Rhoi dyddiad geni i Môn Man Cymru a phryd y ffurfiwyd y Fenai

Mae ymchwil wedi dangos pryd y daeth Ynys Môn yn ynys barhaol drwy i’r Fenai gael ei ffurfio.

Fe wnaeth Mike Roberts, myfyriwr hŷn o Amlwch, gynnal ymchwil fel rhan o’i PhD yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, wedi’i gefnogi gan Ymddiriedolaeth Cemlyn Jones a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mike Roberts ger Pwll Ceris efo Ynys Gored Goch yn y cefndirMike Roberts ger Pwll Ceris efo Ynys Gored Goch yn y cefndirMae ei ymchwil, sydd newydd gael ei chyhoeddi mewn cyfnodolyn academaidd, yn datgelu y bu i’r Fenai ddod yn nodwedd barhaol rhwng 5,800 a 4,600 o flynyddoedd yn ôl, o gwmpas yr adeg y cymerodd y ffermwyr cyntaf le’r helwyr-gasglwyr yng ngogledd Cymru. 

“Tua 14,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd ardal gyfan y Fenai yn dir sych a gallai pobl ac anifeiliaid groesi o’r naill ochr i’r llall yn rhwydd,” eglura Mike.

“Dros yr ychydig filoedd o flynyddoedd nesaf, cynhesodd yr hinsawdd a chododd lefelau’r môr o ganlyniad i ia’n toddi. Yn ei dro, Rhoddodd hyn ei siâp cyfarwydd i arfordir Cymru a llifodd dŵr i mewn i’r Fenai o’r naill ben. Yna, un diwrnod rhwng 8,800 a 8,400 o flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth llanw uchel y gwanwyn wahanu Ynys Môn oddi wrth y tir mawr am y tro cyntaf.”

“Parhaodd lefelau’r môr i godi ac am tua 4,000 o flynyddoedd, dim ond sarn llanw, yng nghyffiniau Ynys Gored Goch ym Mhwll Ceris, a oedd yn cysylltu Ynys Môn gyda’r tir mawr mewn llanw isel. Yna, rhywbryd rhwng 5,800 a 4,600 o flynyddoedd yn ôl, fe ddaeth yna adeg pan fu i hyd yn oed yr isaf o lanw isel y gwanwyn fethu â datgelu unrhyw dir sych, a ffurfiwyd y culfor fel yr ydym ni’n ei adnabod heddiw,” meddai.

Mike ROberts yn dangos un o'r samplau sy'n dangos  haen o fawn tywyll o dan wely'r môrMike Roberts yn dangos un o'r samplau sy'n dangos haen o fawn tywyll o dan wely'r môrMae’r hanes yma o sut newidiodd lefel y môr yng ngogledd Cymru hefyd wedi dangos gwybodaeth am faint yr haenau ia hynafol a oedd yn arfer gorchuddio Eryri , pryd a pha mor gyflym y bu iddynt ddiflannu ac wedi rhoi gwybodaeth bwysig am rinweddau’r ddaear dawdd o dan Brydain.

Dywedodd Yr Athro James Scourse, un o oruchwylwyr Ph.D. Mike, “mae astudiaeth Mike nid yn unig yn datgelu hanes daearegol diweddar yr ardal yr ydym yn gweithio ynddi, y mae hefyd yn dangos bod rhan gogledd ddwyreiniol y Fenai yn un o’r ardaloedd pwysicaf yn Ewrop gyfan ar gyfer ail-greu lefel môr. Ni chafwyd data o’i debyg yn yr un safle arall.”

Mae gyrfa Mike yn dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr mynd i’r brifysgol, ac y mae hefyd yn enghraifft o effeithiolrwydd Prifysgol Bangor wrth hyfforddi myfyrwyr hŷn. Ar ôl gadael yr ysgol gydag ychydig o gymwysterau sylfaenol, treuliodd Mike y 15 mlynedd nesaf yn chwilio am waith lle bynnag yr oedd ar gael, gan weithio fel labrwr cyffredinol, gyrrwr, plastrwr a physgotwr masnachol yn lleol ac yn Lloegr a’r Almaen.  Yn ei dridegau buan, penderfynodd ddechrau cwrs gradd ym Mhrifysgol Bangor drwy gwrs Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg Menai a gwobrwywyd ei alluoedd eithriadol gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Gwyddorau Eigion ac ysgoloriaeth Ph.D. o Ymddiriedolaeth Cemlyn Jones. Mae’n gweithio yn awr fel yY rig a gasglodd y samplau o dan wely'r fenaiY rig a gasglodd y samplau o dan wely'r Fenaimgynghorydd daearegol ar broject SEACAMS yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2011