Tîm Bangor yn gwneud adolygiad o barciau morol yn y Caribî

Mae rhaid amddiffyn y riffau cwrel er mwyn iddynt aros yn hydwythMae rhaid amddiffyn y riffau cwrel er mwyn iddynt aros yn hydwythMae tîm o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn brysur yn Ynysoedd y Cayman ym Môr y Caribî, yn ymgynghori â’r cyhoedd ynglŷn â’r gwaith o warchod y môr er mwyn helpu i gynllunio parciau morol y dyfodol.

Mae’r gwaith yn rhan o un o brojectau Menter Darwin DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y Deyrnas Unedig), sy’n ariannu’r project, a’i nod yw gwella rhan o’r môr sydd eisoes dan warchodaeth. Ymunodd Dr John Turner (Arweinydd y Project), Laura Richardson (Swyddog y Project) a Croy McCoy (myfyriwr PhD) o’r Ysgol Gwyddorau Eigion, â rhai o gyfarwyddwyr Adran yr Amgylchedd mewn cyfres ddwys o 18 o gyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau i’r cyfryngau ar hyd a lled yr ynysoedd. Rhoddodd y tîm gyflwyniadau i weinidogion Llywodraeth Ynysoedd y Cayman, y corff hybu twristiaeth, cymdeithas sy’n hybu chwaraeon dŵr, busnesau llogi llongau cydweithredol, ymddiriedolaeth genedlaethol, clybiau pysgota môr a hyd yn oed gweinidogion eglwysi. Aeth y tîm hefyd â sioe deithiol o amgylch canolfannau cymunedol. Y nod oedd casglu barn trigolion yr ardal ynglŷn â’r môr a’r agweddau arno roedden nhw’n eu gweld fel y rhai pwysicaf. Cymerodd y tîm ran hefyd mewn dwy raglen ‘ffonio i mewn’ fywiog ar y radio, ac fe gynhyrchodd bum ffilm ddogfen fer a dau fideo i’r teledu. Cafodd y tîm gryn sylw hefyd ym mhrif straeon papurau newydd yr ynysoedd!

Mae Menter Darwin yn ariannu gwaith ymchwil sydd o werth ymarferol uniongyrchol i wledydd lle mae bioamrywiaeth ar ei gorau. Ei nod yw helpu’r gwledydd i gyflawni eu rhwymedigaethau dan y prif gonfensiynau ar amrywiaeth fiolegol, rhywogaethau mudol a masnachu mewn rhywogaethau sydd mewn perygl. Mae staff Prifysgol Bangor yn gweithio gyda’u partneriaid yn Adran yr Amgylchedd Llywodraeth Ynysoedd y Cayman a’r corff gwarchod natur yno i wneud adolygiad o’r parciau morol ac o gadwraeth y môr.

Mae parciau morol presennol Ynysoedd y Cayman (un o diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig) wedi gwasanaethu’r wlad yma’n arbennig o dda am 25 o flynyddoedd. Ond mae’r bygythiadau i amgylchedd y môr yn wahanol iawn erbyn hyn i’r rhai yn 1986, pan gafodd y parciau eu creu.

Yn ôl Gina E Banks Petrie, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ar ran Llywodraeth Ynysoedd y Cayman, ‘Y bygythiadau newydd yw poblogaeth sy’n cynyddu, gorbysgota, newid yn yr hinsawdd a rhywogaeth oresgynnol o ddreigiau môr o Gefnfor yr India a’r Môr Tawel.’ 

Grwper Grwper Esboniodd Dr John Turner o Fangor sut yr oedd Adran yr Amgylchedd yr Ynysoedd wedi bod yn ddigon craff i fynd ati gyda chefnogaeth y cyhoedd i greu system o’r radd flaenaf o barciau morol:

‘Prin fod y mwyafrif o’r ardaloedd morol dan warchodaeth ar hyd a lled y byd yn fwy na “pharciau papur”, gan fod diffyg gwaith rheoli a gorfodi. Mae parciau morol Ynysoedd y Cayman yn eithriadol gan eu bod wedi’u rhannu’n barthau dan wahanol lefelau o warchodaeth. Mae swyddogion cadwraeth yn gorfodi’r rheoliadau ynglŷn ag angori llongau, pysgota a rhyngweithio â bywyd y môr fel y morgathod duon enwog sy’n croesawu twristiaid i Sting Ray City. Ond mae’r bygythiadau newydd – fel dŵr y cefnfor yn cynhesu gan achosi clefydon a thynnu’r lliw o’r cwrelau, stormydd garwach sy’n digwydd yn amlach, lefel y dŵr yn y môr yn codi a mwy o asidau yn y cefnfor – yn golygu bod angen i ni wneud adolygiad ar frys o’r ardaloedd dan warchodaeth fel eu bod yn gallu ateb gofynion y 25 mlynedd nesaf.’

Pwysleisiodd aelodau’r tîm yn eu cyflwyniadau ei bod hi’n hanfodol cynyddu lefel y warchodaeth er mwyn i’r riffiau cwrel allu gwrthsefyll effeithiau’r bygythiadau sy’n dod yn sgil newid yn yr hinsawdd. Yn eu tro, byddai’r riffiau cadarnach yma’n amddiffyn yr arfordiroedd ac yn dod â manteision economaidd ar ffurf twristiaeth a physgota.

Mae Project Menter Darwin wedi cyrraedd hanner ffordd drwy raglen tair blynedd o hyd. Bu’r tîm wrthi’n gwneud arolygon maes i asesu iechyd y riffiau cwrel o amgylch y tair ynys ac i ystyried pa mor helaeth oedd y poblogaethau o bysgod a’r pwysau sy’n dod yn sgil gweithgareddau pysgota. Arweinydd yr holl arolygon maes oedd Croy McCoy, ymgeisydd o Ynysoedd y Cayman am PhD ym Mhrifysgol Bangor sydd hefyd yn Uwch-wyddonydd Ymchwil yn Adran yr Amgylchedd Llywodraeth yr Ynysoedd. Cafodd gymorth Laura Richardson a raddiodd o Fangor ac sydd hefyd yn gweithredu fel Swyddog y Project, a thri thîm o fyfyrwyr ar y cwrs MSc mewn Gwarchod yr Amgylchedd Morol, sy’n gwneud eu projectau ymchwil ar riffiau cwrel Ynysoedd y Cayman.

‘Drwy ddod â gwyddonwyr maes i’r Ynysoedd, rydyn ni’n ychwanegu at y gallu i wneud yr arolygon dwys yma. Mae hynny’n helpu’r wlad i roi sylw i broblemau pwysig ym maes cadwraeth ac mae hefyd yn gyfle gwych i’n myfyrwyr ôl-radd ni,’ meddai John Turner.

Cyflwynodd Tim Austin, Cyfarwyddwr Ymchwil yn Adran yr Amgylchedd Llywodraeth Ynysoedd y Cayman, ganlyniadau’r arolygon yn ystod yr 18 o gyfarfodydd cyhoeddus yng nghwmni’r tîm. Dywedodd: ‘Mae tystiolaeth gennym erbyn hyn sy’n dangos sut mae’r Ynysoedd yn elwa ar yr ardaloedd morol dan warchodaeth. Yn y mannau dan warchodaeth mae’r cwrelau’n gorchuddio mwy o’r riffiau, ac yno hefyd mae llai o glefydon a channu nag sydd yn y mannau sydd heb eu gwarchod. Mae mwy o bysgod yn y mannau dan warchodaeth, ac mae rhai o’r rheini’n nofio oddi yno i’r dŵr o’u hamgylch.’  

Mae'r pysgodyn llew yn rywogaeth ymledol rheibus o'r Indo-Passiffig sydd yn dinistrio cymunedau pysgod yn y Caribî Mae'r pysgodyn llew yn rywogaeth ymledol rheibus o'r Indo-Passiffig sydd yn dinistrio cymunedau pysgod yn y Caribî Dangosodd John Turner mai dim ond 17% o sgafell gul Ynysoedd y Cayman sydd dan warchodaeth lawn, a nod y project yw gwarchod 30-50% o’u cynefinoedd fel mangrofau a morwellt, a’r cynefinoedd yn rhan gefn y riffiau ac ar eu teras. Bydd y project yn defnyddio technegau cynllunio ardaloedd dan warchodaeth sy’n debyg i’r rhai a ddefnyddiwyd i amddiffyn Parc Morol y Barriff Mawr yn Awstralia. Byddan nhw’n ystyried ffyrdd o warchod ardaloedd newydd, a bydd y tîm yn eu cyflwyno i’r cyhoedd yn ystod ail gyfres o sesiynau ymgynghori ar yr ynysoedd y flwyddyn nesaf. Y cam nesaf fydd dylunio system newydd o barciau morol.

Yn ystod y rownd bresennol o sesiynau ymgynghori ar hyd a lled Ynysoedd y Cayman, aeth y tîm ati i annog cyrff a’r cyhoedd i sôn am eu pryderon ac am eu gweledigaeth ar gyfer amgylchedd y môr mewn 25 o flynyddoedd. Disgrifiodd rhai o drigolion hŷn yr Ynysoedd y riffiau fel yr oeddent yn ystod eu hieuenctid, gan nodi pa mor hawdd oedd pysgota yno. Roedd y mwyafrif o’r bobl yn awyddus i weld mwy o amgylchedd y môr dan warchodaeth, gan gydnabod gwerth riffiau byrlymus, llawn bywyd o safbwynt twristiaeth ac amddiffyn arfordiroedd. Ond roedden nhw hefyd yn pwysleisio bod angen addysgu pobl a gorfodi’r rheoliadau’n fwy trylwyr. Soniodd rhai o’r pysgotwyr am eu pryderon, wrth gwrs, ond roedden nhw’n dod i sylweddoli’n raddol hefyd y byddai gwella’r parciau morol yn sicrhau adnoddau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

http://www.youtube.com/watch?v=3-rpCGhIjzU&feature=feedlik

Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2011