Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Cyllid yn cael ei ddyfarnu i gwblhau catalogio papurau Castell Penrhyn

Rhybudd a gyhoeddwyd gan Reolwr Chwarel y Penrhyn ar ddechrau'r streic 3 blynedd.Rhybudd a gyhoeddwyd gan Reolwr Chwarel y Penrhyn ar ddechrau'r streic 3 blynedd.Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor wedi llwyddo i gael grant i helpu i gatalogio gweddill papurau Castell Penrhyn.

Dyfarnodd y Rhaglen Grantiau Catalogio Genedlaethol grant o £46,487 i gwblhau catalogio deunydd archifol sy’n mesur 47 metr ar ei hyd. Bydd y papurau sy’n ymwneud â'r planhigfeydd siwgr yn Jamaica ac yn eiddo i'r teulu Pennant ynghyd â deunyddiau sy'n ymwneud â Streic Chwarel y Penrhyn o 1900-1903 o bwysig arbennig i haneswyr cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae'r casgliad Penrhyn wedi bod dan ofal y Brifysgol ers dros 25 mlynedd. Mae canran uchel o'r casgliad hwn wedi cael ei gatalogio dros y blynyddoedd ac mae rhai o'r rhestrau hyn, er enghraifft papurau yn ymwneud â Streic Chwarel Bethesda 1900-1903, ar gael ar-lein drwy CALMView (http://calmview.bangor.ac.uk/CalmView/).

Dengys ystadegau bod casgliad y Penrhyn eisoes yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd ac a ddarllenir amlaf gan ddefnyddwyr Archifau'r Brifysgol. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2013-2014, edrychwyd ar 1185 o ddogfennau’r Penrhyn.

Delwedd a ddaeth o lyfr arolwg o ystâd y Penrhyn yn dyddio o'r 1920au.Delwedd a ddaeth o lyfr arolwg o ystâd y Penrhyn yn dyddio o'r 1920au.Meddai’r archifydd, Elen Simpson: "Mae’r galw cyhoeddus am y casgliad pwysig hwn wedi rhoi prif flaenoriaeth iddo ar gyfer catalogio, a dyna sydd tu ôl i’n penderfyniad i wneud cais am grant gan y Rhaglen Grantiau Catalogio Cenedlaethol ar gyfer Archifau unwaith eto eleni - a diolch byth, y tro hwn, rydym wedi bod yn llwyddiannus.

"Rydym yn hynod o falch ein bod wedi derbyn y cyllid hwn. Mae’n hen bryd i’r casgliad pwysig hwn gael ei gatalogio’n llawn, a’r gobaith yw y bydd unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes y teulu Pennant yn medru cael mynediad at yr holl ddogfennau yn y casgliad yn fuan iawn.”

Bydd y project yn cynnwys cyflogi "Archifydd Project" llawn-amser am 20 mis i gatalogio gweddill y casgliad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda staff a gwirfoddolwyr yr Archifau er mwyn sicrhau bod pob dogfen yn cael ei rhestru, rhifo a’i phecynnu mewn bocsys yn unol â safonau archifol.

Bydd y gwaith hwn yn bwysig i ystod eang o haneswyr. Mae gan gasgliad Penrhyn arwyddocâd enfawr i dreftadaeth ddiwylliannol Gwynedd, ond bydd y project "Siwgr a llechi: Papurau Pellach Ychwanegol Castell Penrhyn" yn tynnu sylw at ei bwysigrwydd ar raddfa ehangach.

Meddai Einion Thomas, Archifydd y Brifysgol: "Bydd cwblhau'r catalog aml-lefel o gasgliad di-dor yr ystâd o'r 12fed ganrif i’r presennol yn rhoi cyfle enfawr ar gyfer ymchwil. Mae'n genhadaeth gan yr Archifau a Chasgliadau Arbennig i fod wrth wraidd ymchwil academaidd o fewn y Brifysgol.

Map o diroedd planhigfa yn Jamaica oedd yn eiddo i'r teulu Pennant yn y 18fed ganrif.Map o diroedd planhigfa yn Jamaica oedd yn eiddo i'r teulu Pennant yn y 18fed ganrif."Ein nod yw gwneud cyfraniad allweddol i wella profiad y myfyrwyr ac ymwneud mwy gyda'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu boed yn y Brifysgol neu yn y gymuned ehangach. Bydd y project hwn yn ein helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Bydd llawer o weithgareddau estyn allan yn cael eu trefnu o ganlyniad uniongyrchol i'r project hwn er mwyn hyrwyddo mynediad at y casgliad."

Bydd cwblhau'r catalog yn rhoi mynediad at ddeunydd sydd heb ei gatalogio yn flaenorol, a'r hyn sydd wedi bod yn adnodd ymchwil heb ei gyffwrdd i raddau helaeth. Bydd hyn yn ffactor allweddol wrth gefnogi dysgu a datblygiadau ymchwil o fewn y Brifysgol a thu hwnt.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor