Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Astudiaeth newydd i rhoi’r dechrau gorau i blant ag awtistiaeth

Mae astudiaeth arloesol wedi ei lansio er mwyn deall sut y gellir cefnogi teuluoedd a effeithir gan  awtistiaeth yn syth wedi iddynt dderbyn diagnosis.

Bydd y treial, a gyllidir gan elusen ymchwil awtistiaeth, Autistica, yn ceisio canfod os yw cynnig  y rhaglen gefnogaeth  Blynyddoedd Rhyfeddol (Incredible Years®)  i deuluoedd yn fuan wedi deiagnosis eu plentyn â buddiannau hirdymor posib.

Mae rhaglenni’r Blynyddoedd Rhyfeddol (Incredible Years®) eisoes yn cael eu defnyddio’n helaeth gan ysgolion, meithrinfeydd a rhieni ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Mae rhaglenni’r Blynyddoedd Rhyfeddol yn datblygu dealltwriaeth gymdeithasol ac emosiynol plant ifanc ac yn sicrhau bod y plant yn barod i elwa o’u profiadau yn yr ysgol, y feithrinfa neu’r cartref.

Mae addasiad o’r rhaglenni wedi cael ei ddatblygu yn unswydd i gefnogi rhieni plant gydag awtistiaeth neu oediad ieithyddol. Yn dilyn treial bychan yng Ngwynedd, y cyntaf i’w gynnal y tu allan i’r UDA, mae’r treial newydd yma yn fwy sylweddol na’r rhai blaenorol a bydd yn cael ei , gynnal ar draws Cymru, i brofi pa mor effeithiol yw’r rhaglen mewn cyd-destun Cymreig, gan adolygu cost-effeithiolrwydd y rhaglen dros amser.

Os  yw’r treialon yn llwyddiannus, gall  raglen newydd i rieni plant ifanc gydag awtistiaeth fod ar gael yng Nghymru ac ar draws y DU.

Fel yr esbonia’r Athro Judy Hutchings, o Brifysgol Bangor, a fydd yn arwain yr ymchwil:

“Yn aml mae gan blant sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) anawsterau cysylltiedig yn cynnwys gorfywiogrwydd, gorbryder a gorsensitifrwydd i seiniau a deunyddiau, anawsterau cysgu, ac anawsterau deall a rheoli eu hemosiynau. Mae bod yn rhiant i blentyn gydag awtistiaeth yn heriol, ond gall yr heriau ymddygiadol a ddaw yn anuniongyrchol o’r awtistiaeth achosi pryder a phroblemau iechyd meddwl i’r un sy’n gofalu am y plentyn, yn ychwanegol at y rhai a achosir yn uniongyrchol gan yr ASD.

Yn ogystal â chyfrannu at rianta mwy llyfn, sydd yn ei sgil yn lleihau’r straen ar y rhiant a’r plentyn, mae gwella sgiliau rhianta rhieni plant gyda ASD yn hanfodol oherwydd pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar i ddatblygiad.”

Mae’r Athro Hutchings o’r Ganolfan Ymyrraeth Cynnar ar Sail Tystiolaeth yn yr Ysgol Seicoleg, wedi bod yn allweddol yn y gwaith o gyflwyno a phrofi effeithiolrwydd rhaglenni’r Blynyddoedd Rhyfeddol yng Nghymru, a hi yw awdur y llyfr “Llawlyfr Bach Rhieni”.

Bydd 72 o deuluoedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil newydd, fydd yn dechrau gweithio gyda rhieni yn y misoedd nesaf. Bydd un grŵp yn derbyn y rhaglen ar y cychwyn, e ac yn cael eu cymharu yn erbyn y gweddill a fydd yn derbyn y gefnogaeth ar ddiwedd y project.

Roedd y rhieni a gymerodd ran mewn rhaglen beilot gynharach yn ei ystyried yn brofiad buddiol, nid yn unig am eu bod yn teimlo’n llai ynysig ac yn cael cyfle i rannu eu profiadau gyda rhieni eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, ond hefyd gan eu bod wedi dysgu mwy am awtistiaeth ac wedi dysgu ffyrdd newydd o ymdrin â’u plant a dal eu sylw.

Meddai Claire Golding, rhiant o Gricieth a gymerodd ran yn y cwrs peilot:

“Drwy’r cwrs llwyddais i addasu fy sgiliau rhianta i gyd-fynd ag anghenion penodol fy mhlentyn, ac mae hyn wedi cael effaith cadarnhaol arnom fel teulu.”

"Buaswn yn argymell y cwrs i bob rhiant sydd â phlentyn ar y sbectrwm awtistiaeth.”

Meddai Jon Spiers, Prif Weithredwr Autistica:

“Mae cyfathrebu ac ymyrraeth gynnar yn  ymhlith y blaenoriaethau mwyaf sydd wrth wraidd ymchwil y gymuned awtistiaeth, ac felly rydym yn falch iawn o allu cyllido project blaengar sydd yn  cefnogi teuluoedd yn ystod un o gyfnodau mwyaf anodd eu profiad ag awtistiaeth.

Mae’r project hwn yn un gwerthfawr mewn dwy ffordd: fel project ymchwil, bydd yn darparu gwybodaeth i therapïau’r dyfodol, ond gyda’r fantais ychwanegol o fod o fudd i deuluoedd rŵan hyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau, ac os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn ymgyrchu i ledaenu’r gwasanaeth yn genedlaethol fel y gall pawb sydd ei angen cael budd ohono.”

Dywedodd yr Athro Richard Hastings, Centre for Educational Development Appraisal & Research (CEDAR), ym Mhrifysgol Warwick, sydd hefyd yn rhan o’r tîm ymchwil:

“Nod ein hymchwil yw gwella sawl agwedd ar ansawdd bywyd plant ac oedolion gydag awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr ac felly rydym yn awyddus i weld os fydd y rhaglen yma yn cynnig dull cost-effeithiol o roi cymorth i’r teuluoedd ifanc hyn.”

Meddai Dr Sue Evans, Seicolegydd Plant Ymgynghorol gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

 

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r ymchwil hwn. Mae gennym strategaeth Blynyddoedd Cynnar (IY) aml-asiantaeth gref ym Mhowys a bydd y rhaglen awtistiaeth yn integreiddio’n dda efo hyn, ac yn ychwanegu cefnogaeth i rieni plant ifanc gydag awtistiaeth. Hyd yn hyn, rydym wedi cynnal dau grŵp peilot.  Rydym yn edrych ymlaen at fod yn bartneriaid yn yr ymchwil, rhedeg grwpiau ychwanegol i rieni a chyfrannu tystiolaeth am effeithiolrwydd y rhaglen.”

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2016

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor