Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Ymchwil i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd yn cychwyn cyfnod newydd

Yr Athro Julia Jones.Yr Athro Julia Jones.Penodwyd yr Athro Julia Jones o Brifysgol Bangor yn Gyfarwyddwr newydd Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd Sêr Cymru Llywodraeth Cymru (NRN-LCEE). Bydd yr Athro Jones yn parhau i adeiladu ar yr ymchwil o ansawdd uchel yng ngwyddorau'r amgylchedd a'r gwyddorau naturiol yng Nghymru wrth iddi gymryd yr awenau y mis hwn.

Bydd yr Athro Jones yn cymryd rôl yr Athro David N. Thomas, hefyd o Brifysgol Bangor, a arweiniodd y rhwydwaith cenedlaethol yn ystod ei gyfnod hynod lwyddiannus cyntaf rhwng 2013-19.

Meddai’r Athro Jones: “Rwy’n falch iawn o fod yn arwain y rhwydwaith ymchwil hanfodol bwysig hwn sy’n mynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol enfawr y mae’r blaned yn eu hwynebu. Mae'r gwaith a wnaed yn ystod cam cyntaf y project yn dangos sut mae gwyddorau'r amgylchedd yma yng Nghymru gyda'r orau yn y byd, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda phrifysgolion partner, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i symud y rhwydwaith yn ei flaen."

Roedd cam cyntaf y project yn ymchwilio i atebion polisi-berthnasol i heriau mawr, a'u datblygu, gan gynnwys sut i ddarparu bwyd i boblogaeth y byd wrth i'r hinsoddau newid, gan ddarparu datrysiadau ynni carbon isel sy'n defnyddio pŵer y môr ac ynni geothermol, a chymryd ysbrydoliaeth gan fyd natur i wella'r amgylchedd adeiledig.

Meddai’r Athro David N Thomas: “Roedd sefydlu’r rhwydwaith yn fenter feiddgar, arloesol ar gyfer ymchwil o Gymru a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) fel rhan o fenter ariannu Sêr Cymru 1.

“Yn ystod 6 mlynedd gyntaf y project daethom â 71 o bartneriaid ynghyd o Ewrop, Gogledd America, y Dwyrain Canol a De’r Môr Tawel. Roeddent yn cynnwys sefydliadau ymchwil, cyrff y llywodraeth, mentrau bach i ganolig a diwydiant. O ganlyniad, enillodd sefydliadau Cymru gyllid cystadleuol ar gyfer 97 o brojectau, a chyfuno i gael gwerth £33 miliwn o gyllid ymchwil.”

Nododd un llinyn o'r ymchwil, 'Cleaner Cows', ddulliau cynhyrchu llaeth ac eidion mwy cynaliadwy, a fydd yn helpu i leihau effaith amgylcheddol wrth sicrhau na cheir effaith negyddol ar gynhyrchiant. Edrychodd un arall, 'Climate Smart Grass', ar effaith llifogydd a sychder ar gaeau a glaswelltiroedd ffermio. Ymchwiliodd yr ymchwilwyr 'Resilcoast' i forfeydd heli, adnoddau arfordirol gwerthfawr gyda lefelau dŵr y môr yn codi oherwydd newid yn yr hinsawdd.

Archwiliodd ymchwil a ariannwyd gan NRN-LCEE hefyd sut y gallwn leihau ein hallyriadau carbon ar adeg o alw cynyddol am ynni trwy ddefnyddio ynni a gynhyrchir gan y llanw a thonnau, maes y mae Cymru eisoes yn arweinydd rhyngwladol posib ynddo.

Mae'r NRN-LCEE yn un o dri a sefydlwyd yn wreiddiol i fynd i'r afael â phob un o'r tri maes ymchwil Her Fawr a nodwyd yn y strategaeth 'Gwyddoniaeth i Gymru', a'r ddau arall yw'r NRN ar gyfer Peirianneg a Deunyddiau Uwch (a arweinir gan Brifysgol Abertawe) a'r NRN ar gyfer Gwyddorau Bywyd ac Iechyd (a arweinir gan Brifysgol Caerdydd).

Mae ail gyfnod y rhwydweithiau hyn yn cael ei gefnogi gan Sêr Cymru II, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2020