes yn cael effaith sylweddol, nid yn unig ar y Gwelliannau y gall llysoedd Cyfraith Cyffredin eu cynnig neu beidio â chynnig i dendrwyr siomedig ond hefyd ar ymddygiad ac ymarferion strategol sefydliadau sector gyhoeddus (pwrcaswyr), yn ogystal â'r SME's sy'n eu darparu gyda nwyddau a gwasanaethau  Bydd y Prosiect WIT yn lleoli’i hun yn y rhyngwyneb rhwng ymarferion y gwasanaeth sifil, cof sefydliadol ac ymrwymiad cyfreithiol, ac fe fydd yn cynorthwyo rhoi’r Cyfarwyddyd Gwella’r UE ar waith mewn dwy o Wladwriaethau sy’n n Aelodau o’r UE. Bydd hyn o ddiddordeb arbennig i’r Comisiwn Ewropeaidd

Cafodd y project ei raddio yn rhif 1 yn y broses werthuso ymestynnol. Yn ystod datblygiad y project hefyd, derbyniodd WIT ddatganiadau o gefnogaeth bwysig gan ran-ddeiliaid allweddol yn y ddwy wlad, gan gynnwys (ar yr ochr Gymreig), Ffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI), Gwerth Caffael Cymru( Llywodraeth Cynulliad Cymru), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol  Cymru (WCVA), Ffederasiwn Busnesau Bychain (FSB), Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), Adran Fenter a Thrafnidiaeth (LLCC)  Bydd y rhan-ddeiliaid hyn yn cynorthwyo wrth gefnogi’r rhaglen waith “Ennill wrth Dendro” (WIT) a sicrhau ei gynaladwyedd yn y cyfnod wedi’r ariannu( er enghraifft, mae LLCC wedi cynnig i gynnwys yr allbynnau WIT ar y Wefan Caffael Cyhoeddus Cenedlaethol, a chynnwys elfennau o’r Cynllunydd Llwybr Caffael Sector Cyhoeddus ar wefan Cymorth Hyblyg i Fusnes).

Mae INTERREG wedi dynodi’r project WIT fel un Strategol ei natur, gan adlewyrchu potensial y project i arwain at drawsenwidiadau rhyngwladol. Bydd WIT yn archwilio a dylunio dulliau sydd â’r potensial i weddnewid cynhwysedd a gallu  cymunedol y cyflenwyr brodorol bychain traws-ffiniol (SIS) i ennill tendrau yn y sector cyhoeddus. Mae gan WIT hefyd y potensial i chwyldroi’r diwylliant caffael cyhoeddus ar lefel traws-ffiniol trwy ail-lunio ymarferion caffael cyhoeddus gan ymateb yn well i wendidau’r SIS.

Nodwyd statws Strategol i broject WIT hefyd oherwydd ei botensial i ddylanwadu ar bolisi ac oherwydd y bydd methodolegau WIT yn berthnasol i economïau Ewropeaidd eraill, yn enwedig y Gwladwriaethau Sydd am Ymuno, sy’n debyg o elwa mwyaf o drosglwyddo gwybodaeth am ymchwil ac allbynnau WIT

Nodwedd arall bwysig o’r Project WIT fydd datblygiad methodoleg fframwaith “cip yn  ôl”, fydd, unwaith y caiff ei ddatblygu, yn caniatáu i gyflenwyr bychain weld yn union pam eu bod wedi methu mewn tendrau blaenorol a'u grymuso hwy wrth gystadlu eto yn y broses o dendro cyhoeddus. Wedi’r ariannu, mae'r fethodoleg hon wedi’i chlustnodi ar gyfer ei mabwysiadu yng Nghymru ac Iwerddon gan y cyrff cyhoeddus cenedlaethol ar gyfer sicrhau cynaladwyaeth economaidd

Bydd y project WIT yn datblygu’r Fframwaith Cynhwysedd Caffael Cefnogol i SIS cyntaf erioed, allai ddisodli fframweithiau cynhwysedd caffael  a gaiff eu defnyddio ar hyn o bryd gan bwrcaswyr cyhoeddus gan y bydd wedi’i seilio ar ddull ansoddol a meintiol cwbl newydd. Disgwylir y bydd hyn yn profi’n gatalydd er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am gaffael cyhoeddus yn fabwysiadau dull sy’n sicrhau mwy o chwarae teg i gyflenwyr bychain.

Mae hyn oll yn tynnu ar ymchwil a waned gan dîm yr Athro Cahill yn 2008 a 209 ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru yn yr adroddiad uchel ei barch "Rhwystrau wrth Gaffael".  Mae’r adroddiad hwn yn cael effaith sylweddol ar ymarferiadau pwrcasu cyhoeddus ac mae llawer o'i argymhellion wedi'u derbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd bellach yn peilota eu hargymhellon gyda golwg ar asesu eu hardrawiad ar newid prosesau tendro cyhoeddus yng Nghymru.

Nodwedd arloesol arall o’r Project WIT sy’n denu llawer o sylw yw’r cynlluniau ar gyfer datblygu Erfyn Diagnosteg” Gwirio-Parodrwydd” ar-lein fydd yn galluogi SIS i hunanwerthuso eu parodrwydd neu amharodrwydd tendro, gan osgoi sefyllfa ble bo SIS yn ceisio am gontractau lle nad oes ganddynt y sgiliau i’w hennill a darparu map-ffordd iddynt i symud yn eu blaen ymhellach.

Bydd ymchwil WIT hefyd yn arwain at weld mwy o ymarferion caffael gwerth isel mwy tryloyw ac effeithiol yn digwydd, a hynny yn ei dro yn arwain at fwy o gyfleoedd gontract o'r maint perffaith ar gyfer y cyflenwyr bychain sydd mor amlwg yn yr ardal draws-ffiniol. Mae hyn yn nodwedd bwysig o'r project, o gofio am nod Llywodraeth y DU o gynnig 25% o fasnach y sector gyhoeddus i SME's.

Wrth groesawu dyfarnu’r arian sylweddol hwn, a fydd yn para am gyfnod o 4 blynedd, dywedodd yr Athro Cahill:

“Mae hwn yn gyflawniad gwych i Ysgol y Gyfraith Bangor, gan fod gennym yn yr Ysgol bellach gasgliad o arbenigwyr cyfreithiol ac arbenigwyr ar y broses fusnes a chaffael, sy'n creu tîm ymchwil 10 aelod hynod gryf, sydd yn gredadwy yng ngolwg ffynonellau ariannol mawr megis rhaglen INTERREG yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein Coleg Busnes, Gwyddor Cymdeithas a'r Gyfraith yn cynnig arbenigedd pellach i gefnogi anghenion gweithrediadol y tîm

Mae’r dyfarniad pwysig hwn yn dilyn dyfarniadau grant eraill sydd wedi dod i ran nifer o aelodau Ysgol y Gyfraith, ac mae’n adlewyrchu’r ffaith bod academyddion Ysgol y Gyfraith yn addasu’n rhwydd i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y DU sydd yn dynodi cyflawniad a rhagoriaeth ymchwil wedi’i ariannu’n genedlaethol. Dyma faes lle'n gynyddol , cydnabyddir bod ein hymchwil yn  cael effaith cadarnhaol ar ffurfioli polisi cyhoeddus, yn enwedig y rhyngwyneb Dinesydd- Busnes/Llywodraeth

Edrychwn ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Dinas Dulyn, sydd, o dan arweiniad Paul Davis, yn arwain y blaen o ran Addysg ac Ymchwil Caffael Strategol yn Iwerddon, ac edrychwn ymlaen hefyd at wireddu trosglwyddiadau gwybodaeth gwerthfawr, o’r ddau gyfeiriad ar draws Môr Iwerddon, nid yn unig er lles pwrcaswyr sector cyhoeddus yn y rhanbarth, ond hefyd y sector gyflenwi frodorol bychan. Rhaid cofio bod busnesau bychain yn bwysig iawn i Gymru ac Iwerddon, a bydd dim modd i'r busnesau hyn dyfu yn gwmnïau canolig sydd yn ddigon mawr i allu cystadlu a'u cyfoedion rhyngwladol, oni bai bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r cyfleoedd iawn er mwyn tyfu eu busnesau.  Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o allu gwneud hyn yw gallu cystadlu'n well ar gyfer contractau sector cyhoeddus mewn nwyddau a gwasanaethau. Bydd Prosiect WIT yn ffitio’n dwt i’r gofod hwnnw ac fe fydd yn gyfraniad Strategol ar lefel Prifysgol er mwyn datblygu arloesed a bod yn gystadleuol ar draws yr holl ranbarth INTERREG Iwerddon-Cymru.

Yr hyn a wnaeth argraff benodol ar werthuswyr INTERREG oedd bydd modd trosglwyddo llawer o’i allbynnau arloesol i Wladwriaethau eraill sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, a rhagwelwn y bydd y rhan fwyaf o ddiddordeb o du’r Gwladwriaethau sydd am ymuno. Felly, mi rydan ni’n hynod o falch bod y broses ddewis wedi ein gwerthuso mor uchel ar draws ystod o ddynodion asesu, gan amrywio o ardrawiad economaidd a pholisi, cynaladwyaeth, hyrwyddo cyfle cyfartal, diwygio cyfreithiol ayb.” 

Yn ôl Yr Athro Ted Gardener o Goleg Busnes, Gwyddorau Cymdeithas a’r Gyfraith:

“Enillwyd y prosiect WIT yn wyneb cystadleuaeth lem ac fe fydd yn cynnal ymchwil manwl i ardrawiad Cyfarwyddyd Gwella Cyfraith Caffael yr EU 2009 gan gael effaith sylweddol ar yr economi traws-ffiniol o ran cynhyrchu cyfoeth, integreiddio cyflogaeth, a chreu mwy o swyddi o ansawdd. 

Mae hwn yn brofiad ymchwil pwysig iawn i Brifysgol Bangor a Chymru. Mae WEIT yn broject sydd yn debyg o gael dylanwad uniongyrchol ar dwf economaidd a gwerth ychwanegol. Wrth inni barhau i weithio tuag at adfywiad economaidd yn dilyn yr argyfwng diweddar, doed dim modd gor-bwysleisio pwysigrwydd y project hwn. Mae’n fuddsoddiad pwysig mewn ymchwil sy’n cyfrif.”

Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2010