Y Gymraeg a Gwirfoddoli

Mae ymchwil gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, a Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi tanlinellu pa mor bwysig ydyw cael sector gwirfoddol iach sydd yn medru diwallu anghenion Cymru ddwyieithog.  Mae’r ymchwil a wnaed ar ran Comisiynydd y Gymraeg yn tynnu sylw at bwysigrwydd denu gwirfoddolwyr dwyieithog i gynnig gweithgareddau a darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.  Mae’r gwaith hefyd wedi tynnu sylw at  fannau lle gellid gwella ar y ddarpariaeth a’r cyfleoedd cyfredol.

Mae’r adroddiad, Y Gymraeg a Gwirfoddoli, yn tynnu sylw at y galw o fewn y sector wirfoddol am wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg. Dangosai’r ymchwil bod gallu delio gyda’r cyhoedd yn eu dewis iaith yn ased werthfawr ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector, wrth iddynt geisio diwallu anghenion eu defnyddwyr. Yn ogystal â hyn mae’r ymchwil yn awgrymu bod gwirfoddolwyr eu hunain hefyd yn defnyddio gwirfoddoli  er mwyn datblygu sgiliau personol, a sgiliau ieithyddol yn benodol.  

Wrth holi’r sector; yn fudiadau, cyrff hyrwyddo gwirfoddolwyr a gwirfoddolwyr eu hunain, am eu profiadau gwirfoddoli cyfrwng Cymraeg, canfuwyd bod cyfleon gwirfoddoli a gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith yn bodoli  ym mhob cwr o Gymru.

Yn ôl Dr Cynog Prys, Darlithydd Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Bangor ,ac un o awduron yr ymchwil:

“Un peth diddorol a ddaeth i’r amlwg oedd bod mwy o wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith wedi mynd ati i wirfoddoli drwy ddilyn llwybrau anffurfiol - traddodiadau teuluol o wirfoddoli, neu efo’r capel neu fudiad, yn hytrach na thrwy ddefnyddio sefydliadau hybu gwirfoddoli, neu drwy gynnig gwirfoddoli efo elusennau mawrion Prydeinig.  Awgryma hyn bod angen mwy o sylw i’r hyn sy’n digwydd yma, gan gynnwys edrych ar ddelwedd a chyfathrebu’r mudiadau Prydeinig fel bod gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith yn  teimlo bod lle yno iddynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod y mudiadau yma yn aml angen y sgiliau ieithyddol.”

 “Mae cyfle yma hefyd i’r sector hybu gwirfoddoli ac i’r trydydd sector ei hun fod yn fwy   rhagweithiol yn y modd y maent yn cynllunio a hybu cyfleoedd gwirfoddoli er mwyn sicrhau eu bod yn nodi’r mannau lle mae angen a’r cyfleoedd i wirfoddoli drwy’r Gymraeg. Mae  angen hefyd cyfathrebu’n glir am y cyfleon i wirfoddoli yn y Gymraeg a bod Cymraeg bob dydd yn ddigon da i’w ddefnyddio wrth wirfoddoli.

Meddai Bryan Collis, Swyddog Ymchwil gyda’r Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

“Dangosodd yr ymchwil fod gwirfoddolwyr yn defnyddio’u Cymraeg  mewn sawl sefyllfa, ond bod yna gyfle i wneud fwy o ddefnydd o’r Gymraeg a hefyd i'r rhai sy’n rheoli gwirfoddolwyr o fod yn fwy ymwybodol o’r modd y mae eu hymddygiad yn dylanwadu i ffordd y mae Cymraeg a Saesneg yn cael eu defnyddio. Mae wedi bod yn waith ymchwil defnyddiol sydd eisoes wedi cael effaith ymarferol ar sut y mae cyfleoedd gwirfoddoli’n cael eu hybu”

Meddai Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg:

“Mae’r ymchwil hwn wedi cynnig tystiolaeth i ni wrth gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru a hyrwyddwyr gwirfoddoli i drafod addasu eu polisïau a chanllawiau gwirfoddoli.

Rydym hefyd wedi cynnwys yr argymhellion a gynigwyd fel rhan o’n hyfforddiant i sefydliadau trydydd sector.”

Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2014