Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Adnodd newydd ym Mhrifysgol Bangor i bawb sy’n ymchwilio i hanes eu teulu

Elen Simpson yn defnyddio adnodd 'Find my past'  sydd bellach ar gael i'w harchwilio yn Archif y Brifysgol.Elen Simpson yn defnyddio adnodd 'Find my past' sydd bellach ar gael i'w harchwilio yn Archif y Brifysgol.Gall unrhyw un sy’n ymchwilio i hanes eu teulu gael mynediad at gronfa ddata helaeth o gofnodion yn Archifau Prifysgol Bangor

Diolch i roddion hael gan gyn-fyfyrwyr y brifysgol, mae Cronfa Bangor wedi  rhoi arian i Lyfrgell ac Archifau’r Brifysgol brynu mynediad at gronfa ddata ar-lein sy’n rhoi mynediad am ddim i dros 1.5 biliwn o gofnodion am hanes teuluoedd. Mae’r cofnodion yn cynnwys manylion am enedigaethau, marwolaethau a phriodasau, llyfrau cofnodion plwyf, cofnodion milwrol a rhestrau teithwyr ar longau.

Mae’r Archifau yn rhoi gwasanaeth i fyfyrwyr a staff y brifysgol, ond mae canran uchel o ddefnyddwyr yr archifau yn ymchwilwyr nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad uniongyrchol â’r brifysgol. Mae nifer ohonynt yn haneswyr lleol neu’n rhai sy’n ymchwilio i hanes eu teulu.

Meddai  Elen Simpson, archifydd yn y Brifysgol, “Ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn yn ysgrifennu erthygl am yr ohebiaeth yn Archif y Brifysgol, rhwng tri milwr a oedd yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a Syr Ifor Williams, Athro Cymraeg y Brifysgol yr adeg honno.

Mae’r dogfennau eu hunain yn datgelu llawer am yr awduron, ond er mwyn cael gwybod mwy amdanynt euthum ar y we a defnyddio’r feddalwedd Find My Past, sydd bellach ar gael yma yn yr archifdy. Roedd popeth ar gael yno sef y cyfrifiad, cofnodion milwrol, llyfrau cofnodion plwyf, rhestri teithwyr ar longau, papurau newydd - mae’r rhestr yn faith.

Milwyr yn ymweld â'r Brifysgol yn ystod y 'Rhyfel Mawr'.Milwyr yn ymweld â'r Brifysgol yn ystod y 'Rhyfel Mawr'.Gwelais ar unwaith yng nghyfrifiad 1901 bod un o’r milwyr, Arthur Wyn Williams, yn fab i weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd . Roedd yn un o bedwar o blant a chafodd ei fagu ym Mron Awel, Llanllechid. Erbyn cyfrifiad 1911, roedd  Arthur yn 18 mlwydd oed ac yn byw yn Eryl, Glan Conwy ac yn fyfyriwr yn y brifysgol.

Rydym yn gwybod o’r llythyrau ei fod yn aelod o’r 38ain Is-adran Gymreig o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (yr un gatrawd â Hedd Wyn), a’i fod wedi goroesi’r rhyfel. Ond roeddwn eisiau gwybod beth oedd ei hanes ar ôl y rhyfel. Dysgais yn weddol hawdd ei fod wedi mynd i weithio yn yr Unol Daleithiau fel newyddiadurwr i’r Manchester Guardian. Cefais hyd i’w gyfeiriad yn Efrog Newydd  yn 1942 - 3209 Park Avenue, a hyd yn oed disgrifiad corfforol ohono sef ei fod yn 5 troedfedd 7 modfedd o ran taldra ac yn pwyso 185 pwys. Gwisgai sbectol ac roedd ganddo graith ar ei arddwrn de.

Mae cofnodion y llongau hefyd yn datgelu ei fod wedi teithio yn ôl ac ymlaen rhwng Efrog Newydd a Phrydain nifer o weithiau cyn dychwelyd i fyw yma. Yn  ôl y National Probate Calendar, bu farw Arthur ar 9 Tachwedd 1962 ac roedd yn byw yn Kenton, Middlesex gyda’i wraig Imogene Emma Williams,” meddai Elen.

Un o lythyrau Arthur Wyn Williams o Gasgliad Syr Ifor Williams yn yr  Archifau.Un o lythyrau Arthur Wyn Williams o Gasgliad Syr Ifor Williams yn yr Archifau.Dywedodd Emma Marshall, Cyfarwyddwr Cronfa Bangor:

“Diolch i’n cyn-fyfyrwyr sy’n cyfrannu’n hael at Gronfa Bangor, eleni rydym wedi llwyddo i  rannu £91,000 rhwng 17 o brojectau a mentrau trawsnewidiol ym mhob rhan o’r brifysgol.  Mae prynu ‘Find My Past’ i’r Archifau yn golygu y bydd yn ddefnyddiol i’r myfyrwyr  a staff ac i’r  gymuned yn ehangach hefyd.”

Felly dyma’r amser perffaith i  wneud project am hanes eich  teulu gan fod Find My Past  ar gael yn awr yn rhad ac am ddim yn Archifdy’r Brifysgol. Cysylltwch ag adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ar (01248) 383276 i gael rhagor o wybodaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor