Mesur effaith rhewlifau’n toddi ar gerrynt y môr

Mae tîm o wyddonwyr o Brifysgolion Bangor a Sheffield wedi defnyddio model hinsawdd cyfrifiadurol i astudio sut yr effeithiodd dŵr croyw, a ryddhawyd i’r cefnforoedd ar ddiwedd oes yr iâ 140,000 o flynyddoedd yn ôl, ar y rhannau o gerrynt y cefnforoedd sy’n rheoli hinsawdd. Dyma’r astudiaeth gyntaf o’i bath ar gyfer y cyfnod amser yma.

Mae papur wedi’i seilio ar yr ymchwil,  sydd wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan Dr Mattias Green, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol,  yn  cael sylw fel ‘Pigion y Golygydd’ mewn cylchgrawn Americanaidd blaenllaw yn y maes, sef Paleoceanography.

Fel yr esbonia Mattias Green: “Gall y dŵr croyw sy’n ymdoddi i’r cefnforoedd wrth i’r llen iâ doddi wanhau’r rhan honno o’r ceryntau mawrion sy’n rheoli’r hinsawdd wrth iddynt gylchdroi yn y cefnforoedd. Mae hynny’n cael effaith ddramatig ar newid hinsawdd o ganlyniad. Yn ystod cyfnod ein hastudiaeth, disgynnodd tymheredd byd- eang hyd at ddwy radd dros ychydig ganrifoedd. Ond nid oedd  y newidiadau yr un fath ymhobman, a chymerodd amser hir i’r hinsawdd ddod ato’i hun wedi i’r llenni iâ doddi’n gyfan gwbl.”

Mae’r tîm yn dadlau nad maint y dŵr a oedd yn cael ei ryddhau o’r rhewlif yn unig oedd o bwys, ond ei gyflwr. Mae mynyddoedd iâ yn cael llai o effaith ar  gylchdro cerrynt na dŵr croyw, ond mae eu heffaith yn parhau am gyfnodau hirach o amser.

“Gellir cymharu hyn efo’r gwahaniaeth rhwng ychwanegu dŵr oer at eich diod neu ychwanegu lwmp o rew,” esbonia Mattias.

“Efo dŵr tawdd, sy’n debyg i ychwanegu dŵr at eich diod, mae’r dŵr yn ymledu’n sydyn a chael effaith yn syth, ond hefyd mae’n  cael ei amsugno’n sydyn i weddill y cefnfor. Mewn ffordd debyg i roi ciwb rhew yn eich diod, mae’r rhew fynydd yn drifftio’n arafach ac yn cymryd amser i doddi. Golyga hyn fod yr effaith uniongyrchol yn wannach, ond maent yn bodoli am amser hirach ac yn dosbarthu’r dŵr dros arwynebedd ehangach.”

Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, 20,000 o flynyddoedd un ôl, bod cwymp llenni iâ yn cael mwy o effaith ar gylchdro’r cefnforoedd nag yn ystod y cyfnod cynharach.

Mae ein canlyniadau’n ein harwain i’r casgliad y byddai canlyniadau i’r hinsawdd pe bai cwympiadau llen iâ yn digwydd yn yr Antarctig neu’r Ynys Las yn y dyfodol, ond mae’n rhaid pwyso a mesur yr effaith bosib ym mhob sefyllfa,” ychwanegodd Mattias.

 Mae ‘Pigion y Golygydd’ a’r papur ar gael yma: http://www.agu.org/cgi-bin/highlights/highlights.cgi?action=show&doi=10.1029/2010PA002088&jc=pa

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2011