Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer prif Ganolfan Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol
Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) wedi penodi Cyfarwyddwr newydd.
Yr Athro Ian Rees Jones.Mae’r Athro Ian Rees Jones wedi cael ei benodi yn Gyfarwyddwr newydd WISERD. Wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd yn arwain y Sefydliad sydd wedi dod yn brif ganolfan ar gyfer rhagoriaeth mewn ymchwil y gwyddorau cymdeithasol, yng Nghymru ac y tu hwnt iddi. Sefydlwyd WISERD yn 2008 i ddod ag arbenigedd ymchwilwyr o brifysgolion Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, De Cymru ac Abertawe ynghyd.
Nod y Sefydliad yw cryfhau ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol ac economaidd ledled Cymru trwy gydweithredu a mentrau ar y cyd.
Wrth siarad am ei swydd newydd, dywedodd yr Athro Jones, ‘Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i fod yn Gyfarwyddwr WISERD. Mae WISERD wedi bod yn cynhyrchu ymchwil amlddisgyblaethol o ansawdd uchel ers ei sefydlu yn 2008 ac mae ein llwyddiant yn ddiweddar o ran cael cyllid ymchwil ar gyfer Cymru, ynghyd â’r gefnogaeth barhaus a gawn o’r pum prifysgol sy’n ffurfio Grŵp Dydd Gŵyl Dewi Sant, yn adlewyrchu proffil WISERD fel canolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol am ragoriaeth ei hymchwil.’
‘Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar etifeddiaeth y bum mlynedd diwethaf ac ymgymryd â phrosiectau ymchwil newydd a heriol, datblygu ein doniau ymchwil yng Nghymru a chyflwyno ymchwilwyr newydd ar gyfer y dyfodol.’
Yn gyn Bennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, cyn ymuno â WISERD yn 2012, mae’r Athro Jones yn adnabyddus am ei ymchwil ar anghydraddoldebau ym maes iechyd; a heneiddio a bywyd hwyrach. Mae ganddo ddiddordeb mewn damcaniaethu newid cymdeithasol a phrosesau newid cymdeithasol (yn enwedig ers y 1960au) ac mae wedi ymchwilio hefyd i feysydd sy’n canolbwyntio ar ffyrdd o fyw a chysylltiadau cymdeithasol, dosbarthiadau cymdeithasol, newid cymunedol a chymdeithasol a thryloywder ac ymddiriedaeth ym meysydd iechyd a lles.
Yn aelod newydd ei benodi o Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, mae’r Athro Jones yn awyddus i ddatblygu ymchwil sy’n berthnasol i bolisi trwy fentrau cydweithredol ac arbenigedd mewn ymagweddau dulliau cymysg. Mae’n disodli’r Athro Gareth Rees, a ymddeolodd fel Cyfarwyddwr ym mis Awst 2013. Bydd yr Athro Rees yn parhau â’i waith ar ymchwil addysg yn WISERD.
Sefydlwyd Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn 2008 i ddod ag arbenigedd mewn dulliau a methodolegau ymchwil feintiol ac ansoddol ynghyd ac adeiladu arno ym mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Mae WISERD yn cyflawni gweithgareddau ymchwil ac adeiladu gallu sy’n sail i seilwaith ymchwil yn y gwyddorau economaidd a chymdeithasol ledled Cymru a’r tu hwnt iddi.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2013