Cymysgu efo sêr y byd ffilm a phrofi 48 awr a newidiodd ei fywyd yn Efrog Newydd
Ni Fydd HanJie yn bresennol yn ei seremoni graddio gan ei fod dal i fod yn Efrog Newydd.Mae HanJie Chow, myfyriwr sydd ar fin graddio o Brifysgol Bangor, wedi bod yn cymysgu â sêr ffilm ac wedi profi 48 awr a newidiodd ei fywyd yn Efrog Newydd yn ystod ei ‘flwyddyn dramor’ fel rhan o’i astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r myfyriwr 26 oed, sydd yn graddio‘r haf eleni, wastad wedi mwynhau’r celfyddydau perfformio, a hyd yn oed wedi ychwanegu modiwlau celfyddydau perfformio ar ben ei radd Ffrangeg a Seicoleg a gweithio mewn archfarchnad leol. Drwy ei raglen gyfnewid efo Prifysgol Pace yn Efrog newydd, a’i astudiaethau yno, bu i HanJie gyfarfod a rhai ‘selebs’ gan gynnwys Danny Aiello a Bradley Cooper.
Meddai HanJie: “Bu i ffrind da i mi fy nghyflwyno i‘w mentor hi, Danny Aiello - a enwebwyd ar gyfer Oscar am ei rôl yn ffilm Spike Lee, Do The Right Thing ac sydd wedi chwarae rolau yn The Godfather Part 2, a Once Upon A Time in America. Rydym wedi cyfarfod ar sawl achlysur, a hyd yn oed wedi cael te prynhawn yn The Plaza ar pen-blwydd fy ffrind. Yn ogystal, roeddwn newydd weld drama Bradley Cooper, 'The Elephant Man' ar Broadway (sydd yn ddiweddar wedi symud i’r West End!) pan gyfarfyddais ag o. Fe raddiodd o’r ‘Actor's Studio Drama School’ sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Pace, a 'The Elephant Man' oedd ei ran a dewisodd ar gyfer ei glyweliad ar gyfer yr Ysgol. Roeddwn yn ffodus iawn i gymryd gwersi hyfforddi llais preifat efo’r athro yn Pace a ddysgodd Bradley’r holl flynyddoedd yn ôl, pan roedd yn fyfyriwr yno.”
Daeth y 48 awr newid- bywyd HanJie wrth iddo wneud cais am le i astudio yn yr American Academy of Dramatic Arts enwog.
Er ei fod wedi ei derbyn i ysgol actio East 15, sydd hefyd ag enw da iddi, gwnaeth HanJie y cais fel modd i aros yn Efrog Newydd, gan ei fod wedi disgyn mewn cariad efo’r ddinas.
HanJie gyda Danny Aiello- a gafodd ei enwebu am Oscar, Nikki Pope (mewn glas), a raddiodd o'r Academy ac sydd bellach yn canu mewn bwyty enwog Ellen's Stardust Diner ar Broadway ac Emma Smith, cantores o Lundain.“Trodd holl gynlluniau wyneb i waered mewn llai na 48 awr - roeddwn wedi gwneud cais a chlyweliad a chefais alwad deuddydd wedi’r clyweliad (yn hytrach na’r tair wythnos ddisgwyliedig) yn dweud fy mod wedi cael fy nerbyn. Byddai hynny ynddo’i hun yn ddigon, ond hefyd dysgais fy mod i dderbyn ysgoloriaeth $10,000. Mae’n rhaid bod i wedi gwneud rhywbeth yn iawn!” meddai.
Mae HanJie hefyd wedi cyflawni gradd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg efo Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.
Meddai am ei bum mlynedd yn astudio ym Mangor:
“Taswn yn medru newid fy mhenderfyniad i ddilyn celfyddydau perfformio yn y lle cyntaf, yn lle astudio am bum mlynedd, ni faswn yn newid dim. Ni faswn yn medru dilyn y celfyddydau oni bai fy mod wedi treulio pum mlynedd yn dysgu amdanaf i fy hun. Yn gryno, ni faswn yn yr unfan ac ydwyf oni bai fy mod wedi astudio fy ngradd gyntaf.”
“Dewisais Bangor am fod iddi Ysgol Ieithoedd Modern grêt ac Ysgol Seicoleg o raddfa byd eang. Roeddwn yn caru’r gofal a sylw a oedd yn rhan o’r Ysgol Ieithoedd Modern oherwydd y dosbarthiadau bach eu maint. Cefais yr ymdeimlad bod yr Ysgol yn gymuned glos, lle'r oedd y darlithwyr a staff yn ymdrechu i ddarparu cymaint o gefnogaeth a oedd y myfyrwyr eu hangen - a dyna yn sicr oedd profiad pob un ohonom drwy gydol ein hamser yno!”
Roeddwn hefyd wrth fy modd efo’r lleoliad, gan fod harddwch naturiol o’n cwmpas!”
Roedd hefyd wedi mwynhau ei brofiadau tramor,
“Treuliais flwyddyn ar ynys Martinique yn y Caribî Ffrengig- roedd yr un mor ddelfrydol ag y mae’n swnio! Roedd fy amser yno’n anghredadwy, rwyf dal i synfyfyrio drosto o bryd i’w gilydd, ac rwy’n colli’r ffordd o fyw araf yno. Mae pawb mor ymlaciol yno! Yn dilyn fy nhrip, cefais fy rhoi ar restr fer gan y Cyngor Prydeinig am eu cystadleuaeth flynyddol i hybu’r flwyddyn dramor.”
HanJie gyda'r actor/ cynhyrchydd Bradley Cooper.Yn ystod yr hyn a ddylai wedi bod ei flwyddyn olaf o astudio, penderfynodd HanJie wneud cais ar gyfer cyfnewid tramor arall yn Efrog Newydd.
Llwyddodd HanJie i gyllido’r cyfnodau tramor ei hun drwy weithio mewn archfarchnad leol:
“Llwyddais i weithio yn ogystal â chadw fy mhen uwchben y dŵr efo fy aseiniadau a phresenoldeb- dydw i ddim yn gwybod sut y llwyddais! Gwnes ffrindiau da gyda’r bobol yn yr archfarchnad. A dweud y gwir, nes i rentu ystafell efo un o’r teuluoedd gweithiais a nhw yn Waitrose yn ystod fy mhedwaredd flwyddyn. Roedd rhan o fy swydd yn cynnwys gwasanaeth danfon bwyd, felly treuliais lawer o amser yn teithio gogledd Cymru yn danfon siopa gartref i gwsmeriaid, er na allaf siarad Cymraeg, medraf ynganu enwau llefydd yn dda, hyd yn oed Llanfairpwllgwyngyllgogerychwrndrobwllllantisiliogogoch.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015