Taith wyddonol 'Urgency' i asesu marwolaeth riffiau cwrel a achoswyd gan yr hinsawdd

Mae tîm o wyddonwyr dan arweiniad athro ym Mhrifysgol Bangor newydd ddychwelyd o daith wyddonol i Chagos, yr archipelago anghysbell lle nad oes fawr neb yn byw, yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India.

Arweiniodd yr Athro John Turner o Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor y tîm o 14 o wyddonwyr a oedd yn cynnwys Dr Ronan Roche, hefyd o Brifysgol Bangor, ac eraill o Brifysgol Rhydychen, Cymdeithas Sŵolegol Llundain, Coleg Prifysgol Llundain, Cymdeithas Gwyddorau Morol yr Alban ac offeryn eigioneg.

Cwrelau dŵr bas wedi marwCwrelau dŵr bas wedi marwRydym i gyd wedi clywed am yr effeithiau dinistriol y mae cynnydd yn nhymheredd y môr a achoswyd gan newid hinsawdd wedi eu cael ar y Bariff Mawr yn Awstralia. Ond yn anffodus mae hyn yn broblem fyd-eang ac wedi cael effaith ar riffiau yr Archipelago Chagos hefyd. Fel sydd wedi digwydd i gwrelau mewn mannau eraill, mae'r tymheredd cynnes yn gwneud i'r cwrel fwrw allan y microalgau sy'n byw ynddynt, gan wneud i'r strwythurau edrych yn wyn o ran lliw. Heb y microalgau, nid yw'r cwrelau yn gallu ffotosyntheseiddio a gallant lwgu a marw.

Mae Tiriogaeth Indiaidd Prydain (BIOT) yn un o ardaloedd morol gwarchodedig mwyaf y byd, yn cwmpasu tua 640,000 km2 o gefnfor (ardal maint Ffrainc), mae'n ddiffeithiwch lle nad oes neb wedi byw ers ~60 mlynedd ac yn cynnwys rhai o riffiau cwrel gorau'r byd a phoblogaethau pwysig 76 o rywogaethau sydd ar restr goch IUCN, gan gynnwys siarcod, crwbanod y môr ac adar y môr. Mae'r Warchodfa Forol Chagos yn gwasanaethu fel safle cyfeirio byd-eang, yn rhoi meincnod i wrthdroi ecosystemau sydd wedi eu difrodi mewn mannau eraill, ac yn gwasanaethu fel lloches i rywogaethau sy'n ail-hadu rhannau diraddedig o gefnfor y mae miliynau o bobl yn dibynnu arno.

Llong patrôl Grampian FrontierLlong patrôl Grampian FrontierBu'r tîm ar fwrdd y llong patrôl mawr, y Grampian Frontier, am dair wythnos yn archwilio effeithiau dau ddigwyddiad mawr o gynhesu mewn dwy flynedd a wnaeth i'r riffiau cwrel wynnu.

Meddai'r Athro John Turner: "Rydym eisiau gwybod a oes llawer o’r riffiau wedi marw, a fu’n wydn o’r blaen, neu a oes arwyddion o adfer."

Yn ystod y daith gwnaed asesiadau o riffiau cwrel o amgylch 3 cylchynys cwrel anghysbell a daeth patrwm clir yn amlwg o'u harsylwadau. Buont yn deifio i ddyfnder o 25m mewn gwahanol fathau o riffiau fel rhai agored yn wynebu at y môr, riffiau lagŵn cysgodol, ac adroddwyd bod bron yr holl gwrelau uwchben dyfnder o 15m wedi marw.

Bwrdd cwrel wedi marw gyda chwrelau newydd yn dechrau setlo arnoBwrdd cwrel wedi marw gyda chwrelau newydd yn dechrau setlo arnoMae llawer o'r cwrelau bwrdd mawr sy'n rhoi cymhlethdod i strwythur riff, yn debyg i ganopi coedwig, wedi dymchwel, ond byddant yn y pen draw yn smentio gyda'i gilydd, ac yn ffurfio arwyneb lle bydd cwrelau newydd yn tyfu. Mewn lleoliadau mwy agored, mae'r byrddau cwrel wedi syrthio i lawr llethrau'r riff, yn aml wedi troi trosodd, ac mewn safleoedd agored iawn. Maent wedi cael eu hysgubo oddi ar y riff yn gyfan gwbl, gan fynd â’r cwrelau ifanc sydd newydd setlo i ffwrdd gyda nhw.

 

 


Yr unig gwrelau sydd wedi goroesi yn y dyfroedd bas yw'r cytrefi mawr crwn o gwrel a elwir yn Porites. Mae llawer ohonynt yn fawr iawn (>5m mewn diamedr) a gallant fod yn gannoedd o flynyddoedd oed. Daw darlun gwahanol i'r amlwg yn y dyfroedd dyfnach, lle mae cymunedau cwrel yn gyffredinol yn dal mewn iechyd da.

Cwrel Porites yw'r un o'r ychydig rywogaethau cwrel sydd wedi goroesi mewn dyfroedd bas Cwrel Porites yw'r un o'r ychydig rywogaethau cwrel sydd wedi goroesi mewn dyfroedd bas Mewn dyfnder is na 15m, mae'r rhan fwyaf o'r cwrelau ar lethrau'r riffiau sy'n wynebu'r môr ac ar riffiau lagŵn (cysgodol) yn goroesi. Ond gwelir rhai achosion o'r cwrel wedi gwynnu’n rhannol ac wedi marw. Mae ymchwydd o ddŵr oerach yn amlwg ar riffiau sy’n wynebu’r môr agored a all fod yn helpu i oeri'r cwrelau hyn.

 

Felly, y newyddion gwael hyd yma yw bod llawer iawn o'r cwrelau mewn dŵr bas wedi marw. Y newyddion da yw yr ymddengys bod cwrelau mewn dyfroedd dyfnach yn goroesi ac efallai yn gweithredu fel lloches, gyda'r posibilrwydd eu bod yn darparu cenedlaethau newydd o gwrel. Ar hyn o bryd, mae'r cwrel marw sy'n sefyll mewn dŵr bas yn dal i ddarparu strwythur cymhleth, yn rhoi cynefin i rai pysgod, ond bydd hyn yn erydu ac nid ydym yn gwybod beth fydd yr effaith tymor hir ar gymunedau pysgod.

 

Rhagor o gwrelau iach mewn dyfroedd dyfnachRhagor o gwrelau iach mewn dyfroedd dyfnachMeddai’r Athro Turner: "Rydym yn amlwg yn drist i weld riffiau cwrel y Chagos yn y cyflwr hwn, sy’n debyg i leoliadau eraill a effeithiwyd gan yr hinsawdd fel y Bariff Mawr. Ond rydym yn parhau'n optimistaidd y gall y riffiau hyn, o gael eu diogelu a bod yn bell oddi wrth effeithiau dynol, dod yn ôl yn dalog fel y gwnaethant ar ôl y digwyddiad cynhesu yn 1997/1998.

“Un o uchafbwyntiau'r daith oedd cyfarfod â siarc llwynog y môr, sef siarc cefnforol ar restr goch rhywogaethau dan fygythiad, sy'n ymweld â riffiau cwrel er mwyn glanhau parasitiaid oddi ar eu cyrff, ond na welwyd yn Chagos o'r blaen. Gafodd y siarc gymaint o syndod â mi, a defnyddiodd ei gynffon mawr i droi a dianc ar gyflymder i ganol y môr.

"Mae ein hymchwil blaenorol wedi dangos sut y gall y siarcod hyn ddefnyddio eu cynffonau i daro pysgod yn anymwybodol.”

 

Siarc llwynog y môr cefnforolSiarc llwynog y môr cefnforolCyllidir y project hwn yn llawn gan y Sefydliad Bertarelli trwy Gymdeithas Sŵolegol Llundain, yn gweithio gyda gwyddonwyr morol blaenllaw o bob rhan o'r byd i gynnal rhaglen o ymchwil tymor hir ar Ardal Forol Warchodedig y Chagos. Mae tîm yr Athro Turner wedi cael grant hael gan y Sefydliad i barhau i ymchwilio i ganlyniadau gwynnu cwrelau ac adferiad posibl y riffiau hyn.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017