Rhestr Fer Gwyl Cyfryngau Celtaidd

Cafodd ffilm ddogfen gan ddarlithydd o Brifysgol Bangor ei dewis ar restr fer yr Wyl Gyfryngau Geltaidd. Darlledwyd 'Dic Jones, yn ei eiriau ei hun' ar S4C yn dilyn marwolaeth y prifardd ac Archdderwydd, Dic Jones. Cafodd ei chyfarwyddo gan Dr Llion Iwan o Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau.
"Hon oedd y ffilm ddogfen gyntaf imi ei chyfarwyddo yn dilyn cwblhau fy ymchwil i'r maes, ac yn sgil yr astudiaeth hwn mae wedi newid y modd yr wyf yn gweithio. Byddai hon wedi bod yn ffilm wahanol iawn, nid hanner cystal, pe bawn wedi ei gwneud dair mlynedd yn ol. Er tristwch o golli rhywun fel Dic, roedd yn anrhydedd gweithio ar y rhaglen, a chofio iddo ddysgu cynghaneddu gyda fy hen ewythr. Roedd y cysylltiad teuluol ac yr angen i goffhau Dic yn ei gwneud yn ffilm bwysig iawn imi."
Cynhelir yr wyl flynyddol yn yr Alban eleni, a hynny mis nesaf.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2011