Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Caffael dinasoedd y dyfodol, heddiw: paratoadau terfynol yn cael eu gwneud at Wythnos Gaffael Prifysgol Bangor

Disgwylir i gynadleddwyr o dros 30 o wledydd ddod i gynhadledd ryngwladol fawr a drefnir gan Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael (ICPS) Prifysgol Bangor y mis hwn. 

Bydd Wythnos Gaffael 2015, a drefnir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn dod ag ymarferwyr, rheoleiddwyr ac academyddion ym maes caffael cyhoeddus at ei gilydd am wythnos o drafod bywiog ac ysgogol.

Ers ei sefydlu yn 2012 mae'r Wythnos Gaffael wedi datblygu'n sylweddol iawn fel y brif gynhadledd yn y maes, gyda dros 500 o gynadleddwyr o dros 20 o wledydd yn dod yno yn 2014.

Mae'r siaradwyr yn y gynhadledd eleni, a gynhelir yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd o 16-20 Mawrth, yn cynnwys ffigurau allweddol o'r Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, Amazon, Microsoft, Sefydliad Masnach y Byd, George Washington University, Bravosolution, Ombwdsmon Caffael Canada, UNCITRAL Geneva, y Sefydliad dros Gydweithio a Datblygu Economaidd a Llywodraeth Tsieina. 

Bydd Wythnos Gaffael 2015 yn dechrau gyda ffair yrfaoedd ac arddangosfa yn canolbwyntio ar gaffael, lle caiff arloeswyr eu mentora ar y ffordd orau i gyflwyno eu cynnyrch arloesol i brynwyr cyhoeddus - sydd ddim yn beth hawdd i'w wneud mewn cyfnod pan mae pobl ofn cymryd risg.  Bydd prynwyr mawr fel Microsoft, Brigâd Dân Llundain a Chyngor Dinas Caerdydd yn trafod sut maent yn mynd ati i sicrhau cynnyrch arloesol gan eu cyflenwyr er mwyn darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus.  Ymysg y cwmnïau a chyrff sy’n arddangos y mae’r BBC, O2, Nissan a Brigâd Dân Llundain.

Mae SMEs Cymreig a chwmnïau newydd wedi rhoi croeso brwd i'r ychwanegiad hwn i raglen 2015, gan y bydd yn dod â nodwedd newydd i faes gwerthu nwyddau arloesol yng Nghymru, gartref ac yn rhyngwladol.

Disgwylir mai prif atyniad yr wythnos fydd yr ymdriniaeth ar drydydd diwrnod y gynhadledd â phrojectau 'Smart Cities' ledled y byd.  Bydd siaradwyr o gyn belled â San Francisco, Singapore ac Amsterdam yn dod ynghyd am gyfres o astudiaethau achos yn ymwneud â themâu isadeiledd, cludiant a symudedd, a phobl a thechnoleg.

Fe wnaeth yr Athro Dermot Cahill, Athro Cyfraith Fasnachol yn Ysgol y Gyfraith y Brifysgol a Chadeirydd y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael , groesawu ychwanegu'r elfen 'Smart Cities' at Wythnos Gaffael 2015.  "Mae’n hollbwysig bod awdurdodau dinasoedd yn manteisio ar dechnolegau newydd, fel bod hynny'n arwain at fanteision sylweddol i ddinasoedd a'u dinasyddion.  Bydd cynrychiolwyr o ddinasoedd amlwg drwy'r byd yn dod i'r Wythnos Gaffael yng Nghaerdydd eleni i rannu eu profiadau gyda chynllunwyr dinesig a dyfeiswyr technolegau newydd ar gyfer bywyd trefol."

Mae Cyfarwyddwr Gweithredol ICPS, Gary Clifford, yn edrych ymlaen yn arbennig at ddwy elfen o'r wythnos.  Yn gyntaf, anerchiad gan Weinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, AC, a fydd yn agor pedwerydd diwrnod y gynhadledd. Bydd yn annerch cynulleidfa o brif gyfreithwyr caffael o Brydain, yr UE a rhyngwladol, gan ymdrin â datblygiadau pwysig yng Nghymru wrth iddi gynllunio i ystyried troi amcanion caffael yn gyfraith. 

"Amser a ddengys p'un a yw Cymru'n barod i gymryd y cam yma," meddai Gary, gan ychwanegu bod "ein hymchwil ym Mangor dros lawer o flynyddoedd yn cadarnhau mai dyma'r ffordd i fynd, yn arbennig os yw Cymru eisiau ystyried ei phersbectif unigryw ar gaffael a defnyddio polisi caffael fel cyfrwng i hyrwyddo cynnydd cymdeithasol ac amcanion economaidd-gymdeithasol."

Uchafbwynt arall Gary yw'r Gwobrau Caffael Cenedlaethol, a fydd yn dod ag Wythnos Gaffael 2015 i'w therfyn.  Nod y Gwobrau, a gynhelir yn Neuadd y Ddinas ar noson 20 Mawrth, yw cydnabod y gorau a'r disgleiriaf ym maes caffael yng Nghymru.  Lucy Owen, newyddiadurwraig y BBC sy’n llywyddu’r noson a bydd araith gan Jane Hutt AC, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru.

I gyd-fynd â rhaglen yr wythnos ceir digwyddiad cymdeithasol bob dydd i roi sylw i elfennau gorau diwylliant Cymru, yn cynnwys cinio rhyngwladol gyda maer dinas Caerdydd yng Nghastell Caerdydd. 

Diolch i gefnogaeth hael yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru a llawer o noddwyr, ni chodir unrhyw dâl am ddod i'r digwyddiadau yn ystod y dydd, ond anogir rhai sydd â diddordeb i gofrestru cyn gynted â phosib gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I gofrestru, ewch i www.procurementweek.org.uk.

Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor