Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Atgyfnerthu cysylltiadau ym myd addysg

Yn llofnodi'r cytundeb mae (ch-dd): Yr Athro Graham Upton, Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Glyndŵr Wrecsam; Glyn Jones, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai a'r Athro John G Hughes Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.Yn llofnodi'r cytundeb mae (ch-dd): Yr Athro Graham Upton, Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Glyndŵr Wrecsam; Glyn Jones, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai a'r Athro John G Hughes Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.Mae cewri addysg yng Ngogledd Cymru wedi atgyfnerthu eu cysylltiadau ymhellach er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer cyfnod newydd o gydweithrediad academaidd a diwydiannol. 

Cafwyd cyfarfod rhwng Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos i lofnodi cytundeb y bartneriaeth newydd a fydd yn gweld y sefydliadau yn ceisio llwybrau cynnydd amgen o addysg bellach i addysg uwch ac yn edrych ar gynghreiriau strategol ehangach yn yr ardal.

Trwy gydweithio’n agosach ac adeiladu ar gysylltiadau sy’n bodoli’n barod, bydd y tri sefydliad yn edrych ar ffyrdd newydd o gwrdd ag anghenion sgiliau ac addysg busnesau a darpar fyfyrwyr ledled Gogledd Cymru a thu hwnt. 

Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi chwarae rhan flaenllaw mewn cynyddu cyfranogiad mewn addysg, a chred y Prif Weithredwr Glyn Jones y bydd yr undeb yn cefnogi a hybu hyn ymhellach.

Meddai: “I lawer o bobl, mae cost ac ymarferoldeb mynd i ffwrdd i brifysgol yn ei gwneud hi’n amhosibl cael gradd. Mae darparu graddau yn lleol wedi newid hynny.

“Mae ein myfyrwyr yn dweud wrthym yn aml fod astudio am radd gyda ni wedi newid eu bywydau, yn llythrennol. Mae mwy o wybodaeth, sgiliau a hyder, a gwell cyfleoedd gyrfaol a dyrchafiadol yn ddim ond rhai o’r manteision y maent yn elwa ohonynt.

“Mae ein cynghreiriau strategol gyda phrifysgolion Bangor a Glyndŵr Wrecsam yn gydnabyddiaeth ffurfiol o’r pwysigrwydd y mae’r tri sefydliad yn ei roi ar ddarparu cymwysterau prifysgol hygyrch, cysylltiedig-â-gwaith i bobl Gogledd Cymru a thu hwnt.” 

Meddai Is-Gangellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G Hughes: “Mae Prifysgol Bangor yn falch o’i hymrwymiad sylweddol yn yr ardal, a thros y blynyddoedd mae wedi croesawu’r cyfle i weithio gydag eraill i ddatblygu economi, gwella sgiliau a throsglwyddo gwybodaeth ac ymchwil i fusnes.    

“Rydym ar fin cychwyn ar gyfnod newydd o gydweithrediad gyda phartneriaid addysg rhanbarthol. Mae’r Brifysgol yn bwriadu atgyfnerthu ac ehangu ei chysylltiad â Grŵp Llandrillo Menai a chychwyn ar gyfnod newydd o ymrwymiad gyda Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

“Mae cydweithredu â’n partneriaid yn siŵr o fod o fantais i bawb yn yr amseroedd anodd sydd ohoni.”

Meddai’r Athro Graham Upton, Is-Ganghellor Dros Dro ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae gennym berthynas hir a sefydlog gyda Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor ac yn dymuno atgyfnerthu’r ymroddiad hwnnw i gydweithio.

“Mae’r cytundeb yn diweddaru’r berthynas gyda’r ddau sefydliad i’r cyfnod presennol – ar ôl bod trwy dwf a newidiadau strwythurol yn ystod y blynyddoedd diwethaf – ac yn dangos ein bod i gyd yn cydweithio i hybu darpariaeth addysg uwch a phellach yng Ngogledd Cymru. 

“Gyda’n gilydd fe gawn hyd yn oed fwy o effaith ar addysg, diwydiant a’r economi leol, gan ddarparu profiad mwy cadarnhaol i’n holl fyfyrwyr a phartneriaid masnachol.”

Daw hyn ar ôl i Glyndŵr Wrecsam a Choleg Cambria atgyfnerthu eu cytundeb cynghrair strategol y llynedd. Bydd y ddau sefydliad yn parhau i gydweithio i ddarparu datrysiadau cyd-drefnedig i gwrdd ag anghenion datblygu sgiliau a hyfforddiant busnesau a chyflogwyr yng ngogledd ddwyrain Cymru, gan adeiladu ar gyfleoedd cynnydd sy’n bodoli’n barod o Addysg Bellach ac Addysg Uwch rhwng y ddau sefydliad.   

Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2016

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor