Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Bwrlwm a Llechi: Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016

Cwrdd â hen ffrindiau dros wydriad o win.Cwrdd â hen ffrindiau dros wydriad o win.Bydd presenoldeb Prifysgol Bangor i’w weld a’i glywed ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau yn llenwi wythnos y brifwyl yn Sir Fynwy.

Fore Llun rhwng 11:00 a 12:00, bydd y brifysgol yn lansio Gweledigaeth Newydd Canolfan Addysg Athrawon Gogledd a Chanolbarth Cymru ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth. Yna, Y Chwyldro Digidol a’r Gymraeg fydd yn llenwi’r prynhawn rhwng 14:00 a 17:00, gyda chyflwyniadau gan aelodau’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar le a defnydd y Gymraeg ar lwyfannau digidol a thrafodaeth ar arolwg ‘Generation Beth?’ a fu’n ffrwyth cydweithio rhwng Prifysgol Bangor, S4C a Cwmni Da. Bydd Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yna’n cynnal sesiwn ar yr adnoddau terminolegol diweddaraf i gloi’r prynhawn.

Ddydd Mawrth, bydd Ysgol y Gymraeg yn lansio cynllun gradd newydd, Cymraeg Proffesiynol, ar y stondin rhwng 12:00 ac 13:00. Yna, o 14:00 ymlaen, bydd Gwenan Prysor (Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor) yn cadeirio sesiwn Bwyd i’r enaid: rôl diwylliant ym maes gofal, yng nghwmni Malan Wilkinson, Manon Rhys, Cefin Roberts a Mared Llwyd.

Yn parhau â thema diwylliant a’r celfyddydau, bydd cylchgrawn llenyddol newydd yn cael ei lansio ar stondin y Brifysgol rhwng 11:00 a 12:30 ddydd Mercher. Dewch i glywed tîm golygyddol O’r Pedwar Gwynt, Sioned Puw Rowlands, Owen Martell a Mari Siôn yn trafod eu cynlluniau cyffrous ar gyfer y cylchgrawn newydd.

Pwy ydych yn eu hadnabod yn ein horiel lluniau?Pwy ydych yn eu hadnabod yn ein horiel lluniau?Prif ddigwyddiad y dydd fydd Aduniad Prifysgol Bangor – digwyddiad hynod boblogaidd sy’n gyfle gwych i alumni a chyn-aelodau staff y Brifysgol a’r Coleg Normal gyfarfod a rhannu atgofion dros wydriad o win a lluniaeth ysgafn. Bydd yr aduniad yn dechrau am 14:00 ac mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at groesawu hen ffrindiau.

I gloi diwrnod llawn bwrlwm, bydd band amryddawn o ardal Llanrug, Y Galw yn chwarae set ar y stondin am 16:00.

Bydd y gwethgaredd yn parhau ddydd Iau, gyda chyfarfod Bwrlwm Bro a arweinir gan Dr Catrin Hedd Jones o Ysgol Seicoleg y Brifysgol am 12:00.Mae croeso i bawb ymuno mewn trafodaeth o gylch os yw, a sut y mae’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yn meithrin cymunedau gwydn a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru.

Er yn cyfeirio’n ôl at y ganrif ddiwethaf, digon amserol yw testun darlith BARN eleni, wrth i Bethan Kilfoil drafod Cyfeillion ffyddlon yn Ewrop – O 1916 i Brexit: ailddiffinio’r berthynas rhwng Iwerddon a’i chymdogion a’r gwersi posib y gall Cymru ei dysgu o hynny. Bydd y ddarlith yn dechrau am 13:00 a chroeso mawr i bawb.

Camu i fyd mathemateg  a wneir am 15:00, wrth i’r Athro Emeritws Gareth Ffowc Roberts gyflwyno’i gyfrol ddiweddaraf, Count us in, sy’n parhau â bwriad yr awdur o boblogeiddio mathemateg drwy archwilio’i rôl yn ein bywydau beunyddiol.

Gan ddwyn hanes sefydlu’r brifysgol i gof a chyfraniad hollbwysig y diwydiant llechi i’r fenter honno, priodol felly yw neilltuo diwrnod cyfan o weithgareddau i drafod cysylltiadau cyfredol y Brifysgol â’r graig. Am 12:00 ar ddydd Gwener (Diwrnod y Llechi), bydd tudalen Facebook Enwebiad Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru yn cael ei lansio ac am 12:45 ceir cyfle i glywed profiadau plant Ysgol Gynradd Pentreuchaf yng Ngwynedd a fu’n cyd-weithio â chwmnïau Halen Môn a Cerrig ar gynllunio, creu a gwerthu llestri dal halen allan o lechi.

All statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO a threftadaeth yn gyffredinol fod yn fodd o adfywio economi'r ardaloedd ôl-ddiwydiannol? Galwch heibio’r stondin am 13:00 i wrando ar drafodaeth Gwerth y Byd?

Boed yn gorau meibion neu grwpiau rap, mae’r ardaloedd chwarelyddol wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y sin gerddorol yng Nghymru. Am 14:00, bydd cwmni Sain yn lansio Llechi, casgliad o ganeuon sydd wedi eu hysbrydoli gan gymunedau ac ardaloedd y llechi. Priodol felly yw cloi gweithgareddau’r dydd â set gerddorol gan un sydd wedi ei eni a’i fagu yn un o’r bröydd hynny, sef y canwr adnabyddus o Flaenau Ffestiniog, Gai Toms, a hynny am 14:30.

Bydd aelodau staff Canolfan Cynefin ym Mhrifysgol Bangor ar y stondin ddydd Gwener i hel straeon y cyhoedd am ddiwylliant ac iaith Cymraeg a lle Cymru ar lwyfan ryngwladol, fel yr ydym yn  troedio i gyfnod wedi Brexit. Bydd effaith Brexit hefyd yn cael ei thrafod. Mae’r Ganolfan yn bwriadu cyflwyno darlun naratif o Gymru yn 2016 yn seiliedig ar y canlyniadau.

Daw gweithgareddau i ben ar y stondin wedi dwy sesiwn gan fandiau lleol i ardal y brifysgol, sef Y Galw unwaith eto am 14:00 a'r Chwedlau am 15:00 ddydd Sadwrn.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2016

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor