Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

£1 miliwn o hwb ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer prosiect arbrofol i gynnal ymchwil i newid ymddygiad y diwydiant

Mae Alun Davies, y Dirprwy Weinidog dros Raglenni Ewropeaidd, wedi cyhoeddi y bydd prosiect peilot sy’n cynnal ymchwil arloesol er mwyn helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd yn cael £1 miliwn o arian Ewropeaidd.

Dr Carl Hughes o'r Ganolfan efo'r Dirprwy Weinidog Alun Davies, wedi'r cyhoeddiadDr Carl Hughes o'r Ganolfan efo'r Dirprwy Weinidog Alun Davies, wedi'r cyhoeddiadBydd arian yr UE yn helpu Prifysgol Bangor i ddefnyddio ymchwil newydd fel rhan o’i hastudiaeth arbrofol sy’n werth £2 filiwn i greu Canolfan Newid Ymddygiad Cymru.  

Y nod yw sefydlu canolbwynt yn y Brifysgol fydd yn helpu busnesau i wella eu cynhyrchiant a chryfhau eu cadwyni cyflenwi trwy ddefnyddio ymchwil mewn newid ymddygiad.  Disgwylir datblygu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd mewn meysydd fel iechyd a diogelwch yn ogystal â chynhyrchiant a lles yn y gweithle.  Hefyd, bydd yr ymchwil yn annog busnesau i gydweithio er mwyn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau fydd yn gallu defnyddio apps symudol, gwaith 3-D a gemau gan eu helpu i fod yn fwy cystadleuol ar lwyfan rhyngwladol.

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad am yr arian yn ystod ei ymweliad â’r Gogledd, yn y cyntaf o bedwar digwyddiad ymgynghori rhanbarthol ar ddyfodol Cronfeydd Strwythurol a Rhaglenni Datblygu Gwledig 2014-2020 yng Nghymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Raglenni Ewropeaidd, Alun Davies:  

“Rwy’n falch iawn ein bod, trwy reoli ein cronfeydd Ewropeaidd yn llwyddiannus, yn gallu buddsoddi mewn gweithgareddau sy’n torri tir newydd ym maes ymchwil ac arloesedd ac sy’n helpu i greu economi ‘smart’ a chystadleuol ar lefel ryngwladol i Gymru.

“Wrth edrych ymlaen, rydym yn benderfynol o wneud y mwyaf y gallwn ni o unrhyw arian Ewropeaidd a gawn yn y dyfodol ac rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar sut i fuddsoddi cronfeydd Ewropeaidd yn y dyfodol er mwyn creu twf a swyddi.  

“Mae llawer o ansicrwydd yn bodoli o hyd am swm yr arian y bydd Cymru’n debygol o’i gael am fod cynigion i dorri cyllideb bresennol yr UE yn cael eu trafod yn ogystal a sut i ddosbarthu’r arian ymysg yr Aelod Wladwriaethau.

“Rwy’n poeni’n arw am hyn gan fod cronfeydd Ewropeaidd wedi bod ac yn parhau i fod yn hanfodol i droi Cymru’n wlad hyderus, uchelgeisiol ac entrepreneuraidd a chanddi economi amaethyddol gref.  Yng Ngogledd Cymru yn unig, mae’r Cronfeydd Strwythurol eisoes wedi helpu 4,500 o bobl i gael gwaith a dros 17,000 o bobl i ennill cymwysterau, gan greu bron 3,520 o swyddi a 1,250 o fusnesau.    

Rydym wedi bod yn pwyso am gael bargen decach i Gymru fel bod rhanbarthau ‘llai datblygedig’ fel y Gorllewin a’r Cymoedd, sy’n cynnwys siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych, yn cael lefelau digonol o arian fel bod prosiectau ymchwil a datblygu fel Canolfan Newid Ymddygiad Cymru yn gallu parhau i helpu busnesau a rhoi hwb i’r economi.

“Rwy’n gobeithio y bydd Ewrop yn penderfynu ar gyllideb decach i Gymru a rhanbarthau tlotach eraill yn Ewrop ddechrau’r mis nesaf fel gall y rownd nesaf o raglenni ariannu Ewropeaidd yng Nghymru allu dechrau’n gynnar yn 2014.”

Wrth groesawu'r cyllid meddai’r Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor:  "Mae'r cyllid hwn yn fuddsoddiad mawr gan Lywodraeth Cymru ym Mhrifysgol Bangor ac yn ymrwymiad gwirioneddol gan y ddau barti i gynnal yr ymchwil gorau posibl a gaiff effaith fawr yng Nghymru.  Mae gan yr Ysgol Seicoleg hanes hir o'r ymchwil mwyaf blaenllaw'r byd i newid ymddygiad mewn meysydd fel bwyta'n iach, anhwylderau ymddygiad, rhianta ac addysg. Bydd y project newydd hwn yn adeiladu ar arbenigedd Bangor i ddefnyddio gwyddor newid ymddygiad i ddylanwadu ar ystyriaethau sy'n bwysig i fusnesau lleol a chymdeithas gynaliadwy. Bydd Canolfan Newid Ymddygiad Cymru yn sefydlu tîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr a fydd yn gweithio ochr yn ochr â chwmnïau bach a chanolig lleol er lles y byd academaidd a'r gymuned leol hefyd.  Mae’n broject cyffroes ac arloesol iawn.”

Dywedodd Dr Carl Hughes o Brifysgol Bangor sy’n Ddirprwy Gyfarwyddwr prosiect Canolfan Newid Ymddygiad Cymru bod unrhyw ymchwil a datblygu a wneir yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant ac elw'r cwmnïau sy’n cymryd rhan.

Dywedodd:  

“Rydym yn hapus iawn ein bod wedi cael help gan Lywodraeth Cymru i sefydlu’r ganolfan hon.  Bydd yn rhoi cyfle i seicolegwyr Ymddygiadol, Gwyddonwyr Chwaraeon, Peirianwyr, Dylunwyr a Gwyddonwyr Cyfrifiadurol  ddod ynghyd i helpu i newid ymddygiadau er mwyn ymdopi a heriau’r byd go iawn.  Hefyd, bydd y gymuned a busnesau lleol yn cael helpu i lunio’r ymchwil.

“Mae’r ganolfan hon yn enghraifft wych o’n gallu cynyddol i droi ymchwil o safon rhyngwladol yn rhaglenni ymarferol er lles yr economi leol ac economi Cymru.”

Un o’r sectorau sy’n debygol o gael budd o’r cynllun yw’r diwydiant niwclear a’i gadwyn gyflenwi o gwmnïau bach a chanolig yn rhanbarth y Gogledd-orllewin.  Disgwylir y bydd ymchwil i newid ymddygiad yn gallu gwella technegau diogelwch a helpu busnesau i weithredu’n well ac i fod yn fwy cystadleuol.

Elfen arall o’r prosiect fydd defnyddio ymchwil i hyfforddi staff yn y gweithle.  Y nod fydd newid persbectif y staff.  Gallai hynny arwain at lai o absenoldebau a chynyddu cynhyrchiant ymysg busnesau bach a chanolig a chyrff mwy.

Mae croeso i unigolion, busnesau bach a chanolig a chyrff eraill sydd â heriau penodol yn eu gweithleoedd i gysylltu â’r ganolfan i gael rhagor o wybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gymryd rhan, e-bostiwch David Menichino, Rheolwr Datblygu Busnes.  

Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2013

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor