Mae angen gweithredu ar frys er mwyn atal newidiadau genetig di-droi’n-ôl mewn stociau pysgod

Os ydym yn dymuno cynnal stociau pysgod fel ffynhonnell bwyd i’r byd i gyd, yna rhaid i bysgodfeydd a rheolwyr cadwraeth gymryd i ystyriaeth dystiolaeth newydd sy’n dangos sut mae gorbysgota'r pysgod mwy mewn poblogaeth yn newid y pwll genynnau o blaid pysgod llai, llai ffrwythlon.

Mae’r gymuned bysgota yn ymwybodol ers dros ganrif bod maint pysgod unigol wedi bod yn lleihau, ac wrth i’r ganrif fynd rhagddi, mae gwyddonwyr wedi nodi bod y pysgod hyn yn tyfu’n arafach a bod benywod llai yn cynhyrchu llai o rai bach na’u rhagflaenwyr.  Mae'r gymuned wyddonol yn anghytuno ar y rheswm am hyn.  Mae un ddamcaniaeth, a gynigiwyd yn gyntaf ar ddechrau’r ganrif hon, yn dweud mai pysgota sydd yn symbylu esblygiad,  hynny yw, mai 'r ffaith ein bod yn tynnu'r pysgod mwyaf o'r poblogaethau sy'n ysgogi newid esblygol.  Yr ysgol arall o feddwl yw bod y newidiadau'n digwydd mewn ymateb i ffactorau amgylcheddol, megis newidiadau yn y cyflenwad bwyd.

Mae papur yn Frontiers in Ecology and the Environment (ar gael ar-lein 18.3.13) dan arweiniad genetegyddion ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniadau gan Brifysgol East Anglia, Prifysgol y West Indies a Sefydliad Bioleg Ddatblygol Max-Planck, wedi profi am y tro cyntaf bod y newid hwn yn y DNA tuag at bysgod llai yn digwydd, ac o fewn cyfnod amser cymharol fyr sef ychydig genedlaethau.

Mae’r astudiaeth, a gynhaliwyd mewn labordy gan ddefnyddio pysgodyn trofannol model, sef gypi Trinidad, yn efelychu amodau pysgota yn y gwyllt, ac er bod astudiaethau blaenorol wedi gweld yr un canlyniadau, sef lleihad ym maint pysgod dros genedlaethau, roedd yr astudiaeth hon hefyd yn cynnwys adolygiad trylwyr o DNA poblogaethau pysgod, ac yn enwedig, genynnau a gysylltir â rheoleiddio twf, trwy’r cenedlaethau.  Mae’r newid  yn y DNA sy’n gysylltiedig â thwf (er nad oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol eraill yn y DNA - sy'n cau allan mewnfridio neu newidiadau ar hap) yn profi bod newid ym maint y corff a'i aeddfedrwydd yn ymateb esblygol i orbysgota.  Mae’n debyg bod yr hyn a welwyd o dan amodau labordy eisoes wedi digwydd mewn nifer helaeth  o ardaloedd pysgota masnachol.

Mae modelu ystadegol wedi awgrymu eisoes y gallai gymryd rhwng pump a deg gwaith hirach i'r stociau pysgod ymadfer ar ôl newid yn eu DNA nag i ymadfer ar ôl y gorbysgota - os bydd yn bosib i’r boblogaeth ymadfer o gwbl ac adennill yr holl amrywiaeth o DNA.  Mae hyn yn golygu fwy na thebyg bod yr amcangyfrifon presennol o ba mor gyflym y bydd pysgodfeydd masnachol yn ymadfer ar ôl dirywiad a gorbysgota yn llawer rhy obeithiol.  O ran pysgod fel ffynhonnell bwyd, nid yn unig y mae newidiadau genetig o’r fath yn creu'r angen i gynaeafu mwy o bysgod llai unigol i gael yr un nifer o dunelli, ond mae’n cael effaith hefyd ar y gymuned forol ehangach a'r amgylchedd.

Eglurodd yr Athro Gary Carvalho, o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor:   “Mae ein canfyddiadau yn taflu goleuni newydd a phwysig ar gynaliadwyedd poblogaethau sy'n cael eu cynaeafu.   Mae’r newid yng nghyfansoddiad genetig pysgod a gynaeafir tuag at unigolion llai a llai ffrwythlon yn creu canlyniadau difrifol i’r amgylchedd a’r diwydiant pysgota ledled y byd.

"Rydym yn annog y gymuned wyddonol, gwneuthurwyr polisi a rheolwyr i ystyried gallu stociau i ymaddasu i gynaeafu ac ysglyfaethwyr ac ymadfer o hynny..

“Rydw i’n argymell dyfeisio strategaethau i ymateb i liniaru effeithiau pysgota dwys trwy newid maint y pysgod a ddelir o bryd i’w gilydd, trwy amddiffyn stociau sy’n cael eu gorbysgota a thrwy newid dwysedd pysgota yn y gwahanol ranbarthau.   Rhaid wrth strategaeth gyfunol i leihau effaith gyffredinol pysgota ac i annog ailsefydlu stociau’n naturiol.”

“Er mwyn rheoli’n llwyddiannus yr adnoddau a gynaeafir, mae’n hollbwysig ein bod yn defnyddio dulliau genomeg poblogaethau i ganfod a lliniaru effeithiau genetig andwyol dethol y pysgod i’w cynaeafu.  Gyda’i gilydd, mae ein canfyddiadau’n amlygu pwysigrwydd datblygu mapiau genetig dwysedd uchel a dulliau genomig o asesu effaith esblygol cynaeafu dethol yn y gwyllt” meddai.

Gwnaethpwyd llawer o’r gwaith gan Serinde van Wijk sydd yn astudio ar gyfer doethuriaeth wedi ei chyllido gan Brifysgol Bangor.  Eglurodd:

 “Mae’n bosib bod  ein hymdrechion i ddiogelu cymunedau pysgod trwy reoleiddio maint y pysgod y gellir pysgota amdanynt, a thrwy gymryd y pysgod mwy yn benodol yn cael effaith wahanol i’r hyn a fwriadwyd.  Yn ogystal â cholli'r gallu i gynhyrchu pysgod mawr a ffrwythlon, gall poblogaethau pysgod unigol fod mewn peryg hefyd o golli addasiadau penodol eraill trwy bysgota dethol, megis addasiadau i nodweddion lleoliadau penodol, megis dŵr oerach neu lwybrau ymfudo.  Gall colli’r ‘mathau' genetig hyn olygu na fydd poblogaethau byth yn gallu ymadfer yn llwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2013