Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Adroddiad yn annog llywodraethau i adolygu'r ddyletswydd o addoli ar y cyd mewn ysgolion

Yn ôl y gyfraith mae angen i'r mwyafrif llethol o ysgolion gwladol yn y DU gynnal addoliad ar y cyd dyddiol (Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon) neu ddefod grefyddol (Yr Alban) i'w disgyblion.  Rhaid i’r mwyafrif o’r addoliadau hyn yn ystod unrhyw dymor ysgol fod ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf Gristnogol eu natur’, ymwneud â ‘moli neu addoli bod neu rym dwyfol’ a 'rhoi statws arbennig i Iesu Grist'.Yr Athro Heiner Bielefeldt, Prif Gofnodwr y Cenhedloedd Unedig ar Ryddid Crefyddol a Chred, yn ymateb i argymhellion yr adroddiadYr Athro Heiner Bielefeldt, Prif Gofnodwr y Cenhedloedd Unedig ar Ryddid Crefyddol a Chred, yn ymateb i argymhellion yr adroddiad

Mae tîm ymchwil amlddisgyblaethol dan arweiniad Dr Alison Mawhinney (Ysgol y Gyfraith Bangor) wedi edrych ar y ddyletswydd hon ac, mewn cynhadledd ryngwladol a gynhaliwyd y mis hwn, lansiwyd adroddiad sy'n argymell i lywodraethau'r DU edrych drachefn ar y rheidrwydd hwn rhag blaen.  

Mae'r adroddiad, ‘Collective Worship and Religious Observance in Schools: An Evaluation of Law and Policy in the UK’, yn ganlyniad project dwy flynedd a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC).   Fe wnaeth y project ddod â deg o ysgolheigion o bob rhan o'r DU at ei gilydd, gydag arbenigedd mewn nifer o ddisgyblaethau perthnasol, yn cynnwys addysg, y gyfraith, athroniaeth ac ysbrydolrwydd.

Mae'r adroddiad yn argymell yn gryf y dylai llywodraethau yn y DU ystyried o'r newydd y sail resymegol sydd wrth wraidd y dyletswyddau o gynnal addoli ar y cyd a defod grefyddol mewn ysgolion.  Mae'n dadlau nad oes ar hyn o bryd unrhyw sail resymegol a dderbynnir dros ei gwneud yn rheidrwydd i gynnal gweithredoedd o addoliad mewn ysgolion gwladol - ac mai dim ond pan gytunir ar un y gellir dechrau trafodaeth wybodus ar p'un a ddylai'r dyletswyddau presennol barhau, cael eu diddymu neu eu diwygio. 

Os na ellir canfod unrhyw sail resymegol dros addoli ar y cyd mewn ysgolion, mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r dyletswyddau presennol gael eu diddymu.

Mae'n nodi y gall y gwahanol wledydd yn y DU ddewis edrych mewn ffyrdd gwahanol ar y cwestiwn p'un ai i gadw, diddymu neu ddiwygio'r ddyletswydd yng ngoleuni amcanion a gwerthoedd system addysg pob gwlad.

Yn ogystal â phwysleisio'r angen i'r dyletswyddau presennol gael eu hailystyried yn sylfaenol, mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion o ran y ffordd y mae'r gyfraith a pholisi'n ymwneud ag addoli ar y cyd a defod grefyddol yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd.   Mae'n gwneud yr argymhellion canlynol:

  • Dylai holl awdurdodau addysgol yn y DU roi canllawiau i ysgolion i wneud yn glir bod yr hawl i dynnu'n ôl o weithredoedd o addoli ar y cyd/defod grefyddol yn ymestyn i bob ysgol.
  • Dylai pob ysgol yn y DU gyhoeddi'n glir beth yw cynnwys a fformat gweithredoedd o addoli ar y cyd/defod grefyddol fel bod rhieni a disgyblion yn gwybod beth sy'n digwydd yn ystod y gweithgareddau hyn a gallu gwneud penderfyniadau gwybodus p'un ai i gymryd rhan ynddynt ai peidio. 
  • Dylai holl ysgolion yn y DU hysbysu rhieni a disgyblion bod ganddynt hawl i beidio â mynd i weithredoedd o addoli ar y cyd/defod grefyddol.
  • Dylai pob ysgol yn y DU ddarparu gweithgareddau eraill priodol, o werth addysgol, lle gofynnwyd am gael peidio â mynd i weithredoedd o addoli ar y cyd/defod grefyddol.

Gwneir argymhellion penodol hefyd yn yr adroddiad i Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban o ran addoli ar y cyd/defod grefyddol.

Yn ogystal â chyflwyno adroddiad y Rhwydwaith, roedd y gynhadledd yn cynnwys ymatebion i ddarganfyddiadau'r adroddiad ac argymhellion gan lywodraethau, budd-ddeiliaid academaidd ac academyddion.

Roedd y siaradwyr yn cynnwys Prif Gofnodwr y Cenhedloedd Unedig ar Ryddid Crefyddol a Chred, Yr Athro Heiner Bielefeldt, Yr Athro Cymdeithaseg Crefydd, Linda Woodhead MBE (Prifysgol Lancaster), Yr Athro Diwinyddiaeth ac Addysg, Mary Elizabeth Moore (Prifysgol Boston), a'r Athro Addysg, Geir Skeie (Prifysgol Stockholm), yn ogystal â chynrychiolwyr o Adran Addysg a Sgiliau Cymru ac Adran Addysg Gogledd Iwerddon.   

Mae'r adroddiad a manylion pellach am y project addysg i'w cael yn: http://collectiveschoolworship.com/

Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor