Gall paciau cefn bychan i wenyn roi gwybodaeth hanfodol

Mae project newydd cyffrous ar y gweill ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd i ddefnyddio ynni trydanol y gwenyn ei hun wrth greu teclyn ysgafn sy'n gweithredu dros gryn bellter i ddilyn hynt gwenyn.

Mae poblogaethau gwenyn, sy'n hanfodol i beillio planhigion a choed, yn dirywio'n gyflym ar hyn o bryd o ganlyniad i sawl peth, yn bla-leiddiaid a gwiddon varroa i enwi ond dau. 

Gallai teclynnau sy'n galluogi gwyddonwyr i ddilyn hynt gwenyn ddatgelu llawer o wybodaeth.  Gallai data o'r fath, er enghraifft, ddangos i ni lle mae gwenyn yn casglu neithdar a pha mor bell y maent yn teithio, yn ogystal â chynorthwyo i ddatrys sut mae plaleiddiaid yn ymyrryd â gallu gwenyn i lywio eu hunain. 

Fodd bynnag, mae cyfyngiadau o ran y defnydd y gellir ei wneud o declynnau presennol i fonitro gwenyn.  I'w gwneud yn wirioneddol ddefnyddiol, mae angen dod dros dair sialens fawr: eu pwysau, y pellter y gallant weithredu drosto a pha mor hir y mae eu ffynhonnell bŵer yn para.

Mae ecolegydd o Brifysgol Bangor, Paul Cross, wedi ymuno ag arbenigwr mewn microelectroneg yn y Brifysgol, Cristiano Palego, i ddefnyddio microdechnoleg ddiweddaraf i ddatrys y problemau hyn er mwyn medru dilyn hynt gwenyn dros yr holl bellter y maent yn teithio.

Mae'r teclyn y maent hwy'n ei ddatblygu yn gwneud i ffwrdd â darn trymaf teclynnau presennol, sef y batri, i greu teclyn tracio hunangynhaliol na fydd yn pwyso ond tua thraean pwysau corff y gwenyn (mae'r rhan fwyaf o declynnau presennol yn pwyso mwy na'r gwenyn ei hun).  Mae hyn hefyd yn datrys y problemau'n ymwneud â hyd gweithredu'r teclyn, gan fod trosglwyddyddion presennol yn gyfyngedig i oes y batri.

Fel yr eglurodd Paul Cross, "Mewn gwirionedd mae hyn yn debyg i wenyn yn cario rycsac - o'i gymharu â chario'r hyn sy'n cyfateb i fwrdd y gegin a chadeiriau ar ei gefn fel sy'n digwydd ar hyn o bryd!"

Bydd y teclyn y bwriadant ei greu ar gyfer y gwenyn yn pwyso llai na dau ronyn o reis (50 microgram) a bydd o faint pen matsien.

Bwriadant ddefnyddio derbynnydd symudol a dilyn y signal a yrrir gan y gwenyn wrth iddo symud ar draws y tir.  Bydd y signalau'n gallu cael eu trosglwyddo dros bellter o hyd at 100 metr a thrwy hynny ddilyn hynt y gwenyn dros ei holl daith chwilio am fwyd.

Cyllidir y project cychwynnol drwy raglen Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS).  Y sefydliad sy'n bartner yn y fenter yw The Apiary Enterprise Limited, sy'n awyddus i gyllido ymchwil i ddulliau tracio gwenyn mêl mewn amgylcheddau tymherus a throfannol er mwyn gweld pa mor bell mae'r gwenyn yn ei deithio i gasglu eu bwyd dan wahanol amodau hinsawdd ac amgylcheddol.  Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth fwy manwl a chynhwysfawr i'r cwmni wrth benderfynu lle i sefydlu gwenynfeydd newydd.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2015