Gwobr arbennig iawn i'r Dr Sophie Williams

O'r chwith: Daniel Loveard, Alice Hadley, Sam Herniman, Jenny Towill, Pippa Jones. Yn y blaen, Dr Sophie Williams a'i ffrind Roz.O'r chwith: Daniel Loveard, Alice Hadley, Sam Herniman, Jenny Towill, Pippa Jones. Yn y blaen, Dr Sophie Williams a'i ffrind Roz.Derbyniodd darlithydd o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wobr arbennig oddi wrth fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

Wrth gyrraedd yr ystafell ddydd Gwener 29 Ebrill cafodd Dr Sophie Williams gymeradwyaeth fyddarol gan fyfyrwyr, cydweithwyr, teulu a ffrindiau. Ar ei hymweliad cyntaf o’r ysbyty ers deg mis roedd yn y Brifysgol i dderbyn gwobr am ei chyfraniad anhygoel i addysgeg.

Mae'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn anrhydedd arbennig i ysgolheigion gan mai’r myfyrwyr eu hunain sy’n enwebu, yn dewis ac yn cyflwyno'r gwobrau. Cafodd Sophie ei henwebu gan fyfyrwyr israddedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth am wobr "Cydnabyddiaeth Arbennig Llais Myfyrwyr".

Cafodd y digwyddiad ei agor gan yr Is-Ganghellor, yr Athro John Hughes. Bu'n sôn am yr argraff a wnaeth Sophie arno y tro cyntaf iddo gwrdd â hi mewn seremoni i nodi dechrau prosiect Gardd y Ddwy Ddraig er mwyn gefeillio Gardd Fotaneg Prifysgol Bangor yn Nhreborth gyda Gardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna yn Tsieina. Cafwyd mwy byth o'i hanes yn ystod y prynhawn, gan bwysleisio cryfder sgiliau cyfathrebu Sophie - un o sawl agwedd sydd yn ei gwneud yn addysgwr eithriadol.

Cafwyd cyflwyniad gan yr Athro Morag McDonald, Pennaeth Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn nodi cyfraniad Sophie i Fangor a thu hwnt. Roedd ei chyflwyniad yn cynnwys dyfyniadau gan bobl sydd wedi gweithio gyda Sophie mewn cyrsiau hyfforddi niferus y mae wedi eu cynnal ym meysydd dulliau ymchwil cymdeithasol, addysg cadwraeth a chadwraeth planhigion o Brifysgol Caergrawnt i Bangladesh ac o Mauritius i Tsiena.

Meddai'r Athro McDonald: "Mae Sophie yn ddarlithydd sydd wir yn ysbrydoli, ac mae'n wych ei bod yn gadael yr ysbyty am y tro cyntaf i dderbyn y wobr hon gan fyfyrwyr sydd wedi cael cymaint o fudd o’r ffiath ei bod hi'n ddarlithwraig mor angerddol a dynamig."

Yn dilyn hynny cafwyd cyflwyniad gan ddau o'i chyn fyfyrwyr ar y cwrs MSc Cadwraeth Planhigion, cwrs a sefydlodd Sophie yn 2014. Dywedodd graddedigion diweddar sut y bu i Sophie eu gwthio i herio eu hunain ac i roi cynnig ar y pethau yr oeddynt yn eu cael yn anodd ac i hynny gael effaith fawr ar eu bywydau. Anfonodd un cyn fyfyrwraig, sydd bellach yn guradur Gardd Fotaneg Treborth, fideo yn ei llongyfarch o Ardd Fotaneg Drofannol Xishuangbanna yn Tsieina lle mae ar hyn o bryd yn cyfarfod â chydweithwyr ac yn parhau â'r cyswllt a sefydlwyd gan Sophie.

Y cyflwyniad pwysicaf yn ystod y digwyddiad wrth gwrs oedd sgwrs gan dri o fyfyrwyr presennol Sophie.

Dywedodd Sam Herniman, myfyriwr Cadwraeth Amgylcheddol: "Mae Sophie'n llawer mwy na dim ond darlithwraig, mae hi wedi bod yn gatalydd i bopeth yr ydyn ni wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf ym Mangor."

Dywedodd Alice Hadley, sydd hefyd yn astudio Cadwraeth Amgylcheddol: "Mae Sophie wastad wedi ein gwthio i fyfyrio mwy ac i fod y gorau y medrwn fod."

Er gwaethaf bod yn wael yn yr ysbyty, mae Sophie wedi cyfarfod â'r tri myfyriwr i drafod eu hymchwil ar gyfer eu traethodau hir.

I gloi'r digwyddiad, cafwyd ychydig eiriau gan Mike Williams, tad Sophie, a siaradodd ynglŷn â pha mor falch y mae o lwyddiannau Sophie. Dywedodd Mike: "Mae cael gweld a chlywed faint mae Sophie yn cael ei hedmygu a'i pharchu gan ei ffrindiau a’i chydweithwyr yn galonogol iawn ac yn cadarnhau i ni i gyd, nid yn unig pa mor arbennig yw hi, ond faint mae pawb yn ei hannog i wella."

Yn y seremoni wobrwyo hefyd roedd rhai o'r tîm meddygol sy'n gweithio ar adferiad Sophie.

Dywedodd Karen Mottart, sy'n ymgynghorydd yn yr Unedau Gofal Dwys a Dibyniaeth Uchel yn Ysbyty Gwynedd: "Mae mynychu'r digwyddiad yma wedi bod yn nod pwysig i Sophie weithio tuag ato. Mae’n wych ei gweld yn cysylltu â'i bywyd y tu allan i'r ysbyty. Rŵan mae angen i ni drefnu ein taith nesaf o'r ysbyty - taith i Ardd Fotaneg Treborth neu daith i gopa'r Wyddfa ar y trên!"

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2016