Is-Ganghellor Prifysgol Bangor yn agor rhan newydd o Lwybr Arfordirol Cymru

Disgyblion ysgol lleol yn cynorthwyo'r Athro John Hughes i agor y llwybr newydd yn swyddogolDisgyblion ysgol lleol yn cynorthwyo'r Athro John Hughes i agor y llwybr newydd yn swyddogolBu'r Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes, yn agor rhan ddiweddaraf Llwybr Arfordir Cymru ddydd Mawrth, 4 Hydref, yng Ngardd Fotaneg Treborth y Brifysgol.

Meddai’r Is Ganghellor, “Rwyf wrth fy modd i gael agor y llwybr newydd, sydd ar agor i bawb. Mae’n rhedeg mewn safle uwchben ochr y Fenai drwy goetir cymysg hardd, sy’n gartref i lu o fywyd gwyllt.”

Mae’r llwybr yn dilyn llwybr trol hanesyddol a oedd yn cludo ymwelwyr yn wreiddiol o’r Bont Grog i bwynt fferi hanner ffordd rhwng y ddwy bont enwog. O’r fan yr oedd dyn cychod yn rhwyfo teithwyr i Ynys y Gored Goch i fwynhau te silod mân. Nid oes gan ymwelwyr heddiw'r dewis o gael taith ar fferi ond mae’r llwybr newydd yn parhau y tu hwnt i’r hen bwynt fferi mor bell â Phont Britannia ac oddi arno, ceir golygfeydd godidog o Bwll Ceris, y darn aflonydd o ddŵr sydd wedi’i hollti gan gerrynt o amgylch Ynys y Gored Goch.

Mae Llwybr yr Arfordir ar agor i bawb, ac mae wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru, gyda chymorth  Cyllid Ewropeaidd, a’i weinyddu drwy Dîm Mynediad Arfordirol Cyngor Sir Gwynedd; caiff y gwaith o glirio rhododendron a llawrgeirios ymledol yn y coetir yn Nhreborth ei ariannu’n rhannol gan gynllun Gwell Coetiroedd i Gymru Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, ac mae wedi arwain at well golygfeydd o’r Fenai yn ogystal â gwella edrychiad Coetir Treborth a’r bywyd gwyllt yno. Mae’r llwybr newydd yn cynnwys rhan sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Rhoddir gwybodaeth am hanes a bywyd gwyllt y coetir ar hyd y ffordd. Gofynnir i ddefnyddwyr barchu tawelwch a llonyddwch y safle, sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’r diddordeb bywyd gwyllt yn sylweddol a gwelwyd y Wiwer Goch yno’n ddiweddar hefyd – ac o ganlyniad, dylid cadw pob ci ar dennyn drwy’r Ardd Fotaneg a’r Coetir. Er mwyn diogelwch a mwynhad cerddwyr, ni chaniateir seiclo.

Mae rhagor o welliannau i’r llwybr ar y gweill drwy’r coetiroedd yn Nhreborth diolch i egni a brwdfrydedd myfyrwyr Prifysgol Bangor a Chyfeillion Gardd Fotaneg Treborth.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2011