Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Dathlu Gwaith Merched mewn Cerddoriaeth

Elin Manahan-ThomasElin Manahan-ThomasBydd dau gyngerdd clasurol yng Nghanolfan Pontio Prifysgol Bangor yn uchafbwynt i'r Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth (4 – 7 Medi) sy'n dathlu cyraeddiadau cerddorion benywaidd. Amserwyd y Gynhadledd i gyd-daro â chofio 40 mlynedd ers marwolaeth y gyfansoddwraig Grace Williams (1906-77), un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymreig yr ugeinfed ganrif i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol.

Bydd y ddau gyngerdd ar ddydd Llun 4 Medi yn Neuadd Powis am 5.45pm a nos Fercher 6 Medi yn Theatr Bryn Terfel Pontio am 7.30pm yn cynnwys cerddoriaeth Grace Williams, yn ogystal â pherfformiadau cyntaf o ddarnau gan y cyfansoddwyr blaenllaw o Brydain, Nicola LeFanu ac Eleanor Alberga.

Bydd cyngerdd nos Lun Ensemble Cymru, Landmarks, yn rhoi llwyfan i rai o'r darnau cerddoriaeth siambr orau gan gyfansoddwyr benywaidd. Rhoddir y sylw pennaf i Sextet gan Grace Williams, darn o waith na pherfformir mohoni'n aml sy'n cynnwys rhan flaenllaw i'r trymped - hoff offeryn y gyfansoddwraig o Gymru. Bydd y bariton Jeremy Huw Williams yn ymuno â'r Ensemble am y perfformiad cyntaf yn y byd o The Swan Nicola LeFanu.

Bydd y cantorion o Gymru sydd wedi ennill bri rhyngwladol, Elin Manahan Thomas a Jeremy Huw Williams, yn ymddangos am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, gyda Paula Fan o America yn Jeremy Huw WilliamsJeremy Huw Williamscyfeilio ar y piano, yn y cyngerdd Ar Adenydd Cân/ On Wings of Song nos Fercher 6 Medi. Bydd y cyngerdd arloesol hwn yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr benywaidd ar hyd yr oesoedd - Caritas Abundat gan Hildegard o Bingen o'r 11eg ganrif, My Last Duchess gan Grace Williams a'r gwaith gwefreiddiol King Harald's Saga gan Judith Weir, Meistr Cerddoriaeth presennol y Frenhines. Ceir sgwrs cyn y cyngerdd am 6.15pm gan Elen ap Robert a Geraint Lewis yn trafod gwaith y gyfansoddwraig Dilys Elwyn-Edwards a chyfansoddwragedd eraill o'r un cyfnod â hi. Bydd y drafodaeth yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd, ac yn cael ei ffrydio'n fyw ar y we.

Dywedodd Dr. Rhiannon Mathias, Darlithydd yn yr Ysgol Cerddoriaeth, a Threfnydd y Gynhadledd:

"Rydym yn hynod o falch o fod yn cynnal y Gynhadledd hon yn bwrw golwg dros waith cerddorion benywaidd. Bydd y ddau gyngerdd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd gael blas ar amrywiaeth eang o gerddoriaeth, popeth o'r oesoedd canol i'r  cyfnod modern.

"Mae gennym bapurau gan academyddion, ymarferwyr, cyllidwyr, darlledwyr a newyddiadurwyr, sydd, yn ogystal â chanolbwyntio'n arbennig ar gerddorion a chyfansoddwyr o Gymru, hefyd yn taflu goleuni ar gyfraniadau gan fenywod Maori, menywod o Taiwan ac o'r Dwyrain Canol, mewn meysydd cerddorol gwahanol iawn i'w gilydd."

"Mae uchafbwyntiau eraill y Gynhadledd yn cynnwys Panel PRS for Music a Phanel Diwydiant Cerddoriaeth a gadeirir gan Deborah Annetts, Prif Swyddog Gweithredol yr Incorporated Society of Musicians, yn trafod sefyllfa cerddorion sy'n fenywod yn niwydiant byd-eang cerddoriaeth heddiw. Cyn y drafodaeth banel hon, bydd Edwina Wolstencroft yn siarad am ei gwaith fel Golygydd Diwrnod Rhyngwladol Menywod ar BBC Radio 3."

Paula fanPaula FanDywedodd yr Athro Chris Collins, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: "Dyma'r gynhadledd ryngwladol gyntaf ar bwnc pwysig iawn gwaith merched mewn cerddoriaeth, ac rydym wedi bod wrth ein bodd â'r ymateb rydym wedi ei gael o bob cwr o'r byd. Mae’n bleser gennym ein bod yn cynnal y gynhadledd ym Mangor, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu agor rhai o'r uchafbwyntiau i'r cyhoedd."

Yn ogystal â'r cyngherddau, mae dau ddigwyddiad Cynhadledd cyffrous arall yn agored i'r cyhoedd. Nos Iau, 7 Medi am 11am yn Neuadd Powis, bydd y berfformwraig feistrolgar Madeleine Mitchell - a ddisgrifiwyd gan The Times fel ‘one of Britain's liveliest musical forces (and) foremost violinists' - yn rhoi'r perfformiad cyntaf yn y byd o Sonata ar gyfer Ffidyl Grace Williams, gyda chyfeiliant gan y pianydd Konstantin Lapshin. Dilynir y datganiad yn Neuadd Powis gan berfformiad am 12 canol dydd gan Gwmni Opera Cymru o ddarn o waith gan Williams na chlywir mohoni'n aml, The Lovely Gift of the Gab, gwaith a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn 1965 ac a ddisgrifiwyd gan Gyngor Celfyddydau Prydain Fawr fel 'blodeugerdd o ryddiaith a barddoniaeth Gymraeg o'r chweched ganrif hyd heddiw, i gyfeiliant cerddoriaeth'.

Ceir manylion pellach am y Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth ar http://wwm.bangor.ac.uk/

Gellwch brynu tocynnau ar gyfer cyngherddau Landmarks ac On Wings of Song ar-lein ar www.pontio.co.uk neu drwy ffonio 01248 38 28 28 neu o'r Swyddfa Docynnau.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2017

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor